Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8, modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ sy’n ymwneud â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB).
Wales
Trosolwg o Bwyd a Chi 2
Arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8, modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ sy’n ymwneud â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Yn y modiwl hwn, gofynnir i ymatebwyr am eu hymwybyddiaeth a’u defnydd o’r CSHB, yn ogystal â’u hagweddau tuag ato. Mae’r modiwl hwn wedi’i gynnwys yn arolwg Bwyd a Chi 2 ar sail blynyddol.
Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cynhaliwyd Cylch 8 rhwng 12 Hydref 2023 ac 8 Ionawr 2024. Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan tua 6,000 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) o 4,000 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A i gael mwy o wybodaeth am y fethodoleg). Yng Nghylch 8, cwblhaodd 4,966 o oedolion ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y fersiwn ar-lein neu’r fersiwn bost o’r modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Yn dibynnu ar eu gwybodaeth, eu hagweddau a’u hymddygiadau, nid yw pob ymatebydd yn ateb pob modiwl neu gwestiwn yn yr arolwg.
Y prif ganfyddiadau
Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r CSHB
- Roedd 86% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB – 93% yng Nghymru, 86% yn Lloegr a 91% yng Ngogledd Iwerddon**. (footnote 1))
- Roedd 57% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano. Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (74%) a Gogledd Iwerddon (66%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny yn Lloegr (56%).
- O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 85% wedi dod ar draws y CSHB drwy weld sticer sgôr hylendid bwyd mewn safle busnes bwyd; roedd 36% wedi dod ar draws y sgôr ar wefan busnes bwyd; ac roedd 22% wedi’i gweld wrth archebu bwyd ar wefan neu ap dosbarthu bwyd.
- Pan ddangoswyd llun o sticer y CSHB i’r ymatebwyr, dywedodd 89% eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn is yn Lloegr (89%) nag yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (94%)**. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fod wedi gweld y sticer mewn bwyty (84%), caffi (72%) neu siop tecawê (65%) yn ystod y 12 mis diwethaf.
Defnydd o’r CSHB
- Roedd tua 4 o bob 10 (42%) o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (58%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd nag ymatebwyr yn Lloegr (41%) a Gogledd Iwerddon (49%).
- O’r rheiny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, ac roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) wedi gwneud hynny drwy edrych ar y sticer sgôr hylendid a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. Y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau lle’r oedd ymatebwyr wedi gwirio sgoriau oedd siopau tecawê (70%) a bwytai (70%).
- Dywedodd tua un o bob 10 (9%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd, dywedodd 21% eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser, roedd 31% yn gwneud hyn tua hanner yr amser neu o bryd i’w gilydd, a doedd 35% o’r ymatebwyr byth yn gwneud hyn.
Defnyddio’r CSHB i wneud penderfyniadau
- O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, dywedodd y rhan fwyaf y bydden nhw’n dal i fwyta mewn bwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (94%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (61%). Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fydden nhw’n bwyta mewn bwyty nac o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (82%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (95%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%).
- Dywedodd llai nag 1 o bob 10 (8%) o’r ymatebwyr mai sgôr o 5 (da iawn) yw’r sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol wrth ystyried prynu bwyd. Y sgôr dderbyniol isaf yn ôl 44% o’r ymatebwyr oedd 4 (da), a 3 (boddhaol ar y cyfan) fyddai’r sgôr dderbyniol isaf yn ôl 37% o’r ymatebwyr
- O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, byddai 58% yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa.
- Dywedodd 17% o’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB eu bod, yn ystod y 12 mis diwethaf, wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd am nad oedd yn arddangos sticer ei sgôr hylendid bwyd.
- Yn ôl yr ymatebwyr, y pryderon mwyaf cyffredin a fyddai ganddynt wrth ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sgôr hylendid bwyd oedd bod gan y busnes bwyd hwnnw safonau hylendid gwael (50%), a bod ganddo sgôr hylendid bwyd wael neu isel yr oedd yn ceisio ei chuddio (47%). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (56%) a Gogledd Iwerddon (53%) yn fwy tebygol o boeni bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid isel/wael a’i fod yn ceisio ei chuddio nag ymatebwyr yn Lloegr (46%)**.
Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol
- O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 91% yn meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd. Yn yr un modd, roedd 93% o’r farn y dylai busnesau sy’n darparu gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Bwriad arolwg Bwyd a Chi 2 yw monitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Cyflwyniad i’r CSHB
Cafodd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (footnote 1) (CSHB), sydd ar waith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ei lansio yn 2010 ac mae’n helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd, a hynny drwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau fel yr oeddent adeg arolygiad hylendid bwyd gan yr awdurdod lleol. Bydd sgoriau’n cael eu rhoi i safleoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi neu ei werthu’n uniongyrchol i bobl, fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys busnesau sy’n masnachu â busnesau eraill yn unig, fel gweithgynhyrchwyr.
Mae’r ASB yn gweithredu’r cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd, gan sicrhau bod y bwyd ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod y safonau hylendid yn dda iawn ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys.
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith (footnote 2) ond yn Lloegr, caiff y busnesau eu hannog i arddangos eu sgoriau. Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan sgoriau’r ASB a thrwy apiau trydydd parti.
Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8 o ran y CSHB, gan gynnwys ymwybyddiaeth, adnabyddiaeth a defnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun, dealltwriaeth o’r Cynllun a’i effaith ar ymddygiadau, ac agweddau tuag at y Cynllun.
Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch 8 rhwng 12 Hydref 2023 a 8 Ionawr 2024. Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan oddeutu 6,000 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) o tua 4,000 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A i gael mwy o wybodaeth am y fethodoleg). Yng Nghylch 8, cwblhaodd cyfanswm o 4,966 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ drwy’r holiadur ar-lein neu drwy’r holiadur post ‘Bwyta allan’. Yn dibynnu ar eu gwybodaeth, eu hagweddau a’u hymddygiadau, nid yw pob ymatebydd yn ateb pob modiwl neu gwestiwn yn yr arolwg.
Nid yw cwestiynau a ofynnwyd ym modiwlau eraill yn arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8 (er enghraifft, ‘Bwyta gartref’) wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yn y tablau data cysylltiedig a’r set ddata sylfaenol.
Dehongli’r canfyddiadau
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r gwahaniaethau rhwng rhai is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill yn y boblogaeth (er enghraifft, fesul gwlad). I dynnu sylw at y gwahaniaethau allweddol, dim ond pan fo’r gwahaniaeth absoliwt yn 10 pwynt canrannol neu fwy ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny pan dybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn.
Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r data hwn ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau data.
Darperir gwybodaeth allweddol ar gyfer pob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:
- Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymatebion).
- Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddyn nhw, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = x).
- Mae ‘Sylwer:’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i’w hystyried wrth ddehongli’r canlyniadau.
Ymwybyddiaeth o’r CSHB
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) eu bod wedi clywed am y CSHB. Dywedodd dros hanner (57%) eu bod wedi clywed am y CSHB a’u bod yn gwybod llawer neu ychydig amdano, roedd 29% wedi clywed am y CSHB ond ddim yn gwybod llawer neu ddim byd amdano ac roedd 14% erioed wedi clywed am y CSHB. (footnote 1)
Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yng Nghymru (93%), Lloegr (86%), a Gogledd Iwerddon (91%) wedi clywed am y CSHB (Ffigur 1)**.
Ffigur 1. Ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd gwybodaeth am y CSHB yn amrywio fesul gwlad. Roedd ymatebwyr yng Nghymru (74%) a Gogledd Iwerddon (66%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio a bod ganddynt o leiaf rywfaint o wybodaeth am y Cynllun o gymharu â’r rheiny yn Lloegr (56%).
Roedd gwybodaeth am y CSHB hefyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, dywedodd 62% o’r ymatebwyr yng Ngogledd-orllewin Lloegr, 60% o’r rheiny yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, 59% yn Nwyrain Lloegr a 58% yn Ne-ddwyrain Lloegr fod ganddynt rywfaint o wybodaeth am y CSHB, o gymharu â 47% o’r ymatebwyr yn Llundain.
