Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 5 Key Findings

Cylch 5: Pennod 5 Llwyfannau ar-lein

Mae'r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddefnydd ymatebwyr o lwyfannau ar-lein, gan gynnwys pa mor aml mae pobl yn defnyddio llwyfannau ar-lein i brynu bwyd neu ddiod, a'r mathau o fwyd a diod y mae pobl yn eu harchebu drwy'r llwyfannau hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023

Cyflwyniad

Mae llwyfan gwerthu bwyd ar-lein yn fusnes technoleg sy’n hwyluso cyfnewid bwyd rhwng gwerthwyr a defnyddwyr. Rhaid i unrhyw fusnes sy’n gwerthu bwyd ar-lein, gan gynnwys busnesau dosbarthu bwyd, gael ei gofrestru fel busnes bwyd (footnote 1). Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar gyfer busnesau bwyd sy’n defnyddio llwyfannau ar-lein (footnote 2). Bydd swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnes i sicrhau ei fod yn dilyn cyfraith hylendid bwyd fel bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta. 

Gofynnodd Bwyd a Chi 2 i’r ymatebwyr am eu defnydd o wahanol fathau o lwyfannau ar-lein sy’n gwerthu bwyd, a’u profiadau ohonyn nhw. Gofynnwyd cwestiynau i ystod o lwyfannau ar-lein, fel busnesau bwyd a gwefannau dosbarthu bwyd, apiau rhannu bwyd, a marchnadoedd cyfryngau cymdeithasol. 

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddefnydd yr ymatebwyr o lwyfannau ar-lein, gan gynnwys pa mor aml mae pobl yn defnyddio llwyfannau ar-lein i brynu bwyd a diod, a’r mathau o fwyd a diod mae pobl yn eu harchebu trwy’r llwyfannau hyn. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am ymwybyddiaeth pobl a’u defnydd o sgoriau hylendid bwyd a gwybodaeth am alergenau ar lwyfannau ar-lein. 

Pa lwyfannau ar-lein a ddefnyddir i archebu bwyd neu ddiod ar-lein?

Ffigur 13. Y llwyfannau y mae’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod ar-lein ganddynt

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Dull o archebu bwyd Heb ddefnyddio Wedi defnyddio
Cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, Faceook, Instagram, Nextdoor 92 8
Ap rhannu bwyd, er enghraifft, Olio neu Too Good to Go 90 10
Marchnad ar-lein, er enghraifft, Amazon, Gumtree, Etsy 73 27
Cwmni archebu a dosbarthu bwyd ar-lein, er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats 45 55
Gwefan y bwyty / siop tecaw� neu gaffi 40 60

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi a oedden nhw erioed wedi archebu bwyd neu ddiod ar-lein trwy nifer o wahanol lwyfannau. Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr eu bod wedi archebu bwyd neu ddiod o wefannau bwyty, siop tecawê neu gaffi (60%) neu gan gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) (55%). Roedd tua chwarter (27%) yr ymatebwyr wedi archebu trwy farchnad ar-lein (er enghraifft Amazon, Gumtree, Etsy), ac roedd tua 1 o bob 10 wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd (er enghraifft Olio, Too Good To Go) (10%) neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor) (8%) (Ffigur 13) (footnote 3).

Roedd defnyddio marchnadoedd ar-lein i archebu bwyd neu ddiod yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein o gymharu ag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 40% o bobl 16-24 oed wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein o gymharu ag 11% o bobl 65-79 oed.  
  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â 3 neu fwy o bobl (er enghraifft, 32% o’r rheiny mewn cartrefi tri pherson) yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi un-person (20%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr yn y categorïau isel (42%) neu isel iawn (44%) o ran diogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein na’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol (30%) neu uchel (21%). 
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd y rheiny sy’n coginio (28%) yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn coginio (16%). 

