Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 5 Key Findings

Cylch 5: Pennod 4 Siopa bwyd a labelu

Mae'r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddulliau prynu bwyd, yr hyn y mae'r ymatebwyr yn chwilio amdano pan fyddant yn siopa a hyder mewn labelu alergenau.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 March 2023

Mae labelu bwyd yn rhan o gylch gwaith nifer o gyrff, a’r rheiny’n amrywio rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae’r ASB yn gyfrifol am yr agweddau hynny ar labelu bwyd sy’n ymwneud â diogelwch bwyd ac alergenau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn ogystal, mae’r ASB yng Nghymru yn gyfrifol am labelu bwyd sy’n ymwneud â safonau cyfansoddiad bwyd a’r wlad tarddiad. Mae’r ASB yng Ngogledd Iwerddon yn gyfrifol am labelu bwyd mewn perthynas â safonau cyfansoddiad bwyd, gwlad tarddiad, a maeth (footnote 1).

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn chwarae rôl bwysig mewn perthynas â chynhyrchu bwyd, ac mae’n gyfrifol am agweddau ar labelu bwyd, fel cyfansoddiad a tharddiad.

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o brynu bwyd, yr hyn y mae’r ymatebwyr yn chwilio amdano pan fyddan nhw’n siopa, a hyder mewn labelu alergenau. Cyd-ariannodd Defra gwestiynau yn y bennod hon sy’n ymwneud â tharddiad bwyd, cynaliadwyedd, a lles anifeiliaid.

Ffigur 9. O ble mae’r ymatebwyr yn prynu bwyd

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Byth 2-3 gwaith y mis neu'n llai aml Tua unwaith yr wythnos neu'n fwy aml
Blwch ryseitiau wedi'i ddosbarthu 86 10 3
Marchnad leol/ffermwyr, siop fferm 43 44 8
Gwasanaeth dosbarthu i'r cartref/ casglu gan archfarchnadoedd 48 34 17
Siopau ffrwythau a llysiau, siopau cig, siopau bara, siopau pysgod annibynnol 23 51 23
Siopau lleol/cornel, siopau papurau newydd neu siopau gorsaf betrol 16 46 36
Archfarchnad, archfarchnad fach 2 15 83

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud ble a pha mor aml y maen nhw’n prynu bwyd. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn prynu bwyd o archfarchnad neu archfarchnad fach tua unwaith yr wythnos neu’n amlach (83%). Dywedodd tua hanner (51%) o’r ymatebwyr eu bod yn prynu bwyd o siopau annibynnol (siopau llysiau a ffrwythau, cigyddion, siopau bara, siopau pysgod) a 44% yn prynu bwyd o siop leol / siop gornel neu siop bapur newydd 2-3 gwaith y mis neu lai (Ffigur 9). (footnote 2)

Beth mae’r ymatebwyr yn nodi eu bod yn chwilio amdano wrth brynu bwyd?

Ffigur 10. Pa wybodaeth y mae’r ymatebwyr yn chwilio amdani wrth brynu bwyd

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Math o wybodaeth Bob amser neu'r rhan fwyaf o'r amser Tua hanner yr amser neu'n achlysurol Byth
Logos cynlluniau sicrwydd bwyd 24 42 33
Gwybodaeth am alergenau 24 33 42
Gwlad tarddiad 22 47 30
Rhestr gynhwysion 34 53 13
Gwybodaeth am faeth 38 47 14
Dyddiad ar ei orau cyn 82 15 3
Dyddiad defnyddio erbyn 85 13 2

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa wybodaeth maen nhw’n chwilio amdani wrth brynu bwyd. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn aml (hynny yw ‘bob amser’ neu ‘y rhan fwyaf o’r amser’) yn gwirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (85%) neu’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (82%) wrth brynu bwyd. Dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn chwilio am y rhestr gynhwysion (53%), gwybodaeth am faeth (47%), y wlad tarddiad (47%), a’r logos cynlluniau sicrwydd bwyd (42%) yn achlysurol (hynny yw, ‘tua hanner yr amser’ neu’n achlysurol). Yr wybodaeth am alergenau oedd yn cael ei gwirio leiaf aml (Ffigur 10) (footnote 3). Fodd bynnag, roedd yr ymatebwyr ag alergedd bwyd (72%) neu anoddefiad bwyd (46%) yn fwy tebygol (hynny yw, ‘bob amser’ neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’) o chwilio am wybodaeth am alergenau’n aml wrth siopa am fwyd o gymharu â’r rheiny heb orsensitifrwydd i fwyd (19%). 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth yn eu barn nhw oedd bwysicaf wrth benderfynu pa fwyd i’w brynu, gan ddewis o blith rhestr o opsiynau. Y nodwedd fwyaf cyffredin y soniodd yr ymatebwyr amdani oedd pris neu werth am arian (57%), ansawdd (40%), a ffresni (33%). Soniodd oddeutu 1 o bob 5 o’r ymatebwyr am ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a/neu am ba mor hir y bydd y bwyd yn para (24%), pa mor iachus yw’r bwyd (22%) a’r blas (21%) (footnote 4).

Pan ofynnwyd iddyn nhw pa wybodaeth maen nhw’n ei defnyddio i farnu ansawdd bwyd o blith rhestr o opsiynau, dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn defnyddio ffresni (54%), blas (46%), a sut mae’n edrych (45%) amlaf i farnu ansawdd bwyd. Dywedodd llai o’r ymatebwyr eu bod yn barnu ansawdd bwyd yn ôl cynhwysion (28%), pris (27%), brand (24%), lles anifeiliaid (16%) a gwlad tarddiad (10%). Cynlluniau sicrwydd (9%), effaith amgylcheddol (7%) a chyfleustra (3%) a ddefnyddir leiaf gan yr ymatebwyr wrth farnu ansawdd bwyd (footnote 5).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am eu safbwyntiau ar les anifeiliaid, tarddiad bwyd, ac effaith amgylcheddol bwyd. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr ei bod yn bwysig prynu cig, wyau a llaeth sy’n cael eu cynhyrchu yn unol â safonau lles anifeiliaid uchel (90%), cefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr Prydain (87%), a phrynu bwyd ag effaith amgylcheddol isel (84%) (footnote 6).

Roedd pwysigrwydd prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o ystyried bod prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn bwysig nag ymatebwyr iau. Er enghraifft, roedd 90% o bobl 55 oed neu hŷn yn ystyried ei bod yn bwysig prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel o gymharu â 73% o’r rheiny 16-25 oed. 
  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â llai o bobl yn fwy tebygol o ystyried bod prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn bwysig na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi â mwy o bobl. Er enghraifft, roedd 90% o bobl a oedd yn byw mewn cartref ag 1 person yn ystyried bob prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn bwysig o gymharu â 76% o’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi gyda 5 neu fwy o bobl. 
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 88% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol, a phroffesiynol) yn fwy tebygol o ystyried bod prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn bwysig na myfyrwyr amser llawn (74%) ac ymatebwyr a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (68%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd y tebygolrwydd y byddai’r ymatebwyr yn ystyried prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn amrywio fesul rhanbarth. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw yn Nwyrain Lloegr (90%) a De Ddwyrain Lloegr (89%) yn fwy tebygol o ystyried bod prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn bwysig o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (79%) a Gorllewin Canolbarth Lloegr (78%).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (86%) yn fwy tebygol o ystyried bod prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn bwysig nag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (74%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am goginio (85%) yn fwy tebygol o ystyried bod prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn bwysig, o gymharu â’r rheiny nad ydynt yn coginio (75%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa (86%) yn fwy tebygol o ystyried bod prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel yn bwysig, o gymharu â’r rheiny nad ydynt byth yn siopa (69%).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud pa mor aml maen nhw’n chwilio am wybodaeth am effaith amgylcheddol bwyd ac am les anifeiliaid wrth siopa. Dywedodd bron i draean (31%) o’r ymatebwyr eu bod yn aml (hynny yw, bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser) yn chwilio am wybodaeth am yr effaith ar yr amgylchedd wrth brynu bwyd a dywedodd 40% o’r ymatebwyr eu bod yn aml yn chwilio am wybodaeth am les anifeiliaid (footnote 7).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml, lle bo’n bosib, y maen nhw’n prynu bwyd a gynhyrchwyd ym Mhrydain sydd â gwybodaeth am les anifeiliaid neu sydd ag effaith amgylcheddol isel. Mae tua 6 o bob 10 o’r ymatebwyr yn aml (hynny yw, bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser) yn prynu bwyd a gynhyrchwyd ym Mhrydain (60%), neu’n prynu cig, wyau a llaeth sydd â gwybodaeth am les anifeiliaid (61%); ac mae 41% yn aml yn prynu bwyd sydd ag effaith amgylcheddol isel (footnote 8). Roedd traean (33%) yr ymatebwyr o’r farn bod cig, wyau a chynhyrchion llaeth yn dangos digon o wybodaeth am les anifeiliaid, ac roedd 21% o’r farn bod cynhyrchion bwyd yn dangos digon o wybodaeth am eu heffaith amgylcheddol (footnote 9).