Roedd ymatebwyr rhwng 25 a 74 oed yn fwy tebygol o fod yn gwybod o leiaf ychydig am y CSHB na’r rheiny 75 oed a throsodd. Er enghraifft, dywedodd 65% o’r ymatebwyr rhwng 45 a 64 oed eu bod yn gwybod am y CSHB, o gymharu â 45% o’r rheiny 75 oed a throsodd (Ffigur 2).
Ffigur 2. Ymwybyddiaeth o’r CSHB a gwybodaeth amdano fesul grŵp oedran
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd gwybodaeth am y CSHB hefyd yn amrywio rhwng y grwpiau canlynol o bobl:
- Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd ymatebwyr mewn grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 61% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd a galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (40%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (59%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (34%).
- Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (58%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny nad ydynt yn siopa am fwyd (41%).
- Grŵp ethnig: roedd ymatebwyr gwyn (60%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB nag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (46%).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB ymhle roedden nhw wedi dod ar ei draws. Yr ymateb mwyaf cyffredin oedd trwy weld sticer a oedd wedi’i arddangos mewn safle busnes bwyd (85%). Roedd 36% o’r ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB ar wefan busnes bwyd; roedd 22% wedi dod ar ei draws ar wefan neu ap archebu a dosbarthu bwyd (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats); roedd 16% wedi clywed am y CSHB gan rywun, ac roedd 16% wedi dod ar ei draws ar wefan yr ASB (Ffigur 3). (footnote 2)
Ffigur 3. Lleoliadau lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (90%), Lloegr (85%) a Gogledd Iwerddon (89%) wedi dod ar draws y CSHB trwy weld sticer ar safle busnes bwyd (Ffigur 4)**. Yr ail le mwyaf cyffredin yr oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB yng Nghymru (38%) yn Lloegr (37%) ac yng Ngogledd Iwerddon (29%) oedd ar wefan busnes bwyd**.
Ffigur 4. Y 5 lle mwyaf amlwg lle’r oedd ymatebwyr wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd gwahaniaethau rhwng grwpiau oedran o ran ble roedd ymatebwyr wedi dod ar draws y CSHB:
- Roedd ymatebwyr o dan 65 oed yn fwy tebygol o fod wedi dod ar draws y CSHB drwy sticer mewn busnes bwyd nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 91% o’r rhai rhwng 45 a 64 oed wedi dod ar draws sticer mewn busnes bwyd, o’i gymharu â 78% o’r rhai rhwng 65 a 74 oed.
- Roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi dod ar draws y CSHB drwy wefan neu ap archebu bwyd nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 39% o bobl rhwng 25 a 34 oed wedi dod ar draws y CSHB drwy wefan neu ap archebu bwyd, o gymharu â 6% o bobl rhwng 65 a 74 oed a 3% o bobl 75 oed a hŷn.
- Roedd ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed yn fwy tebygol o fod wedi dod ar draws y CSHB drwy’r cyfryngau cymdeithasol (24%) na phobl 25 oed a hŷn. Er enghraifft, roedd 8% o’r ymatebwyr rhwng 45 a 64 oed wedi dod ar draws y CSHB drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
- Roedd ymatebwyr 75 oed a hŷn yn fwy tebygol o fod wedi dod ar draws y CSHB mewn papur newydd lleol (14%) neu mewn hysbyseb neu erthygl gylchgrawn (13%) na’r rhai rhwng 16 a 24 oed (1% ar gyfer y naill leoliad neu’r llall).
Adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i’r ymatebwyr, dywedodd 89% ohonyn nhw eu bod nhw wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn uwch yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (94%) nag yn Lloegr (89%) (footnote 3)**.
Roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer nag ymatebwyr hŷn. Er enghraifft, dywedodd 96% o’r ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed eu bod wedi gweld y sticer, o gymharu â 69% o’r rhai 75 oed a hŷn (Ffigur 5).
Ffigur 5. Adnabyddiaeth o'r sticer sgôr hylendid bwyd fesul grŵp oedran
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd adnabyddiaeth o’r sticer sgôr hylendid bwyd hefyd yn amrywio ar gyfer y grwpiau canlynol:
- Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr mewn cartrefi â 3 neu fwy o bobl (er enghraifft, 95% o’r rheiny mewn cartrefi â phedwar person) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi ag un person (80%).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm dros £96,000 yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd (97%), na’r rheiny ag incwm llai nag £19,000 (86%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (90%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (80%).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle roedden nhw wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer mewn bwytai (84%), mewn caffis (72%) neu mewn siopau tecawê (65%) (Ffigur 6) (footnote 4).
Ffigur 6. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn bwytai yng Nghymru (85%), Lloegr (83%) a Gogledd Iwerddon (85%)**. Roedd ymatebwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn siopau tecawê (76%) a siopau coffi neu frechdanau (68%) o gymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (siopau tecawê 64%, siopau coffi neu frechdanau 56%). Roedd ymatebwyr yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn tafarndai (65%) na’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (42%) a Lloegr (52%). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (37%) a Gogledd Iwerddon (37%) yn fwy tebygol o fod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd mewn gwestai a llety gwely a brecwast nag ymatebwyr yn Lloegr (23%) (Ffigur 7).
Ffigur 7. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gweld sticer sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
-
Cwestiwn: Ydych chi wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano; Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano; Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano; Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano; Nac ydw, dydw i erioed wedi clywed amdano. Sylfaen = 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post.
-
Cwestiwn: Ble’r ydych chi wedi dod ar draws y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Ar sticer mewn busnes bwyd, Ar wefan busnes bwyd (fel gwefan bwyty), Ar wefan neu ap archebu/dosbarth bwyd (fel Just Eat, Deliveroo, Uber Eats ac ati), Wedi clywed gan rywun, Ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Yn y papur newyddion lleol, Trwy’r cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft Twitter, Facebook Marketplace), Mewn hysbyseb neu erthygl cylchgrawn, Ar ap arall (er enghraifft Scores on the Doors) (nodwch), Ar wefan arall, Rhywle arall. Sylfaen = 4528, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Sylwer: Nid yw’r canrannau a ddangosir yn rhoi cyfanswm o 100% oherwydd bod yr ymatebwyr yn gallu dewis mwy nag un ateb.
-
Cwestiwn: Ydych chi erioed wedi gweld y sticer hwn o’r blaen? Ymatebion: Ydw, Nac ydw, Ddim yn gwybod / Ddim yn siŵr. Sylfaen = 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post.
-
Cwestiwn: Ym mha rai o’r canlynol, os o gwbl, ydych chi wedi gweld y sticer hwn yn ystod y 12 mis diwethaf? Ymatebion: Mewn bwytai, Mewn caffis, Mewn siopau tecawê, Mewn siopau coffi neu frechdanau, Mewn tafarndai, Mewn gwestai/llety gwely a brecwast, Mewn archfarchnadoedd, Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill, Ar stondinau marchnad/bwyd stryd, Gweithgynhyrchwyr (masnachwyr busnes i fusnes) (Cymru yn unig), Mewn siopau bwyd eraill, Rhywle arall, Dydw i ddim wedi gweld y sticer hwn mewn busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Sylfaen = 4584, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post a oedd wedi gweld sticer y CSHB.
Dealltwriaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa fathau o fusnesau bwyd oedd yn dod o dan y CSHB yn eu tyb nhw, gan ddewis o blith rhestr o fusnesau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl bod y CSHB yn berthnasol i fwytai (93%), caffis (91%), siopau tecawê (89%), siopau coffi neu frechdanau (87%), tafarndai (85%), a gwestai neu lety gwely a brecwast (77%). Roedd llai o ymatebwyr yn meddwl bod y CSHB yn berthnasol i ysgolion a sefydliadau eraill (55%), archfarchnadoedd (45%), a stondinau marchnad neu fwyd stryd (45%) (Ffigur 8).(footnote) Yng Nghymru yn unig, mae’r CSHB hefyd yn cwmpasu sefydliadau bwyd sy’n ymwneud â masnach busnes-i-fusnes, er enghraifft gweithgynhyrchwyr bwyd, neu becynwyr nad ydynt yn gwerthu i siopau manwerthu. Dim ond 38% o ymatebwyr yng Nghymru oedd yn meddwl bod y CSHB yn cynnwys y mathau hyn o fusnesau.
Ffigur 8. Gwybodaeth yr ymatebwyr am y busnesau bwyd y mae’r CSHB yn berthnasol iddyn nhw
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Gofynnwyd i’r holl ymatebwyr, a oedden nhw wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein), ni waeth faint yr oedden nhw’n ei wybod am y CSHB ac ni wnaeth a wnaethon nhw benderfynu prynu bwyd yno ai peidio. Roedd tua 4 o bob 10 (42%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. (footnote 1)
Roedd ymatebwyr yng Nghymru (58%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd nag ymatebwyr yn Lloegr (41%) a Gogledd Iwerddon (49%)**.
Roedd yr arfer o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl.
- Grŵp oedran: roedd ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 53% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o’u cymharu â 26% o’r rheiny 75 oed a hŷn.
- Maint y cartref: roedd y rheiny mewn cartrefi â 3 neu 4 person neu fwy (er enghraifft, 52% o’r rheiny mewn cartref â 4 person) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr busnes na’r rheiny mewn cartrefi ag un person (33%).
- Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr o Ddwyrain Canolbarth Lloegr (48%), Gogledd-orllewin Lloegr (47%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes nag ymatebwyr o Dde-orllewin Lloegr (35%) neu Lundain (35%).
- Diogeledd bwyd (footnote 2): roedd ymatebwyr â lefelau isel neu isel iawn (52%) o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o gymharu â 40% o’r rheiny â lefelau ymylol uchel o ddiogeledd bwyd.
- Gorsensitifrwydd i fwyd: roedd ymatebwyr ag alergedd bwyd (57%) – ond nid y rheiny â mathau eraill o orsensitifrwydd i fwyd, fel anoddefiad bwyd neu glefyd seliag – yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o gymharu â 41% o’r rheiny heb unrhyw alergedd neu anoddefiad bwyd.
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (43%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes o gymharu â 29% o’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd pa fathau o fusnesau yr oedden nhw wedi gwirio sgoriau hylendid ar eu cyfer yn ystod y 12 mis blaenorol. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê (70%) a bwytai (70%). Roedd dros hanner (51%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis; roedd 35% wedi gwirio sgôr siopau coffi neu frechdanau ac roedd 34% wedi gwirio sgôr tafarndai (Ffigur 9). (footnote 3)
Ffigur 9. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis blaenorol.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd yr arfer o wirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol fathau o fusnesau ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl.
- Grŵp oedran: roedd ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd rhai mathau o fusnesau nag oedolion iau. Er enghraifft, roedd ymatebwyr rhwng 65 a 74 oed yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis (59%), tafarndai (47%), siopau coffi a brechdanau (43%), a gwestai/llety gwely a brecwast (17%) nag ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed (42% caffis, 27% tafarndai, 32% siopau coffi neu frechdanau, a 6% gwestai/llety gwely a brecwast).
- Maint y cartref: roedd y rheiny mewn cartrefi â 2 pherson neu fwy yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê na’r rheiny mewn cartrefi ag 1 person (56%). Er enghraifft, roedd 79% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â 5 person neu fwy wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê.
- Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (82%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê nag ymatebwyr â diogeledd bwyd ymylol (72%) neu uchel (65%).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd y rheiny mewn cartrefi ag incwm blynyddol o lai na £19,000 yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd archfarchnadoedd (17%) na chartrefi ag incwm uwch. Er enghraifft, roedd 3% o gartrefi a oedd yn ennill rhwng £64,000 a £95,999, a 5% o gartrefi a oedd yn ennill £96,000 neu fwy wedi gwirio sgôr hylendid bwyd archfarchnadoedd.
- Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr o Lundain (77%), De-ddwyrain Lloegr (76%) a Swydd Efrog a’r Humber (75%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd bwytai nag ymatebwyr o Ogledd-orllewin Lloegr (56%). Roedd ymatebwyr o Orllewin Canolbarth Lloegr (80%) a Gogledd-orllewin Lloegr (77%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê nag ymatebwyr yn Ne-orllewin Lloegr (62%) a Llundain (57%).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hynny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes sut yr oedden nhw wedi gwirio’r sgôr. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) wedi edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. Roedd tua 1 o bob 5 (21%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes ar wefan y busnes bwyd neu (20%) ar wefan neu ap archebu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), ac roedd 15% o’r ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr ar wefan yr ASB (Ffigur 10).(footnote)
Ffigur 10. Sut yr oedd yr ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnesau bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd ymatebwyr yng Nghymru (89%), Lloegr (85%) a Gogledd Iwerddon (91%) yn fwyaf tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy edrych ar sticer a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes**.
Roedd sut yr oedd yr ymatebwyr yn gwirio sgoriau hylendid bwyd yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl.
- Grŵp oedran: roedd ymatebwyr o dan 55 oed (er enghraifft, 20% o’r rheiny rhwng 35 a 44 oed) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid ar wefan yr ASB na’r rheiny 55 oed a hŷn (er enghraifft, 3% o’r ymatebwyr 75 oed a hŷn).
- Rhanbarth (Lloegr): roedd ymatebwyr yn Nwyrain Lloegr (92%) a De-orllewin Lloegr (91%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy sticer CSHB a arddangoswyd yn y busnes bwyd nag ymatebwyr yn Gogledd-orllewin Lloegr (76%).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd ymatebwyr ag incwm y cartref blynyddol o lai na £96,000 (er enghraifft, 27% o’r ymatebwyr ag incwm blynyddol o £19,000 i £31,999) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan y busnes na chartrefi ag incwm o £96,000 neu fwy (9%). Roedd ymatebwyr ag incwm uwch (er enghraifft, 28% o gartrefi ag incwm o £96,000 neu fwy) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid ar wefan yr ASB na’r rheiny ag incwm cartref o dan £32,000 (er enghraifft, 8% o’r ymatebwyr ag incwm o £19,000 neu lai).
- Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (23%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan y busnes nag ymatebwyr mewn galwedigaethau lled-ailadroddus ac ailadroddus (13%).
- Diogeledd bwyd: Roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd isel neu isel iawn (29%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ar wefan y busnes na’r rheiny â diogeledd bwyd uchel neu ymylol (18%).
Mewn rhai achosion, gall y ffordd y mae grwpiau gwahanol yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd ddangos ble maen nhw’n bwyta allan neu sut maen nhw’n archebu bwyd tecawê.
- Grŵp oedran: roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft 59% o’r ymatebwyr 16 i 24 oed) ac o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd trwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein ( 27% o’r ymatebwyr 16 i 24 oed) o gymharu ag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 7% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein, ac roedd 5% wedi defnyddio gwefan y busnes hwn i wirio sgôr hylendid busnes bwyd. (footnote 4)
- Plant o dan 16 oed: roedd yr ymatebwyr â phlant o dan 16 oed yn y cartref hefyd yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (43%), ac o fod wedi defnyddio gwefan y busnes hwn i wirio sgôr hylendid y busnes bwyd (29%) o gymharu â chartrefi heb blant. Roedd 27% o’r ymatebwyr heb blant yn y cartref wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein, ac roedd 16% wedi defnyddio gwefan y busnes gwn i wirio sgôr hylendid y busnes bwyd.
- Plant o dan 6 oed: yn yr un modd, roedd yr ymatebwyr â phlant ifanc o dan 6 oed yn y cartref hyd yn oed yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (52%), ac o fod wedi defnyddio gwefan y busnes hwn i wirio sgôr hylendid y busnes bwyd (34%) na chartrefi heb blant ifanc. Roedd 28% o’r ymatebwyr heb blant o dan 6 oed yn y cartref wedi bwyta bwyd tecawê gan gwmni dosbarthu bwyd ar-lein, ac roedd 17% wedi defnyddio gwefan y busnes hwn i wirio sgôr hylendid y busnes bwyd.
- Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd drwy edrych ar sticer y CSHB a arddangoswyd yn y busnes bwyd (90%) nag ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (79%). Roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (77%) hefyd yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, bar neu dafarn nag ymatebwyr â diogeledd bwyd isel (67%). Roedd y rheiny â diogeledd bwyd isel neu ymylol (30% yr un) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid trwy wefan neu ap archebu bwyd ar-lein o gymharu â 14% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel. Roedd yr ymatebwyr hyn hefyd yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd tecawê o wefan neu ap dosbarthu bwyd (er enghraifft, 48% o ymatebwyr â diogeledd bwyd isel o gymharu â 23% o ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol pa mor aml yr oedd yn hawdd dod o hyd i’r sgôr. Dywedodd 14% o’r ymatebwyr ei bod bob amser yn hawdd dod o hyd i sgôr hylendid bwyd, dywedodd 64% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r sgôr y rhan fwyaf o’r amser, a dywedodd 19% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r sgôr tua hanner yr amser neu o bryd i’w gilydd. (footnote 5)
Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth fwyta allan neu brynu bwyd tecawê
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr o opsiynau, y bydden nhw fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan neu o ble i archebu bwyd tecawê. (footnote 6)
O blith y rheiny a oedd wedi archebu bwyd o siop tecawê, y ffactorau mwyaf cyffredin a ystyriwyd ganddynt wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê oedd profiad blaenorol yr ymatebwyr o’r siop tecawê (79%) ac ansawdd y bwyd (70%). Roedd tua thraean (34%) o’r ymatebwyr wedi ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu tecawê (Ffigur 11). (footnote 7)
Ffigur 11. Y deg ffactor mwyaf cyffredin sy’n cael eu hystyried wrth archebu
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (45%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd na’r ymatebwyr yn Lloegr (33%) neu Ogledd Iwerddon (37%).**
Roedd yr arfer o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 45 a 54 oed (39%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r ymatebwyr 65 oed a hŷn (er enghraifft, 19% o’r rhai 75 oed a hŷn).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr yr oedd incwm blynyddol eu cartref yn llai nag £19,000 (42%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r ymatebwyr yr oedd incwm blynyddol eu cartref yn £32,000 neu fwy (er enghraifft, 26% o’r rhai ag incwm blynyddol o £96,000 neu fwy).
- Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC): roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau goruchwylio neu dechnegol is yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê (41%) na’r ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (31%).
- Rhanbarth (Lloegr): roedd yr ymatebwyr sy’n byw ym mhob rhanbarth yn Lloegr ac eithrio Swydd Efrog a’r Humber (er enghraifft, 45% o’r rheiny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê o gymharu â’r rheiny yn Ne-orllewin Lloegr (19%).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel neu isel iawn yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê (43%) o gymharu â’r ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel neu ymylol (30%).
- Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (35%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth archebu tecawê o gymharu â’r rheiny nad ydynt yn coginio (22%).
O blith y rheiny sy’n bwyta allan, y ffactorau mwyaf cyffredin a ystyriwyd ganddynt wrth benderfynu ble i fwyta oedd ansawdd y bwyd (83%) a phrofiad blaenorol yr ymatebwyr o’r lle (80%) (Ffigur 12). (footnote 8)
Ffigur 12. Y deg ffactor mwyaf cyffredin sy’n cael eu hystyried wrth fwyta allan
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Nid oedd y Sgôr Hylendid Bwyd ymhlith y deg ffactor uchaf a ystyrir wrth fwyta allan. Hwn oedd yr unfed ffactor mwyaf cyffredin ar ddeg – roedd tua 4 o bob 10 o’r ymatebwyr (41%) yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta. Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (52%) a Gogledd Iwerddon (47%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr yn Lloegr (40%).**
Roedd yr arfer o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta yn amrywio rhwng gwahanol grwpiau o bobl:
- Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed (53%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r rhan fwyaf o grwpiau oedran eraill (er enghraifft, 37% o’r ymatebwyr rhwng 25 a 34 oed, a 35% o’r ymatebwyr rhwng 65 a 74 oed).
- Maint yr aelwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â 4 person (48%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr mewn cartrefi ag 1 person (34%) neu’r ymatebwyr mewn cartrefi â 5 neu fwy o bobl (34%).
- Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr yr oedd incwm blynyddol eu cartref yn is (er enghraifft, 47% o’r rhai ag incwm o lai nag £19,000) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr yr oedd incwm blynyddol eu cartref yn uwch (er enghraifft, 25% o’r rhai ag incwm o £96,000 neu fwy).
- Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel neu isel iawn (53%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel neu ymylol (37%).
- Rhanbarth (Lloegr): roedd yr ymatebwyr yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (52%), Gogledd-ddwyrain Lloegr (50%), Gogledd-orllewin Lloegr (43%) a De-ddwyrain Lloegr (40%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr yn Ne-orllewin Lloegr (29%).
- Cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa (42%) yn fwy tebygol o ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta na’r ymatebwyr nad ydynt byth yn siopa am fwyd (28%).
Pa mor aml roedd yr ymatebwyr yn gwirio sgôr hylendid busnes bwyd wrth gyrraedd y safle
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml roeddent yn gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd y safle. Dywedodd tua 1 o bob 10 (9%) eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd, dywedodd 21% o’r ymatebwyr eu bod yn gwneud hynny’r rhan fwyaf o’r amser, a dywedodd 32% eu bod yn gwneud hynny tua hanner yr amser neu’n achlysurol. Dywedodd dros draean o’r ymatebwyr (35%) nad oeddent byth yn gwirio sgôr hylendid bwyd busnes wrth gyrraedd y safle. (footnote 9)
Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (47%) a Gogledd Iwerddon (39%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwirio’r sgôr hylendid bwyd wrth gyrraedd y safle bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser o gymharu â’r ymatebwyr yn Lloegr (28%). Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (36%) a Gogledd Iwerddon (28%) yn fwy tebygol o ddweud nad oeddent erioed wedi gwirio’r sgôr wrth gyrraedd y safle o gymharu â’r rheiny yng Nghymru (18%).
-
Cwestiwn: Yn ystod y 12 mis diwethaf, ydych chi wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd? Efallai eich bod wedi gwirio’r sgôr ar safle busnes, ar-lein, mewn taflenni neu ar fwydlenni, p’un a wnaethoch chi benderfynu prynu bwyd yno ai peidio. Ymatebion: Ydw, rydw i wedi gwirio Sgôr Hylendid Bwyd busnes bwyd, Nac ydw, dydw i ddim wedi gwirio Sgôr Hylendid Bwyd busnes bwyd, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post.
-
Nodir ystyr y term diogeledd bwyd a’r dulliau a ddefnyddir i’w fesur yn yr adran Termau Technegol a Diffiniadau.
-
Cwestiwn: Ym mha rai o’r busnesau bwyd canlynol yr ydych chi wedi gwirio’r sgoriau hylendid yn ystod y 12 mis diwethaf? Ymatebion: Mewn bwytai, Mewn caffis, Mewn siopau tecawê, Mewn siopau coffi neu frechdanau, Mewn tafarndai, Mewn gwestai/llety gwely a brecwast, Mewn archfarchnadoedd, Mewn ysgolion neu sefydliadau eraill, Ar stondinau marchnad/bwyd stryd, Gweithgynhyrchwyr (masnachwyr busnes i fusnes) (Cymru yn unig), Mewn siopau bwyd eraill, Rhywle arall, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 2378, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 23 mis diwethaf.
