Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 5 Key Findings

Cylch 5: Pennod 6 Bwyta gartref

Mae'r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth, agweddau ac ymddygiadau ymatebwyr sy'n ymwneud â diogelwch bwyd, deiet, ac ymddygiadau eraill sy'n gysylltiedig â bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023

Cyflwyniad  

Mae’r ASB yn gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd rhag clefydau a gludir gan fwyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd, a’r sectorau manwerthu a lletygarwch, i sicrhau bod y bwyd y mae pobl yn ei brynu yn ddiogel. Mae’r ASB yn darparu canllawiau ymarferol ac argymhellion i ddefnyddwyr ar ddiogelwch a hylendid bwyd yn y cartref. 

Gan fod pobl yn gyfrifol am baratoi a storio bwyd yn ddiogel yn eu cartref, mae Bwyd a Chi 2 yn gofyn i’r ymatebwyr am eu hymddygiad mewn perthynas â bwyd yn y cartref, gan gynnwys a ydynt yn bwyta bwydydd penodol, a gwybodaeth ac ymddygiad mewn perthynas â phum agwedd bwysig ar ddiogelwch bwyd: glanhau, coginio, oeri, atal croeshalogi a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. Mae Bwyd a Chi 2 hefyd yn gofyn i ymatebwyr pa mor aml y maent yn paratoi neu’n bwyta rhai mathau o fwyd. 

Mae dwy fersiwn o’r modiwl ‘Bwyta gartref’; y modiwl cryno sy’n cynnwys nifer cyfyngedig o’r prif gwestiynau sy’n cael eu trafod yn flynyddol, a fersiwn lawn sy’n cynnwys cwestiynau ychwanegol ac sy’n cael ei hanfon bob 2 flynedd. Adroddir ar y modiwl llawn ‘Bwyta gartref’ yn y bennod hon (footnote 1).

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth, agweddau ac ymddygiadau’r ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd, deiet, ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd. 

Glanhau

Golchi dwylo yn y cartref

Mae’r ASB yn argymell y dylai pawb olchi eu dwylo cyn paratoi, coginio neu fwyta bwyd, ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd, a chyn trin bwyd parod i’w fwyta. 

Dywedodd tua hanner (49%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn bwyta. Fodd bynnag, dywedodd 48% o’r ymatebwyr nad ydyn nhw bob amser (hynny yw’r rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml) yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu goginio bwyd ac nid yw 2% byth yn gwneud hyn (footnote 2)

Dywedodd tua thri chwarter (74%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu goginio bwyd. Fodd bynnag, dywedodd 25% o’r ymatebwyr nad ydynt bob amser (hynny yw’r rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml) yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu goginio bwyd (footnote 3).

Dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr (92%) eu bod nhw bob amser yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd. Fodd bynnag, dywedodd 7% o’r ymatebwyr nad ydynt bob amser (hynny yw’r rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml) yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd (footnote 4).

Golchi dwylo wrth fwyta allan

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, yr oeddent yn golchi eu dwylo neu’n defnyddio hylif diheintio (sanitising gel) dwylo neu weips cyn bwyta pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Dywedodd tua thraean (34%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo, yn defnyddio hylif diheintio dwylo neu weips pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Roedd 58% yn gwneud hyn yn llai aml (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml) ac nid oedd 7% byth yn gwneud hyn (footnote 5).

Oeri

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar sut i oeri bwyd yn iawn i helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu

Ydy’r ymatebwyr yn cadarnhau tymheredd yr oergell ac, os felly, sut?

Pan ofynnwyd iddynt beth yw’r tymheredd cywir tu mewn i oergell, dywedodd 59% o’r ymatebwyr y dylai fod rhwng 0 a 5 gradd Celsius, fel yr argymhellir gan yr ASB. Dywedodd un rhan o bump (20%) o’r ymatebwyr y dylai’r tymheredd fod yn uwch na 5 gradd; dywedodd 3% y dylai’r tymheredd fod yn is na 0 gradd; ac nid oedd 18% o’r ymatebwyr yn gwybod beth oedd y tymheredd cywir ar gyfer y tu mewn i’w hoergell (footnote 6).

Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr ag oergell eu bod yn monitro’r tymheredd, naill ai â llaw (48%) neu drwy larwm tymheredd mewnol (11%) (footnote 7). O blith yr ymatebwyr sy’n monitro tymheredd eu hoergell, dywedodd 80% eu bod yn cadarnhau tymheredd eu hoergell o leiaf unwaith y mis, fel yr argymhellir gan yr ASB (footnote 8).

Dadmer

Mae’r ASB yn argymell bod bwyd yn cael ei ddadmer yn yr oergell, neu, os nad yw hyn yn bosib, mewn microdon gan ddefnyddio’r gosodiad dadmer. Cynghorir yr ymatebwyr i beidio â dadmer bwydydd ar dymheredd yr ystafell.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ddulliau maen nhw’n eu defnyddio fel arfer i ddadmer cig neu bysgod. Dywedodd un o bob 10 (41%) o’r ymatebwyr eu bod yn dadmer cig neu bysgod yn yr oergell, a dywedodd 6% eu bod yn defnyddio microdon. Dywedodd llai na hanner yr ymatebwyr (45%) eu bod yn gadael y cig neu’r pysgod ar dymheredd yr ystafell, a dywedodd 6% eu bod yn gadael y cig neu’r pysgod mewn dŵr (footnote 9).

Coginio

Mae’r ASB yn argymell y bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Wrth goginio porc, dofednod, a chynhyrchion briwgig, mae’r ASB yn argymell y dylai’r cig fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd, ac nid yw unrhyw ran o’r cig yn binc, a bod unrhyw suddion yn glir. 

Dywedodd y mwyafrif (78%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn coginio bwyd nes ei fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd, ond dywedodd 22% nad ydynt bob amser yn gwneud hyn (footnote 10).

Ffigur 16. Pa mor aml mae’r ymatebwyr yn bwyta gwahanol fathau o gig pan fydd yn binc neu â sudd pinc

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun
Math o gig O leiaf yn achlysurol Byth
Cig coch 61 38
Hwyaden 30 69
Byrgyrs cig eidion 30 70
Darnau cyfan o borc neu olwythion porc 8 91
Cyw i�r neu dwrci 6 92
Selsig 6 93

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml y maent yn bwyta gwahanol fathau o gig pan fo’r cig yn binc neu â sudd pinc (footnote 11). Dywedodd tua 9 o bob 10 o’r ymatebwyr nad ydynt byth yn bwyta selsig (93%), cyw iâr neu dwrci (92%), neu doriadau cyfan o borc neu olwythion porc (91%) pan fydd yn binc neu â sudd pinc. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr nad ydynt byth yn bwyta byrgyrs cig eidion (70%) neu hwyaden (69%) pan fyddant yn binc neu â sudd pinc. Fodd bynnag, nododd 61% o’r ymatebwyr eu bod yn bwyta cig coch (hynny yw, o leiaf yn achlysurol) pan fydd yn binc neu â sudd pinc (Ffigur 16) (footnote 12)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, y maent yn bwyta wystrys amrwd neu laeth amrwd (heb ei basteureiddio). Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr nad ydynt byth yn bwyta wystrys amrwd (87%) na llaeth amrwd (91%) (footnote 13).

Ailgynhesu

Ffigur 17. Sut mae’r ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun
Method used Percentage of respondents
Use a thermometer / probe 9
Put my hand over / touch it 13
Taste it 23
Check it is an even
temperature throughout" 28
Use a timer 32
Stir it 33
See it's bubbling 34
See steam coming from it 34
Follow label instructions 43
Check the middle is hot 53

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi sut maent yn gwirio bod bwyd yn barod i’w fwyta pan fyddant yn ei ailgynhesu. Y dull mwyaf cyffredin oedd gwirio bod y canol yn boeth (53%), a’r dull lleiaf cyffredin oedd defnyddio prôb neu thermomedr (9%) (Ffigur 17) (footnote 14)

Mae’r ASB yn argymell mai dim ond unwaith y dylid ailgynhesu bwyd. Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr sawl gwaith y byddent yn ailgynhesu bwyd, dywedodd y mwyafrif y byddent yn ailgynhesu bwyd unwaith yn unig (83%). Byddai 9% yn ailgynhesu bwyd ddwywaith, a dim ond 3% fyddai’n ailgynhesu bwyd fwy na dwywaith (footnote 15).