Roedd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i archebu bwyd neu ddiod yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: roedd oedolion 54 oed neu’n iau (er enghraifft, 15% o bobl 25-34 oed) yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod trwy’r cyfryngau cymdeithasol na’r rheiny dros 55 oed (er enghraifft, 1% o bobl 65-79 oed).  
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr yn y categorïau isel (15%) neu isel iawn (18%) o ran diogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod trwy’r cyfryngau cymdeithasol na’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol (6%) neu uchel (5%). 

Roedd defnyddio apiau rhannu bwyd i archebu bwyd neu ddiod yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 21% o oedolion 25-34 oed wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd o gymharu ag 1% o bobl 65-79 oed.  
  • NS-SEC: roedd myfyrwyr amser llawn (22%) yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd na’r rheiny mewn grwpiau galwedigaethol eraill (er enghraifft, 4% o’r rheiny mewn swyddi goruchwylio a thechnegol is).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr yn y categorïau isel (17%), isel iawn (16%) ac ymylol (16%) o ran diogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd uchel (7%)**. 

Pa mor aml y mae’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod trwy lwyfannau ar-lein?

Ffigur 14. Pa mor aml y mae’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod trwy wahanol lwyfannau ar-lein

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Dull o archebu bwyd neu ddiod ar-lein Tua unwaith yr wythnos neu'n fwy aml 2-3 gwaith y mis neu'n llai aml
Cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor 7 57
Ap rhannu bwyd, er enghraifft, Olio, Too Good to Go 7 68
Marchnad ar-lein, er enghraifft, Amazon, Gumtree, Etsy 7 72
Gwefan y bwyty, siop tecawe neu gaffi 13 80
Cwmni archebu a dosbarthu bwyd ar-lein, er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats 22 73

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ystod o lwyfannau ar-lein pa mor aml yr oedden nhw’n archebu bwyd neu ddiod trwy’r llwyfan hwnnw. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod o bob math o lwyfannau ar-lein 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml, gyda lleiafrif yn defnyddio’r mathau hyn o lwyfannau o leiaf unwaith yr wythnos. Er enghraifft, roedd 22% o’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod trwy gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) tua unwaith yr wythnos neu’n amlach, ac roedd 73% o’r ymatebwyr yn gwneud hyn tua 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml (Ffigur 14) (footnote 4).         

Pa fathau o fwyd a diod y mae’r ymatebwyr yn eu harchebu trwy wahanol lwyfannau ar-lein?

Ffigur 15. Y math o fwyd neu ddiod a archebir yn ôl y llwyfan ar-lein

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Llwyfannau ar-lein a math o archebu Prydau neu fyrbrydau wedi'u coginio a'u paratoi Bwydydd wedi'u pobi a phwdinau Ysgytlaethau / hufen ia
Marchnad ar-lein, er enghraifft, Amazon, Gumtree, Etsy 91 21 19
Gwefan bwyty, siop tecawe neu gaffi 88 16 15
Ap rhannu bwyd, er enghraifft, Olio, Too Good To Go 53 53 30
Cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor 40 35 28
Cwmni archebu a dosbarthu bwyd ar-lein, er enghraifft, Deliveroo, Just Eat, Uber Eats 40 37 25

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi cwblhau’r arolwg ar-lein ac a oedd wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ystod o lwyfannau ar-lein pa fwyd neu ddiod yr oedden nhw wedi eu harchebu trwy’r llwyfan(nau) yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y mathau mwyaf cyffredin o fwyd a diod yn amrywio yn ôl y llwyfan. Prydau neu fyrbrydau wedi’u coginio a’u paratoi, bwydydd wedi’u pobi a phwdinau oedd y cynhyrchion a archebwyd amlaf trwy gwmnïau archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), gwefannau bwytai, siopau tecawê neu gaffis, apiau rhannu bwyd (er enghraifft, Olio, Too Good To Go), a chyfryngau cymdeithasol (er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor). Fodd bynnag, melysion a siocledi, a bwydydd wedi’u pecynnu oedd yn cael eu harchebu amlaf trwy farchnadoedd ar-lein (er enghraifft, Amazon, Gumtree, Etsy) (Ffigur 15) (footnote 5).

Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar lwyfannau ar-lein

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau. Mae busnesau’n cael sgôr o 0 i 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod y safonau hylendid yn dda iawn ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys. Mae’r ASB yn rhoi’r cynllun ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi archebu bwyd neu ddiod trwy lwyfan ar-lein ac a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd pa mor aml yr oedden nhw’n gwirio sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth archebu bwyd a diod ar-lein. Roedd dros hanner (46%) o’r ymatebwyr yn gwirio sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn aml (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser); roedd 31% o’r ymatebwyr yn gwneud hyn yn achlysurol (hynny yw, tua hanner yr amser neu weithiau); ac nid oedd 22% o’r ymatebwyr byth yn gwirio sgoriau hylendid bwyd (footnote 6).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn chwilio am sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth archebu bwyd neu ddiod ar-lein pa mor aml oedd y sgoriau’n hawdd eu canfod. Dywedodd bron i hanner (48%) o’r ymatebwyr fod y sgoriau’n aml (hynny yw, bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser) yn hawdd eu canfod; dywedodd 40% fod y sgoriau’n hawdd eu canfod o bryd i’w gilydd (hynny yw, tua hanner yr amser neu’n achlysurol); a dywedodd 3% nad oedd y sgoriau byth yn hawdd eu canfod (footnote 7).

Gorsensitifrwydd i fwyd a defnyddio llwyfannau ar-lein

Mae gorsensitifrwydd i fwyd yn derm sy’n cyfeirio at adwaith corfforol gwael neu annymunol sy’n digwydd o ganlyniad i fwyta bwyd penodol. Ceir gwahanol fathau o orsensitifrwydd i fwyd gan gynnwys alergedd bwyd, anoddefiad bwyd a chlefyd seliag (footnote 8).

Mae’r ASB yn darparu canllawiau i fusnesau bwyd ar ddarparu gwybodaeth am alergenau i’w cwsmeriaid. Yn ôl y gyfraith (footnote 9), rhaid i fusnesau bwyd yn y DU roi gwybod i’w cwsmeriaid os ydyn nhw’n defnyddio unrhyw un o’r 14 prif alergen yn y bwyd a’r ddiod maen nhw’n eu darparu (footnote 10). Mae’r gofynion o ran labelu alergenau sy’n ofynnol yn wahanol gan ddibynnu ar sut mae bwyd yn cael ei werthu a’r math o fwyd sy’n cael ei werthu. Os yw bwyd yn cael ei werthu ar-lein, dylai gwybodaeth fod ar gael i gwsmer cyn iddyn nhw gwblhau’r broses o brynu’r bwyd, a phan fydd y bwyd yn cael ei ddosbarthu, Canllawiau ar alergenau ar gyfer busnesau bwyd, yr ASB.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd, neu sy’n byw gyda rhywun â gorsensitifrwydd i fwyd, pa mor aml y maen nhw’n chwilio am wybodaeth sy’n eu galluogi i nodi bwyd a allai achosi adwaith gwael neu annymunol wrth archebu bwyd neu ddiod ar-lein. Roedd un o bob pump (20%) o’r ymatebwyr bob amser yn chwilio am wybodaeth a fyddai’n eu galluogi i nodi bwyd a allai achosi iddyn nhw gael adwaith gwael neu annymunol, ac roedd 38% o’r ymatebwyr yn chwilio am yr wybodaeth hon yn llai aml (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser, tua hanner yr amser, yn achlysurol). Fodd bynnag, nid oedd oddeutu 4 o bob 10 (37%) o’r ymatebwyr byth yn chwilio am wybodaeth a fyddai’n eu galluogi i nodi bwyd a allai achosi adwaith gwael neu annymunol wrth archebu bwyd neu ddiod ar-lein (footnote 11).