Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Bwyd a Chi 2 – CSHB Cylch 8: Crynodeb Gweithredol

Arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Wales

Trosolwg o Bwyd a Chi 2

Arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain. 

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8, modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ sy’n ymwneud â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Yn y modiwl hwn, gofynnir i ymatebwyr am eu hymwybyddiaeth a’u defnydd o’r CSHB, yn ogystal â’u hagweddau tuag ato. Mae’r modiwl hwn wedi’i gynnwys yn arolwg Bwyd a Chi 2 ar sail blynyddol.

Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cynhaliwyd Cylch 8 rhwng 12  Hydref 2023 ac 8 Ionawr 2024. Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan tua 6,000 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) o 4,000 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A i gael mwy o wybodaeth am y fethodoleg). Yng Nghylch 8, cwblhaodd 4,966 o oedolion ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y fersiwn ar-lein neu’r fersiwn bost o’r modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Yn dibynnu ar eu gwybodaeth, eu hagweddau a’u hymddygiadau, nid yw pob ymatebydd yn ateb pob modiwl neu gwestiwn yn yr arolwg.  

Y prif ganfyddiadau

Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r CSHB 

  • Roedd 86% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB – 93% yng Nghymru, 86% yn Lloegr a 91% yng Ngogledd Iwerddon**. (footnote 1)) 
  • Roedd 57% o’r ymatebwyr wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano. Roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (74%) a Gogledd Iwerddon (66%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am y CSHB na’r rheiny yn Lloegr (56%).
  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 85% wedi dod ar draws y CSHB drwy weld sticer sgôr hylendid bwyd mewn safle busnes bwyd; roedd 36% wedi dod ar draws y sgôr ar wefan busnes bwyd; ac roedd 22% wedi’i gweld wrth archebu bwyd ar wefan neu ap dosbarthu bwyd.
  • Pan ddangoswyd llun o sticer y CSHB i’r ymatebwyr, dywedodd 89% eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen. Roedd adnabyddiaeth o’r sticer ychydig yn is yn Lloegr (89%) nag yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (94%)**. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fod wedi gweld y sticer mewn bwyty (84%), caffi (72%) neu siop tecawê (65%) yn ystod y 12 mis diwethaf.

Defnydd o’r CSHB

  • Roedd tua 4 o bob 10 (42%) o’r ymatebwyr wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (58%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd nag ymatebwyr yn Lloegr (41%) a Gogledd Iwerddon (49%).
  • O’r rheiny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, ac roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) wedi gwneud hynny drwy edrych ar y sticer sgôr hylendid a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd. Y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau lle’r oedd ymatebwyr wedi gwirio sgoriau oedd siopau tecawê (70%) a bwytai (70%). 
  • Dywedodd tua un o bob 10 (9%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio sgôr hylendid bwyd bwyty neu siop tecawê wrth gyrraedd, dywedodd 21% eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser, roedd 31% yn gwneud hyn tua hanner yr amser neu o bryd i’w gilydd, a doedd 35% o’r ymatebwyr byth yn gwneud hyn.

Defnyddio’r CSHB i wneud penderfyniadau

  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, dywedodd y rhan fwyaf y bydden nhw’n dal i fwyta mewn bwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 4 (da) (94%) neu 3 (boddhaol ar y cyfan) (61%). Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr na fydden nhw’n bwyta mewn bwyty nac o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o 2 (angen gwella) (82%), 1 (angen gwella yn sylweddol) (95%) neu 0 (angen gwella ar frys) (95%).
  • Dywedodd llai nag 1 o bob 10 (8%) o’r ymatebwyr mai sgôr o 5 (da iawn) yw’r sgôr isaf y byddent yn ei hystyried yn dderbyniol wrth ystyried prynu bwyd. Y sgôr dderbyniol isaf yn ôl 44% o’r ymatebwyr oedd 4 (da), a 3 (boddhaol ar y cyfan) fyddai’r sgôr dderbyniol isaf yn ôl 37% o’r ymatebwyr 
  • O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB, byddai 58% yn llai tebygol (hynny yw ‘yn llawer llai tebygol’ neu ‘ychydig yn llai tebygol’) o fwyta mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa. 
  • Dywedodd 17% o’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB eu bod, yn ystod y 12 mis diwethaf, wedi penderfynu peidio â defnyddio busnes bwyd am nad oedd yn arddangos sticer ei sgôr hylendid bwyd.
  • Yn ôl yr ymatebwyr, y pryderon mwyaf cyffredin a fyddai ganddynt wrth ymweld â busnes bwyd nad oedd yn arddangos ei sgôr hylendid bwyd oedd bod gan y busnes bwyd hwnnw safonau hylendid gwael (50%), a bod ganddo sgôr hylendid bwyd wael neu isel yr oedd yn ceisio ei chuddio (47%). Roedd ymatebwyr yng Nghymru (56%) a Gogledd Iwerddon (53%) yn fwy tebygol o boeni bod gan y busnes bwyd sgôr hylendid isel/wael a’i fod yn ceisio ei chuddio nag ymatebwyr yn Lloegr (46%)**.

Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau ar sail orfodol

  • O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB, roedd 91% yn meddwl y dylai fod yn ofyniad cyfreithiol i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd. Yn yr un modd, roedd 93% o’r farn y dylai busnesau sy’n darparu gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd.