Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) - Bwyd a Chi 2: Cylch 2
Ymchwil o'r arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 2
Cefndir
Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau lleol ac mae'n darparu gwybodaeth am y safonau hylendid a geir mewn busnesau bwyd ar yr adeg y cânt eu harolygu. Mae'r cynllun yn cynnwys busnesau sy'n darparu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr, fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai ysbytai, ysgolion a lleoliadau eraill lle mae pobl yn bwyta oddi cartref, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys busnesau sy’n masnachu â busnesau eraill yn unig, fel gweithgynhyrchwyr.
Bwyd a Chi 2: Cylch 2 yw’r cylch casglu data cyntaf sydd wedi cynnwys cwestiynau am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Mae arolwg Bwyd a Chi 2 wedi disodli’r arolwg Bwyd a Chi a gynhaliwyd bob dwy flynedd (2010-2018), Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd a gynhaliwyd ddwywaith y flwyddyn (2010-2019) ac Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (2014-2019). Yn flaenorol, gwnaethom ni gomisiynu arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i fonitro ymwybyddiaeth defnyddwyr, agweddau tuag at y cynllun a’r defnydd ohono. Mae'r arolwg wedi newid o gael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn i gael ei gynnal bob blwyddyn, a hynny o 2017 ymlaen. Gan fod cynnwys y cwestiynau, y cyflwyniad a’r dull ymateb yn wahanol, ni ddylid cymharu’r arolygon cynharach hyn ag arolwg Bwyd a Chi 2 yn uniongyrchol.
Canlyniadau
Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
- Roedd 87% o’r ymatebwyr wedi nodi eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
- O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, y lle mwyaf cyffredin yr oedd yr ymatebwyr wedi dod ar ei draws oedd trwy weld sticer sgôr hylendid bwyd yn cael ei arddangos mewn busnes bwyd (83%)
- O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, roedd dros draean yr ymatebwyr (36%) wedi dod ar ei draws ar wefan busnes bwyd
- Pan ddangoswyd llun o sticer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd iddyn nhw, dywedodd 90% o’r ymatebwyr eu bod wedi gweld y sticer o’r blaen
Dealltwriaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
- O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, roedd tua hanner yr ymatebwyr (51%) wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf (naill ai ar safle’r busnes neu ar-lein)
- O blith y rheiny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, roedd y rhan fwyaf wedi gwirio sgôr hylendid bwyd siopau tecawê (70%) a bwytai (64%)
- O blith y rheiny a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd, roedd y rhan fwyaf wedi gwneud hynny drwy edrych ar y sticer sgôr hylendid bwyd a oedd yn cael ei arddangos ar safle’r busnes bwyd (78%)
Defnyddio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i wneud penderfyniadau
- O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y bydden nhw’n dal i fwyta bwyd mewn bwyty neu o siop tecawê pe baen nhw’n gweld sticer â sgôr hylendid bwyd o bedwar (da) (95%) neu dri (boddhaol ar y cyfan) (63%)
- Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa sgôr y bydden nhw fel arfer yn ei hystyried fel y sgôr hylendid bwyd isaf a fyddai’n dderbyniol iddyn nhw pan fydden nhw’n ystyried prynu bwyd o rywle. Pedwar (da) fyddai sgôr dderbyniol isaf yn ôl 41% o’r ymatebwyr, a thri (boddhaol ar y cyfan) fyddai sgôr dderbyniol isaf 43% yn ôl o’r ymatebwyr
- O blith y rheiny a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, byddai 61% o’r ymatebwyr yn llai tebygol o fwyta bwyd mewn busnes bwyd nad oedd yn arddangos sticer sgôr hylendid bwyd wrth y fynedfa
Barn am y gofyniad i arddangos sgoriau
- O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, roedd 95% yn meddwl y dylai fod yn ofynnol gan y gyfraith i fusnesau arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd
- O blith yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, roedd 95% yn meddwl y dylai gwasanaeth archebu bwyd ar-lein arddangos ei sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn i gwsmeriaid ei gweld cyn archebu bwyd
England, Northern Ireland and Wales
Hanes diwygio
Published: 16 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Rhagfyr 2021