-
Cwestiwn: Yn ystod y 4 wythnos diwethaf, ydych chi wedi bwyta o’r canlynol….? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol) Ymatebion: Mewn bwyty, Mewn tafarn/bar, O gaffi, siop goffi neu siop frechdanau (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd), O ffreutur (er enghraifft, yn y gwaith, yr ysgol, y brifysgol, neu’r ysbyty), Mewn gwesty, safle gwely a brecwast neu lety, O siop tecawê ar ôl archebu’r bwyd yn uniongyrchol o siop neu’r bwyty, O siop tecawê ar ôl archebu’r bwyd trwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats), O safle bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd), O fan bwyd symudol neu stondin fwyd, O leoliad adloniant (er enghraifft, sinema, ale fowlio, clwb chwaraeon), O Facebook Marketplace (er enghraifft, bwyd neu brydau wedi’u paratoi ymlaen llaw), Trwy ap rhannu bwyd (er enghraifft, Olio neu Too Good To Go), Dim un o’r rhain. Sylfaen = 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post. Sylwer, nid yw’r canrannau a ddangosir yn dod i gyfanswm o 100% gan y gellid dewis ymatebion lluosog.
-
Cwestiwn: Pan fyddwch chi’n chwilio am sgoriau hylendid bwyd ar gyfer busnesau bwyd, pa mor aml y byddai’n hawdd dod o hyd iddyn nhw? Ymatebion: Bob amser, Y rhan fwyaf o’r amser, Tua hanner yr amser, Weithiau, Byth, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 2378, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a lenwodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
-
Mae hyn yn cynnwys bwyd tecawê a archebir yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty, neu drwy gwmni dosbarthu ar-lein.
-
Cwestiwn: Yn gyffredinol, wrth archebu bwyd o siopau tecawê (naill ai’n uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty, neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein fel Just Eat, Uber Eats neu Deliveroo), beth ydych chi’n ei ystyried wrth benderfynu o ble i archebu? Ymatebion: Fy mhrofiad blaenorol o’r siop tecawê; Ansawdd y bwyd; Pris (gan gynnwys cost dosbarthu’r bwyd); Y math o fwyd (er enghraifft, y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan); Argymhellion teulu neu ffrindiau; Y Sgôr Hylendid Bwyd; Lleoliad y siop tecawê; A oes dewisiadau dosbarthu neu gasglu ar gael; A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael; Yr amserau danfon/casglu; A oes modd archebu’r bwyd ar-lein, er enghraifft drwy wefan neu ap; Adolygiadau, er enghraifft ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol neu mewn papurau newydd neu gylchgronau; A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn; A oes dewisiadau iachach ar gael; A oes gwybodaeth am alergenau ar gael; A oes gwybodaeth am galorïau ar gael; Dim o’r rhain; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3307, pawb a ymatebodd ar-lein sy’n archebu bwyd tecawê.
-
Cwestiwn: Yn gyffredinol, pan fyddwch chi’n bwyta allan, beth byddwch chi’n ei ystyried pan fyddwch chi’n penderfynu ble i fynd? Meddyliwch am fwyta allan mewn bwytai, tafarndai/bariau, a chaffis/siopau coffi/siopau brechdanau. Ymatebion: Ansawdd y bwyd; Fy mhrofiad blaenorol o’r lle; Glendid y lle; Ansawdd y gwasanaeth; Argymhellion teulu neu ffrindiau; Pris; Lleoliad; Y math o fwyd (er enghraifft, y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan); Y Sgôr Hylendid Bwyd; Awyrgylch y lle; A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael; Adolygiadau, e.e. ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol, neu mewn papurau newyddion neu gylchgronau; A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn; A oes dewisiadau iachach ar gael; A yw’r lle’n croesawu plant; A oes gwybodaeth am alergenau ar gael; A oes gwybodaeth am galorïau ar gael; Dim o’r rhain; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3819, pawb a ymatebodd ar-lein sy’n bwyta allan.
-
Cwestiwn: Pan fyddwch chi’n cyrraedd bwyty neu siop tecawê, pa mor aml, os o gwbl, y byddwch chi’n edrych ar sgôr hylendid busnes bwyd? Ymatebion: Byddaf i bob amser yn edrych ar y sgôr pan fyddaf i’n cyrraedd; Byddaf i’n gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser; Byddaf i’n gwneud hyn tua hanner yr amser; Byddaf i’n gwneud hyn o bryd i’w gilydd; Dydw i byth yn gwneud hyn pan fyddaf i’n cyrraedd; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4833, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post a ddywedodd sut y bydden nhw’n gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, ac eithrio’r rheiny nad ydynt yn bwyta mewn bwytai nac yn archebu bwyd o siopau tecawê.
Sgoriau hylendid bwyd derbyniol
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ystyried a fyddent yn dal i fwyta neu archebu bwyd o fwyty neu siop tecawê pe baent yn gweld bod y sgôr hylendid bwyd ar sticer y busnes yn is na’r sgôr uchaf o 5 (da iawn). Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y byddent yn dal i fwyta bwyd mewn bwyty neu o siop tecawê pe baent yn gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (94%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (61%). Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fyddent yn bwyta mewn bwyty nac o siop tecawê pe baent yn gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (82%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (95%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%) (Ffigur 13). (footnote 1)
Ffigur 13. Parodrwydd i fwyta mewn bwyty neu o siop tecawê sydd â sgôr hylendid bwyd sy’n is na 5
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa sgôr y byddent fel arfer yn ei hystyried fel y sgôr hylendid bwyd isaf a fyddai’n dderbyniol iddynt wrth ystyried prynu bwyd o rywle. Byddai 8% o’r ymatebwyr yn ystyried mai dim ond sgôr o 5 sy’n dderbyniol, ond dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr mai sgôr o 4 (44%) neu 3 (37%) oedd y sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol. Roedd lleiafrif o’r ymatebwyr yn ystyried sgôr o 2 (4%), 1 (1%) neu 0 (1%) yn dderbyniol. (footnote 2)
Sefyllfaoedd sy’n effeithio ar sgoriau hylendid bwyd derbyniol
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a allent feddwl am sefyllfa lle y byddent yn penderfynu prynu bwyd o fusnes â sgôr is na’u sgôr dderbyniol isaf arferol. Ar draws pob sgôr, dywedodd tua dau draean o’r ymatebwyr (68%) na allent feddwl am sefyllfa lle y byddent yn penderfynu prynu bwyd o fusnes bwyd â sgôr is, tra oedd 24% yn gallu meddwl am sefyllfa o’r fath (Ffigur 14). (footnote 3) (footnote 4)
Ffigur 14. Parodrwydd yr ymatebwyr i brynu bwyd gan fusnes sydd â sgôr hylendid bwyd sy’n is na’u sgôr dderbyniol isaf
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
O ran yr ymatebwyr hynny a oedd yn gallu meddwl am sefyllfa lle y byddent yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr is na’u sgôr dderbyniol arferol, gofynnwyd iddynt egluro beth fyddai’r sefyllfa honno drwy ddewis o blith rhestr o opsiynau. Y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin oedd pe na bai llawer o ddewis o leoedd i fynd iddynt (53%), pe baent wedi bwyta bwyd yno o’r blaen (51%), pe bai angen iddynt brynu rhywbeth yn gyflym (36%), neu pe baent yn gwybod bod y bwyd o ansawdd uchel (35%) (Ffigur 15). (footnote 5)
Ffigur 15. Y deg sefyllfa fwyaf cyffredin lle y byddai’r ymatebwyr yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr hylendid bwyd is na’u sgôr dderbyniol isaf arferol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a allent feddwl am sefyllfa lle y byddent ond yn prynu bwyd gan fusnes â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol isaf arferol. Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (66%) yn gallu meddwl am sefyllfa lle y byddai hyn yn berthnasol, ond nid oedd 23% o’r ymatebwyr yn gallu meddwl am sefyllfa o’r fath. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr a oedd yn ystyried bod sgôr o 2 (angen gwella) (50%), 3 (boddhaol ar y cyfan) (66%), neu 4 (da) (68%) yn gyffredinol dderbyniol yn gallu meddwl am sefyllfa lle y byddent ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch (Ffigur 16). (footnote 6) (footnote 7)
Ffigur 16. Parodrwydd yr ymatebwyr i brynu bwyd gan fusnes â sgôr hylendid bwyd sy’n uwch na’u sgôr dderbyniol isaf arferol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
O ran yr ymatebwyr hynny a oedd yn gallu meddwl am achlysur lle byddent ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch na’u sgôr dderbyniol arferol, gofynnwyd iddynt egluro beth fyddai’r achlysur hwnnw trwy ddewis o blith rhestr o opsiynau. Yr achlysuron mwyaf cyffredin oedd achlysuron arbennig (54%), pan fyddai’r ymatebydd yng nghwmni pobl benodol neu aelodau penodol o’i deulu (46%), pan fyddai’r ymatebydd mewn lle anghyfarwydd (er enghraifft gweithio i ffwrdd neu ar ei wyliau) (41%), neu pan fyddai gan yr ymatebydd neu rywun arall ofynion iechyd arbennig (er enghraifft salwch neu feichiogrwydd) (41%) (Ffigur 17). (footnote 8)
Ffigur 17. Achlysuron lle byddai’r ymatebwyr ond yn prynu bwyd gan fusnes â sgôr hylendid bwyd sy’n uwch na’u sgôr dderbyniol arferol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Effaith y sticer sgôr hylendid bwyd ar ganfyddiadau ac ymddygiadau
Pe na bai sticer sy’n dangos sgôr hylendid bwyd y busnes yn cael ei arddangos wrth y fynedfa, gofynnwyd i’r ymatebwyr i ba raddau, os o gwbl, y byddai hynny’n effeithio ar eu penderfyniad i fwyta yno. O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, byddai 58% yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa. Fodd bynnag, dywedodd 29% o’r ymatebwyr na fyddai hynny’n eu gwneud yn llai tebygol o fwyta yno. Dywedodd 13% o’r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod beth fyddai’r effaith ar eu penderfyniad i fwyta yno pe bai busnes yn peidio ag arddangos ei sgôr. (footnote 9)
Dywedodd cyfran uwch o’r ymatebwyr sy’n byw yng Nghymru (70%) y byddent yn llai tebygol o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa o gymharu â’r ymatebwyr yn Lloegr (57%) a Gogledd Iwerddon (60%).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB a oeddent, yn ystod y 12 mis diwethaf, wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd. Dywedodd 17% o’r ymatebwyr eu bod wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd, a dywedodd 63% nad oeddent wedi gwneud hyn. Dywedodd 20% o’r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod neu nad oeddent yn gallu cofio a oeddent wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd. (footnote 10)
Pryderon am fusnesau bwyd nad ydynt yn arddangos sgôr CSHB
Gofynnwyd i’r ymatebwyr beth fyddai’n peri pryder iddynt pe baent yn ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar y safle. Y pryderon mwyaf cyffredin oedd bod gan y busnes bwyd safonau hylendid gwael (50%) a bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid bwyd wael neu isel a’i fod yn ceisio’i chuddio (47%). Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (56%) a Gogledd Iwerddon (53%) yn fwy tebygol o boeni bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid isel/gwael a’i fod yn ceisio ei chuddio na’r ymatebwyr yn Lloegr (46%).**
Ni fyddai dros chwarter o’r ymatebwyr (26%) yn sylwi pe na bai sticer yn cael ei arddangos, ac ni fyddai 4% yn poeni am ddim byd pe na bai’r sticer yn cael ei arddangos (Ffigur 18). (footnote 11) Roedd yr ymatebwyr yn Lloegr (27%) yn fwy tebygol o ddweud na fyddent yn sylwi pe bai’r sticer ar goll na’r ymatebwyr yng Nghymru (18%) neu Ogledd Iwerddon (20%).**
Ffigur 18. Pryderon yr ymatebwyr pe na bai busnes bwyd yn arddangos ei sticer sgôr hylendid bwyd ar ei safle
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
-
Cwestiwn: Ar gyfer pob un o’r sgoriau hylendid canlynol, nodwch a fyddech chi’n dal i fwyta mewn bwyty neu o siop tecawê pe baech yn gweld y sgôr honno, neu a fyddech yn penderfynu peidio â bwyta bwyd yn y bwyty neu o’r siop tecawê honno. Ymatebion: Byddwn i’n dal i fwyta yn y bwyty / o’r siop tecawê; Fyddwn i ddim yn bwyta yn y bwyty / o’r siop tecawê; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3258, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
-
Cwestiwn: Ar raddfa sgoriau o 0 i 5, beth yw’r sgôr isaf a fyddai’n dderbyniol i chi fel arfer pe baech yn ystyried prynu bwyd o rywle? Ymatebion: 0 – angen gwella ar frys; 1 – angen gwella yn sylweddol; 2 – angen gwella; 3 – boddhaol ar y cyfan; 4 – da; 5 – da iawn; Ddim yn gwybod; Dydw i ddim fel arfer yn sylwi ar y sgôr wrth fynd i mewn i fusnes bwyd. Sylfaen = 4425, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: A allwch chi feddwl am sefyllfa lle y byddech yn penderfynu prynu bwyd o fusnes bwyd â sgôr is na … (sgôr)? Ymatebion: Gallaf; Na allaf; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3471, yr holl ymatebwyr ar-lein a ddywedodd eu bod yn ystyried sgôr CSHB o 1-5 yn dderbyniol wrth brynu bwyd o rywle, ac eithrio’r rhai nad oeddent wedi clywed am y CSHB, a’r rhieny a oedd ‘heb nodi’. Sylwer: Y sgôr a gyflwynwyd oedd yr ymateb i’r cwestiwn blaenorol, sef ‘Ar raddfa sgoriau o 0 i 5, beth yw’r sgôr isaf a fyddai’n dderbyniol i chi fel arfer pe baech yn ystyried prynu bwyd o rywle?’
-
Roedd y sampl o ymatebwyr a ddywedodd mai sgôr hylendid bwyd o 1 oedd y sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol yn llai na 100, felly nid yw’r canrannau ar gyfer yr is-grŵp hwn wedi’u cynnwys yn Ffigur 14.
-
Cwestiwn: Pryd fyddai hynny? Ymatebion: Pe na bai llawer o ddewis o leoedd i fynd iddynt; Pe bawn i wedi bwyta bwyd yno o’r blaen; Pe bawn i allan yn hwyr y nos; Pe bawn i’n gwybod bod y bwyd o ansawdd uchel; Pe bai angen i mi brynu rhywbeth yn gyflym; Pe bai rhywun wedi argymell y lle i mi; Pe na bai gen i lawer o arian i’w wario/pe bawn i am brynu bwyd o rywle rhad; Pe bai rhywun arall yn fy ngrŵp wedi dewis y busnes bwyd hwn; Pe bawn i’n mwynhau blas y bwyd o’r lle; Pe bawn i mewn lle anghyfarwydd (gweithio i ffwrdd, ar wyliau, ac ati); Pe bai’n rhan o gadwyn rydw i’n gyfarwydd â hi; Oherwydd y byddwn i’n tybio ei fod yn ddiogel os yw’n dal i fod ar agor/yn gweithredu; Pe bai’r busnes bwyd yn gweini math penodol o fwyd (er enghraifft math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan); Pe bawn i’n mynd â’r bwyd i ffwrdd gyda fi yn lle bwyta ar y safle; Arall; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 767, yr holl ymatebwyr ar-lein a oedd yn gallu meddwl am sefyllfa lle y byddent yn prynu bwyd o fusnes bwyd â sgôr is na’u sgôr dderbyniol arferol, ac eithrio’r rheiny nad oeddent wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Allwch chi feddwl am achlysur lle byddech chi ond yn prynu bwyd gan fusnes bwyd â sgôr uwch na … (sgôr)? Ymatebion: Gallaf; Na allaf; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3201, yr holl ymatebwyr ar-lein a ddywedodd y byddent yn bwyta bwyd o fusnes â sgôr CSHB o 0-4, ac eithrio’r rheiny nad oeddent wedi clywed am y CSHB, a’r rheiny a oedd ‘heb nodi’. Sylwer: Y sgôr a gyflwynwyd oedd yr ymateb i’r cwestiwn blaenorol, sef ‘Ar raddfa sgoriau o 0 i 5, beth yw’r sgôr isaf a fyddai’n dderbyniol i chi fel arfer pe baech yn ystyried prynu bwyd o rywle?’
