Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Prosiect ymchwil

Bwyd a Chi – Cylch Pump

Ymchwil o gylch pump arolwg defnyddwyr Bwyd a Chi bob dwy flynedd.

Mae arolwg defnyddwyr Bwyd a Chi yn casglu gwybodaeth am ymddygiad, agweddau a gwybodaeth y cyhoedd yn ymwneud â diogelwch bwyd a phroblemau mewn perthynas â bwyd. Mae’n darparu data ar arferion prynu, storio, paratoi a bwyta bwyd yn ogystal â ffactorau sy’n effeithio ar y pethau hyn. 
  
Mae'r arolwg yn darparu data ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ers 2014, mae canlyniadau Bwyd a Chi wedi'u cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol, sy'n adlewyrchu methodoleg gadarn yr arolwg. 

Amcanion  

Dyma amcanion penodol cylch pump arolwg Bwyd a Chi:   

  • Archwilio dealltwriaeth a chysylltiad y cyhoedd â diogelwch bwyd 
  •  Asesu gwybodaeth am negeseuon ac ymyriadau sydd âr bwriad o godi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad 
  • Disgrifio agweddau’r cyhoedd tuag at gynhyrchu bwyd a’r system fwyd  
  • Monitro tueddiadau mewn ymddygiad, agweddau a gwybodaeth yr adroddir amdanynt (o'i gymharu â data o'r pedwar cylch blaenorol neu o ffynonellau eraill)
  • nodi grwpiau targed ar gyfer ymyriadau’r dyfodol (e.e. y rheiny sydd mewn mwyaf o berygl neu’r rheiny lle mae polisïau a mentrau’r ASB yn fwyaf tebygol o gael yr effaith fwyaf) 
  • nodi dangosyddion a thystiolaeth ar gyfer tracio cynlluniau strategol yr ASB 

Roedd cylch pump (2018), yn cynnwys 2,241 o gyfweliadau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cynhaliwyd gwaith maes o fis Mehefin i fis Tachwedd 2018 gyda sampl gynrychioliadol o oedolion dros 16 oed yn yr adroddiad cyfunol. 

Nodyn 03/05/2019: Cywiriadau yn ymwneud â bwyta ‘llaeth amrwd’, ‘cigoedd wedi’u halltu neu wedi’u sychu’ a ‘chigoedd wedi’u coginio ymlaen llaw’

Roedd ymatebion i’r cwestiynau ‘Ar hyn o bryd, pa mor aml ydych chi’n bwyta cigoedd wedi’u halltu a chigoedd wedi’u sychu?’ a ‘Pa mor aml ydych chi’n bwyta llaeth amrwd’? wedi’u gadael allan yn ddamweiniol o Adran 1.3 a Thablau 1.4 ac 1.5 yr adroddiad cylch pump gwreiddiol. Mae ymatebion i’r cwestiynau hyn bellach wedi’u hychwanegu at y tablau a’r adroddiad. Mae geiriad y cwestiwn ‘Ar hyn o bryd, pa mor aml ydych chi’n bwyta cigoedd wedi’u coginio ymlaen llaw?’ hefyd wedi’i gywiro yn Nhabl 1.4 ac Adran 1.3 i adlewyrchu newidiadau i eiriad y cwestiwn a gyflwynwyd yng nghylch pump.

Prif ganfyddiadau adroddiad cyfunol cylch pump Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon: 

  • Er mwyn cael darlun cyffredinol o ymddygiad  pobl at ddiogelwch bwyd, rydym yn defnyddio’r Mynegai Arfer Argymelledig (IRP), sef mesur cyfansawdd ar gyfer gwybodaeth ac ymddygiad mewn perthynas â hylendid bwyd o fewn y cartref. Y sgôr gyfartalog yng nghylch pump yw 67%, yr un sgôr â chylch pedwar a chynnydd o 64% o'i gymharu â chylch un, gan ddangos bod y rhan fwyaf o ymatebwyr yn dilyn ein hargymhellion ar ddiogelwch bwyd yn y cartref  
  • Ers 2012, mae prynu o archfarchnadoedd bach wedi cynyddu o 35% i 43%, ac mae derbyn bwyd yn y cartref o archfarchnadoedd wedi cynyddu o 10% i 17% 
  • Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr (87%) eu bod wedi gweld y sticer Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Bu lefelau cynyddol o ymatebwyr yn cydnabod sticeri'r cynllun ers iddynt gael eu cyflwyno yn 2010, o 34% yn 2012, i 68% yn 2014, 83% yn 2016 ac 87% yn 2018 
  • Soniodd tua thri o bob pump o'r ymatebwyr am wasanaeth da (61%), sgôr hylendid da (60%) a phris bwyd (60%) fel ffactorau pwysig wrth benderfynu ble i fwyta allan 
  • Dywedodd 47% o ymatebwyr eu bod wedi dioddef o wenwyn bwyd ar ryw adeg yn eu bywydau, cynnydd o rhwng 40% a 41% yn 2012 a 2014 a 44% yn 2016 

Adroddiadau ymchwil

Wales

Northern Ireland

Adroddiad cyfunol – tablau canlyniadau

Mae’r tablau canlyniadau ar gyfer yr adroddiad cyfunol ar gael yn ein catalog data (Saesneg yn unig).

Adroddiad cymharu’r gwledydd – tablau canlyniadau

Mae’r tablau canlyniadau ar gyfer adroddiad cymharu’r gwledydd ar gael yn ein catalog data (Saesneg yn unig).

Cwestiynau am darddiad bwyd – tablau canlyniadau

Y tablau canlyniadau ar gyfer cwestiynau yn ymwneud â sut caiff ein bwyd ei gynhyrchu. (Saesneg yn unig). Cafodd y cwestiynau hyn eu hariannu gan Defra ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn adroddiad cylch pump.

Adroddiad Cymru – tablau canlyniadau

Mae’r tablau canlyniadau ar gyfer adroddiad Cymru ar gael yn ein catalog data (Saesneg yn unig).

Adroddiad Gogledd Iwerddon – tablau canlyniadau

Mae’r tablau canlyniadau ar gyfer adroddiad Gogledd Iwerddon ar gael yn ein catalog data (Saesneg yn unig).

Gwybodaeth gefndirol

England, Northern Ireland and Wales