Bwyd dros ben

Ffigur 18. Beth mae’r ymatebwyr yn ei wneud gyda bwyd dros ben ar ôl pryd bwyd

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun
Camau gweithredu a gymerwyd Canran yr ymatebwyr
Does gen i ddim bwyd dros ben 7
Rydw i�n ei adael ar dymheredd ystafell a�i fwyta�n ddiweddarach yr un diwrnod 2
Rydw i'n ei adael ar dymheredd ystafell a�i fwyta y diwrnod nesaf 3
Rydw i'n ei roi yn y rhewgell 8
Rydw i'n ei daflu i ffwrdd neu ei roi yn y bin gwastraff bwyd 15
Rydw i'n rhoi�r bwyd yn yr oergell 64

Lawrlwytho’r siart hon

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth maen nhw fel arfer yn ei wneud gyda bwyd dros ben ar ôl pryd bwyd. Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr eu bod yn rhoi’r bwyd dros ben yn yr oergell (64%). Dywedodd rhai o’r ymatebwyr eu bod yn taflu’r bwyd dros ben neu’n ei roi mewn bin bwyd (15%). Dywedodd cyfran fach o’r ymatebwyr eu bod yn gadael unrhyw fwyd dros ben ar dymheredd yr ystafell a’i fwyta naill ai’r diwrnod hwnnw (2%) neu drannoeth (3%) (Ffigur 18) (footnote 16).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell nodi pa mor fuan ar ôl ei goginio y byddent fel arfer yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell. Dywedodd llawer o’r ymatebwyr eu bod fel arfer yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell o fewn 1 awr (33%) neu 1-2 awr ar ôl ei goginio (41%). Mae tua un rhan o bump (19%) o’r ymatebwyr yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell ar ôl mwy na dwy awr, a byddai 5% yn rhoi bwyd dros ben yn yr oergell neu’r rhewgell ar unwaith (footnote 17).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am ba mor hir y byddent yn cadw bwyd dros ben yn yr oergell. Dywedodd tua dwy ran o dair (68%) o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn 2 ddiwrnod; dywedodd tua chwarter (23%) yr ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn 3-5 diwrnod; a dywedodd 1% y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl 5 diwrnod neu hirach (footnote 18).

Atal croeshalogi

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar sut i atal croeshalogi. Mae’r ASB yn argymell na ddylai pobl olchi cig amrwd. Wrth olchi cig amrwd, gellir lledaenu bacteria niweidiol ar eich dwylo, eich dillad, eich offer a’ch arwynebau gwaith.

Ffigur 19. Pa mor aml y mae’r ymatebwyr yn golchi gwahanol fathau o gig neu bysgod amrwd

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun
Math o gig neu bysgod amrwd O leiaf yn achlysurol Byth
Pysgod neu fwyd m�r 43 51
Cyw i�r 39 59
Hwyaden, g?ydd neu dwrci 27 62
Cig oen, cig eidion neu borc 29 66

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Dywedodd tua 4 o bob 10 o’r ymatebwyr eu bod yn golchi (hynny yw, o leiaf yn achlysurol neu’n amlach) pysgod neu fwyd môr (43%) neu gyw iâr amrwd (39%), dywedodd 29% o’r ymatebwyr eu bod yn golchi cig oen, cig eidion neu borc, a dywedodd 27% o’r ymatebwyr eu bod yn golchi hwyaden, gŵydd neu dwrci amrwd (Ffigur 19) (footnote 19).  

Defnyddio byrddau torri

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sut maen nhw’n defnyddio byrddau torri pan fyddan nhw’n paratoi cig amrwd a bwydydd eraill. Dywedodd tua hanner yr ymatebwyr (53%) eu bod yn defnyddio gwahanol fyrddau torri ar gyfer cig amrwd a bwydydd eraill, a dywedodd 34% o’r ymatebwyr eu bod yn golchi’r bwrdd torri rhwng paratoi cig amrwd a bwydydd eraill. Dywedodd llai o’r ymatebwyr eu bod yn defnyddio’r un bwrdd torri (heb ei olchi) (9%) neu eu bod yn troi’r bwrdd torri drosodd rhwng paratoi cig amrwd a bwydydd eraill (4%) (footnote 20)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n defnyddio’r un bwrdd torri i baratoi cig amrwd a bwydydd eraill ym mha drefn y maent yn paratoi’r bwydydd. Dywedodd tua dwy ran o dair (64%) o’r ymatebwyr eu bod yn paratoi bwydydd eraill cyn cig amrwd. Dywedodd llai o’r ymatebwyr eu bod yn paratoi cig amrwd cyn bwydydd eraill (20%) a dywedodd 14% o’r ymatebwyr nad ydynt yn meddwl am y drefn y maent yn paratoi bwydydd (footnote 21).

Sut a ble mae’r ymatebwyr yn storio cig a dofednod amrwd yn yr oergell

Mae’r ASB yn argymell y dylid gorchuddio cig a dofednod amrwd yn yr oergell, eu cadw ar wahân i fwydydd parod i’w bwyta, a’u storio ar waelod yr oergell i atal croeshalogi.   

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi, o blith ymatebion amrywiol, sut maent yn storio cig a dofednod yn yr oergell. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yn eu deunydd pecynnu gwreiddiol (65%) neu ar wahân i fwydydd wedi’u coginio (43%). Dywedodd tua thraean o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd mewn cynhwysydd wedi’i selio (33%) neu wedi’u gorchuddio â ffilm/ffoil (32%), gyda llai yn cadw’r cynnyrch ar blât (14%) (footnote 22).

Dywedodd y rhan fwyaf (63%) o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ar waelod yr oergell, fel y mae’r ASB yn ei argymell. Fodd bynnag, dywedodd 23% o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd lle bynnag y mae lle yn yr oergell, dywedodd 12% o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yng nghanol yr oergell, a 6% yn rhan uchaf yr oergell (footnote 23)

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am yr hyn maent yn ei ddeall am wahanol fathau o labeli dyddiadau a chyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu bwyd, oherwydd os caiff bwyd ei storio yn rhy hir neu ar y tymheredd anghywir, gall achosi gwenwyn bwyd. Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch bwyd. Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd bwyd.  

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa ddyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Dywedodd dwy ran o dair (66%) o’r ymatebwyr yn gywir taw’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach.  Fodd bynnag, dywedodd rhai o’r ymatebwyr (9%) mai’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yw’r dyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach (footnote 24)

Dywedodd tua dwy ran o dair (65%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn iddynt goginio neu baratoi bwyd. Dywedodd tua thraean (32%) o’r ymatebwyr eu bod wedi gwirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn llai aml (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml), a dim ond 1% a ddywedodd nad ydynt byth yn gwirio dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ (footnote 25)

Ffigur 20. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun
Math o fwyd Byth 1-2 diwrnod 3-6 diwrnod 7+ diwrnod
Caws 25 25 26 18
Salad mewn bag 26 45 24 2
Iogwrt 35 35 22 6
Llaeth 37 40 18 2
Cigoedd wedi'u coginio 39 41 16 2
Pysgod mwg 50 33 13 2
Cig amrwd fel cig eidion, cig oen neu borc neu ddofednod amrwd 52 38 7 1
Unrhyw bysgod eraill 64 29 4 1
Pysgod cregyn 72 23 2

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n bwyta bwydydd penodol pryd, os o gwbl, yw’r dyddiad hwyraf y byddent yn bwyta’r math o fwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. O’r ymatebwyr hyn, dywedodd y rhan fwyaf na fyddent yn bwyta pysgod cregyn (72%), neu bysgod eraill (64%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni fyddai dros hanner yr ymatebwyr yn bwyta cig amrwd (52%) na physgod mwg (50%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Pan fydd bwydydd yn cael eu bwyta ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, cânt eu bwyta fel arfer 1-2 ddiwrnod ar ôl y dyddiad defnyddio erbyn (er enghraifft, byddai 45% o’r ymatebwyr yn bwyta salad mewn bag 1-2 ddiwrnod ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’). O’r bwydydd dan sylw, dywedodd yr ymatebwyr y byddent yn fwyaf tebygol o fwyta salad mewn bag (71%) a chaws (69%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai tua 6 o bob 10 o’r ymatebwyr yn bwyta iogwrt (63%), llaeth (59%) a chigoedd wedi’u coginio (59%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai tua 2 o bob 10 (18%) o’r ymatebwyr yn bwyta caws 1 wythnos neu fwy ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (Ffigur 20) (footnote 26).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth y maent fel arfer yn ei wneud â bwyd y maent wedi’i brynu sydd ar fin mynd heibio’r dyddiad ar ei orau cyn/defnyddio erbyn.  Byddai tua thraean o’r ymatebwyr yn bwyta’r bwyd (36%) neu’n ei rewi erbyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (29%). Byddai llai o’r ymatebwyr yn taflu’r bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (11%) neu’n ei gadw a’i fwyta ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (7%), ond dywedodd 15% o’r ymatebwyr ei fod yn amrywio gormod i ddweud (footnote 27).