Ffigur 11. Ffactorau y credir eu bod yn cyfrannu fwyaf at effaith amgylcheddol bwyd

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Ffactorau i'w hystyried Canran yr ymatebwyr (%)
Defnydd o ddwr 11
Galw / tueddiadau defnyddwyr 12
Sut y tyfir cnydau 15
Prosesu bwyd 16
Cynhyrchu cig 18
Rheoli tir / datgoedwigo 27
Gwastraff bwyd 31
Defnydd o gemegion neu blaladdwyr 38
Cludo bwyd 46
Deunydd pecynnu bwyd 47

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth, o blith rhestr o opsiynau, sy’n cyfrannu at effaith amgylcheddol bwyd yn eu barn nhw. Y ffactorau y credir eu bod yn cyfrannu fwyaf at effaith amgylcheddol bwyd oedd deunydd pecynnu bwyd (47%) a chludo bwyd (46%). Ystyriwyd bod y defnydd o gemegion a phlaladdwyr (38%), cludo bwyd (31%), rheoli tir a/neu ddatgoedwigo (27%) a chynhyrchu cig (18%) hefyd yn ffactorau sy’n cyfrannu at effaith amgylcheddol bwyd (Ffigur 11) (footnote 10).

Ffigur 12. Yr hyn a fyddai’n nodi safonau lles anifeiliaid uchel wrth gynhyrchu cig, wyau a chynhyrchion llaeth ym marn yr ymatebwyr

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Math o wybodaeth Canran yr ymatebwyr
Pris y cynnyrch 8
Hoff siop neu frand 8
Label organig cyffredinol 9
Gwlad tarddiad 12
Olrheiniadwyedd cynnyrch 15
Logo sicrwydd yr RSPCA 24
Logo wyau Llew 25
Gwybodaeth ar y ddeunydd pecynnu 29
Logo'r Tractor Coch 32
Label ffermio maes 52

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 5 

Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr, o blith rhestr o opsiynau, beth fyddai’n nodi a yw cynnyrch sy’n cynnwys cig, wyau neu laeth wedi’i gynhyrchu yn unol â safonau lles anifeiliaid uchel, y dangosydd mwyaf cyffredin y soniwyd amdano oedd label ffermio maes (free-range) (52%). Nodwyd bod logo’r Tractor Coch (32%) a gwybodaeth ar ddeunydd pecynnu (295) yn ddangosyddion eraill ar gyfer safonau lles anifeiliaid  (Ffigur 12) (footnote 11).

Hyder mewn labelu alergenau

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n siopa am fwyd ac yn ystyried rhywun sydd ag alergedd neu anoddefiad bwyd pa mor hyderus oedden nhw bod yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd yn eu galluogi i adnabod bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol. Yn gyffredinol, dywedodd 83% o’r ymatebwyr fod ganddyn nhw hyder (hynny yw, hyderus iawn neu eithaf hyderus) yn yr wybodaeth a ddarperir (footnote 12).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor hyderus oedden nhw o ran nodi bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol pan fyddan nhw’n prynu bwydydd sy’n cael eu gwerthu’n rhydd, fel mewn siop fara neu o gownter deli. Roedd yr ymatebwyr a oedd yn prynu bwyd yn rhydd yn fwy hyderus wrth nodi’r bwydydd hyn mewn archfarchnadoedd (67%), wrth siopa mewn archfarchnad ar-lein (67%) ac wrth siopa mewn siopau bwyd annibynnol (63%) o gymharu â phrynu bwyd o farchnadoedd bwyd neu stondinau bwyd (52%) (footnote 13).