-
Roedd y sampl o ymatebwyr a ddywedodd mai sgôr hylendid bwyd o 1 neu 0 oedd y sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol yn llai na 100, felly nid yw’r canrannau ar gyfer yr is-grwpiau hyn wedi’u cynnwys yn Ffigur 16.
-
Cwestiwn: Pryd fyddai hynny? Ymatebion: Pan fydd yn achlysur arbennig (pen-blwydd, pen-blwydd priodas, dathliad, ac ati); Pan fyddaf yng nghwmni pobl benodol/aelodau penodol o’r teulu; Pan fyddaf mewn lle anghyfarwydd (gweithio i ffwrdd, ar fy ngwyliau, ac ati); Pan fydd gen i neu rywun arall ofynion iechyd arbennig (salwch, beichiogrwydd, ac ati); Pan fyddaf yn mynd yng nghwmni pobl hŷn; Pan fyddaf yn mynd yng nghwmni plant (ifanc); Pan fyddaf am fynd i le drud; Pan fydd yn rhan o gadwyn; Arall. Sylfaen = 2096, yr holl ymatebwyr ar-lein a ddywedodd y byddent ond yn bwyta bwyd yn rhywle â sgôr uwch, ac eithrio’r rheiny nad oeddent wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Pe na bai sticer sy’n dangos sgôr hylendid bwyd y busnes yn cael ei arddangos wrth y fynedfa, i ba raddau, os o gwbl, y byddai hynny’n effeithio ar eich penderfyniad i fwyta yno? Ymatebion: Byddwn i’n llawer llai tebygol o fwyta yno; Byddwn i ychydig yn llai tebygol o fwyta yno; Fyddwn i ddim yn llai tebygol o fwyta yno; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4510, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y CSHB, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Yn ystod y 12 mis diwethaf, a wnaethoch chi erioed benderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd oherwydd nad oedd yn arddangos sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Do; Naddo; Ddim yn gwybod/Methu cofio. Sylfaen = 4506, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Pe baech yn ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar y safle, a fyddech yn poeni am unrhyw rai o’r pethau canlynol? Ymatebion: Bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid bwyd isel neu wael a’i fod yn ceisio’i chuddio; Bod safonau hylendid y busnes bwyd yn wael; A yw’r busnes bwyd wedi’i arolygu gan yr awdurdodau perthnasol ai peidio; Bod mwy o berygl o gael gwenwyn bwyd/salwch/haint drwy fwyta yno; Pa mor ddiogel yw hi i fwyta yn y busnes bwyd; Nad yw’r busnes bwyd yn bodloni’r gofynion cyfreithiol; Fyddwn i ddim yn sylwi pe na bai’r sticer yn cael ei arddangos; Fyddwn i ddim yn poeni am ddim byd; Arall; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4515, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydynt am wneud hynny ai peidio. (footnote 1) O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 91% yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd, ac roedd 5% yn meddwl y dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydynt am wneud hynny ai peidio. Nid oedd 4% o’r ymatebwyr yn gwybod a ddylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg ar draws y tair gwlad; roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yng Nghymru (94%), Gogledd Iwerddon (94%) a Lloegr (91%) yn meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd**. (footnote 2)
Gofynnwyd i’r ymatebwyr hefyd a oeddent yn meddwl y dylai busnesau sy’n cynnig gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd. O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 93% yn meddwl y dylai busnesau sy’n cynnig gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd, roedd 1% yn meddwl na ddylai hynny fod yn orfodol, a dywedodd 5% nad oeddent yn gwybod. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg ar draws Cymru (95%), Gogledd Iwerddon (95%) a Lloegr (93%)**. (footnote 3)
Barn am y man lle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymhle y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd, gan ddewis o blith rhestr o leoliadau. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn meddwl y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau bwytai neu gaffis (93%), ar wefannau siopau tecawê (93%), ar wefannau gwestai neu letai gwely a brecwast (92%), ac ar wefannau neu apiau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd (92%). Roedd tua 8 o bob 10 o’r ymatebwyr o’r farn y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd ar wefannau archfarchnadoedd (81%) ac ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnesau bwyd (81%) (Ffigur 19). (footnote 4)
Ffigur 19. Mannau lle mae’r ymatebwyr yn meddwl y dylid arddangos sgoriau hylendid bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
-
Cyflwynwyd deddfwriaeth i’w gwneud yn orfodol i fusnesau arddangos sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn safleoedd yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2016.
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylai fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu safleoedd, neu a ddylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu a ydynt am wneud hynny ai peidio? Ymatebion: Dylai fod yn rhaid iddynt ei harddangos; Dylai busnesau fod yn rhydd i benderfynu; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4512, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylai gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos ei sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd? Ymatebion: Gallaf; Na allaf; Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4510, yr holl ymatebwyr ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ trwy’r post a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, ac eithrio’r rheiny a oedd ‘heb nodi’.
-
Cwestiwn: Ydych chi’n meddwl y dylid arddangos y sgoriau hylendid… Ar apiau a gwefannau cwmnïau archebu a dosbarthu bwyd sy’n caniatáu i chi archebu bwyd o amrediad o fwytai a siopau tecawê lleol? / Ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol busnes bwyd? / Ar wefan bwyty neu gaffi? / Ar wefan siop tecawê? / Ar wefan gwesty neu lety gwely a brecwast? / Ar wefan archfarchnad? Sylfaen = 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post.
Cefndir
Yn 2018, sefydlodd y Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol (y Pwyllgor) Weithgor Bwyd a Chi newydd i adolygu methodoleg, cwmpas a ffocws yr arolwg Bwyd a Chi. Ym mis Ebrill 2019, darparodd y Gweithgor Bwyd a Chi gyfres o argymhellion i’r ASB a’r Pwyllgor ynghylch cyfeiriad yr arolwg Bwyd a Chi yn y dyfodol. Lluniwyd arolwg Bwyd a Chi 2 ar sail yr argymhellion hynny.
Mae arolwg Bwyd a Chi 2 wedi disodli’r arolwg Bwyd a Chi wyneb yn wyneb a gynhaliwyd bob dwy flynedd (2010-2018), Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd a gynhaliwyd ddwywaith y flwyddyn (2010-2019) ac Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gynhaliwyd yn flynyddol (2014-2019). Mae’r arolwg Bwyd a Chi wedi bod yn Ystadegyn Swyddogol ers 2014. Gan fod cynnwys y cwestiynau, y dull cyflwyno a’r dull ymateb yn wahanol, ni ddylid cymharu’r arolygon cynharach hyn ag arolwg Bwyd a Chi 2 yn uniongyrchol.
Mae cyhoeddiadau blaenorol am y Cynllun Sgorio yn y gyfres hon yn cynnwys:
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, Bwyd a Chi 2: Cylch 2 (Rhagfyr 2021)
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, Bwyd a Chi 2: Cylch 4 (Tachwedd 2022)
- Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, Bwyd a Chi 2: Cylch 6 (Tachwedd 2023)
Methodoleg
Comisiynir arolwg Bwyd a Chi 2 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Cynhelir y gwaith maes gan Ipsos. Cynhelir arolwg Bwyd a Chi 2 ddwywaith y flwyddyn. Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer Cylch 8 rhwng 12 Hydref 2023 ac 8 Ionawr 2024.