Ffigur 21. Sut mae’r ymatebwyr yn gwybod a yw gwahanol fwydydd yn ddiogel i’w bwyta neu eu coginio

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun
Math o fwyd Sut mae'n edrych Ei arogl Ei flas Dyddiad 'defnyddio erbyn' Dyddiad 'ar ei orau cyn' Dilyn y cyfarwyddiadau ar y deunydd pecynnu Os nad yw'n arnofio mewn d?r
Wyau 22 36 9 58 30
Caws 65 52 27 46 17 14
Cig wedi�i sychu neu wedi'i halltu (er enghraifft chorizo) 45 51 19 62 26
Llaeth ac iogwrt 42 72 29 54 20 18
Pysgod, ac eithrio pysgod cregyn 39 61 12 74
Cig amrwd, er enghraifft cig eidion, cig oen, porc neu ddofednod amrwd 58 76 12 66

Lawrlwytho’r siart hon

 

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi sut maen nhw’n gwybod a yw gwahanol fwydydd yn ddiogel i’w bwyta neu’u coginio. Roedd y dull a ddefnyddir gan yr ymatebwyr i asesu a yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta neu’i goginio yn amrywio yn ôl y math o fwyd. Arogl oedd y dull a ddefnyddir amlaf i asesu cig amrwd (76%) a llaeth ac iogwrt (72%). Gan amlaf, roedd yr ymatebwyr yn dibynnu ar y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ i asesu pysgod (74%) a chigoedd wedi’u sychu neu wedi’u halltu (62%). Fel arfer roedd yr ymatebwyr yn asesu’r wyau gan ddefnyddio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (58%) a chaws oedd yn cael ei asesu amlaf yn ôl sut mae’n edrych (65%) (Ffigur 21) (footnote 28)

Gwybodaeth ‘bwyta o fewn’ (eat within)

Ar labeli rhai bwydydd, ceir cyfarwyddiadau sy’n cynghori y dylid bwyta’r bwyd cyn pen ychydig ddyddiau ar ôl ei agor. Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml maen nhw’n dilyn yr argymhelliad hwn. Dywedodd tua chwarter (26%) yr ymatebwyr eu bod bob amser yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Fodd bynnag, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (68%) nad ydynt bob amser (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml) yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn a dywedodd 5% nad ydynt byth yn gwneud hyn (footnote 29).

Ymwybyddiaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) ac ymwrthedd i wrthfiotigau 

Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yw pan fydd cyffuriau gwrthficrobaidd, fel gwrthfiotigau, yn stopio gweithio’n effeithiol yn erbyn y bacteria y maent i fod i’w lladd. Gall bacteria sy’n ymwrthol i gyffuriau gwrthficrobaidd ledaenu i bobl trwy’r gadwyn fwyd mewn sawl ffordd wahanol, gan gynnwys croeshalogi pan fydd bwyd yn cael ei drin heb yr arferion hylendid bwyd cywir. 

Ffigur 22. Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ymwrthedd gwrthficrobaidd ac ymwrthedd i wrthfiotigau

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Datganiad Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) Ymwrthedd i wrthfiotigau (AR)
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i�n gwybod cryn dipyn amdano 7 13
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i�n gwybod ychydig amdano 13 27
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano 16 18
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano 7 9
Na, dydw i erioed wedi clywed amdano 57 32

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent erioed wedi clywed am ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) neu ymwrthedd i wrthfiotigau. Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o fod ag ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ymwrthedd i wrthfiotigau nag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR). Er enghraifft, nid oedd 57% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am AMR ac nid oedd 32% o ymatebwyr erioed wedi clywed am ymwrthedd i wrthfiotigau (Ffigur 22) (footnote 30).