Cyfraddau ymateb
Ar gyfer Cylch 8, cwblhawyd yr arolwg gan gyfanswm o 5,808 o oedolion o 4,006 o gartrefi ledled Cymru (1,388 o oedolion), Gogledd Iwerddon (1,550 o oedolion) a Lloegr (2,870 o oedolion). Cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol o 26.7%. Cwblhaodd 67.4% o’r ymatebwyr yr arolwg ar-lein a 32.6% trwy’r post.
Mae Bwyd a Chi 2 yn defnyddio dull modiwlaidd lle gofynnir rhai cwestiynau ym mhob cylch o’r arolwg (bob chwe mis), tra bydd cwestiynau eraill yn codi’n llai aml, er enghraifft bob blwyddyn neu bob dwy flynedd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau yn bennaf o fodiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8, sy’n ymwneud â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Gofynnir y cwestiynau hyn yn flynyddol.
Mae rhai o’r canfyddiadau hyn wedi’u cynnwys yn Adroddiad Prif Ganfyddiadau Bwyd a Chi 2: Cylch 8, ond cyflwynir y canfyddiadau’n fanylach yn yr adroddiad hwn.
Cwblhaodd cyfanswm o 4,966 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr y modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ drwy’r holiadur ar-lein neu drwy’r holiadur post ‘Bwyta allan’. Ni fydd pob ymatebwr wedi ateb pob cwestiwn, gan fod atebion i’r cwestiynau’n dibynnu ar ymddygiadau, gwybodaeth ac agweddau hunan-gofnodedig yr ymatebwyr.
Dyluniad yr arolwg
Arolwg dilyniannol modd-cymysg sy’n annog pobl i’w lenwi ar-lein yw arolwg Bwyd a Chi 2. Anfonwyd llythyr at sampl o gyfeiriadau (a ddewiswyd ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol) yn gwahodd hyd at ddau oedolyn (16 oed neu’n hŷn) yn y cartref i lenwi’r arolwg ar-lein. Anfonwyd llythyr atgoffa cyntaf at gartrefi nad oeddent wedi ymateb i’r gwahoddiad cychwynnol. Anfonwyd fersiwn bost o’r arolwg gyda’r ail lythyr atgoffa at y rhai heb fynediad i’r rhyngrwyd neu’r rheiny yr oedd yn well ganddynt lenwi fersiwn o’r arolwg trwy’r post. Mae hyn yn helpu i leihau’r gogwydd ymateb sydd fel arall yn digwydd gydag arolygon a gynhelir ar-lein yn unig. Anfonwyd trydydd nodyn atgoffa – a’r un terfynol – at y cartrefi hynny nad oeddent wedi llenwi’r arolwg ar-lein. Rhoddwyd taleb i’r ymatebwyr am lenwi’r arolwg.
Oherwydd hyd a chymhlethdod yr holiadur ar-lein, nid oedd yn bosib cynnwys pob cwestiwn yn y fersiwn bost. Er mwyn i’r holiadur post fod yn fyrrach ac yn llai cymhleth, crëwyd dwy fersiwn ohono.
Pwysoliad
Defnyddiwyd pwysoliad i sicrhau bod y data mor agos â phosib at fod yn gynrychioliadol o is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill yn y boblogaeth, yn ôl yr arfer gydag arolygon y llywodraeth. Mae’r pwysoliad a ddefnyddir o ran data Bwyd a Chi 2 yn helpu i wneud iawn am amrywiadau yn y dewisiadau a wneir gan unigolion yn yr un cartref, am y gogwydd ymateb, ac am y ffaith mai dim ond yn un o’r arolygon post y gofynnwyd rhai cwestiynau.
Ceir rhagor o fanylion am y fethodoleg, y cyfraddau ymateb, y dull pwysoli, ynghyd â’r pwysoliadau a ddefnyddir gyda data Bwyd a Chi 2: Cylch 8 yn yr Adroddiad Technegol.
Dehongli’r canfyddiadau
Mae’r holl ddata a gesglir trwy arolwg Bwyd a Chi 2 yn hunangofnodedig. Mae’r data’n dangos agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad yr ymatebwyr eu hunain o ran diogelwch bwyd a materion bwyd. Gan mai arolwg ymchwil gymdeithasol yw Bwyd a Chi 2, ni all adrodd am ymddygiadau yr arsylwyd arnynt.
Mae’r gwerthoedd-p sy’n profi arwyddocâd ystadegol yn seiliedig ar brofion-t sy’n cymharu’r cyfrannau wedi’u pwysoli ar gyfer ymateb penodol o fewn is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill. Gwnaed addasiad ar gyfer maint gwirioneddol y sampl ar ôl pwysoli, ond ni wneir cywiriad ar gyfer cymariaethau lluosog.
Fel arfer, pan adroddir am wahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, ceir o leiaf 10 pwynt canrannol o wahaniaeth rhwng y grwpiau ac maent yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05). Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau ymatebwyr wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny pan dybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Mae cyfrifiadau canrannol yn seiliedig ar yr ymatebwyr hynny a roddodd ymateb yn unig. Mae’r gwerthoedd a’r cyfrifiadau a adroddir yn seiliedig ar gyfansymiau wedi’u pwysoli.
Termau technegol a diffiniadau
- Nodir arwyddocâd ystadegol ar y lefel 5% (p<0.05). Felly, pan fydd yr adroddiad yn nodi gwahaniaeth sylweddol, gellir bod yn weddol hyderus bod y gwahaniaeth a adroddwyd yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel y boblogaeth.
- Mae diogeledd bwyd yn golygu bod pawb yn gallu cael mynediad at ddigon o fwyd bob amser i fyw bywyd iach a gweithgar (Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996). Mae Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) wedi creu cyfres o gwestiynau sy’n nodi lefel diogeledd bwyd ymatebwyr. Mae Bwyd a Chi 2 yn ymgorffori’r 10 eitem ym Modiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion yr Unol Daleithiau ac yn cwmpasu cyfnod cyfeirio o 12 mis. Cyfeirir at yr ymatebwyr fel rhai sydd â diogeledd bwyd os cânt eu hystyried yn unigolion sydd â diogeledd bwyd uchel (dim arwyddion bod ganddynt broblemau neu gyfyngiadau o ran cael mynediad at fwyd) neu sydd â diogeledd bwyd ymylol (un neu ddau o arwyddion o broblemau – fel arfer pryder ynghylch digonolrwydd bwyd neu brinder bwyd yn y tŷ. Ychydig neu ddim arwydd o newidiadau mewn deietau neu gymeriant bwyd). Cyfeirir at yr ymatebwyr fel rhai nad oes ganddynt ddiogeledd bwyd os cânt eu hystyried yn unigolion sydd â diogeledd bwyd isel (adroddiadau o ddirywiad o ran ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deiet. Ychydig neu ddim arwydd o ostyngiad mewn cymeriant bwyd) neu sydd â diogeledd bwyd isel iawn (adroddiadau o nifer o achosion o darfu ar batrymau bwyta a gostyngiad mewn cymeriant bwyd).
- System ddosbarthu yw’r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail statws cyflogaeth a galwedigaeth.
- Mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar sail ardal ddaearyddol yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) / y Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD) / Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon (NIMDM). Neilltuir dosbarthiad MALlC/IMD/NIMDM yn ôl cod post neu enw lle. Mae’n gyfrifiad amlddimensiwn y bwriedir iddo gynrychioli’r amgylchiadau byw yn yr ardal, gan gynnwys incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, diogelwch cymunedol a’r amgylchedd ffisegol. Caiff ardaloedd bach eu sgorio gan MALlC/IMD/NIMDM; gwneir hyn ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.