Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 8 Key Findings

Bwyd a Chi 2, Cylch 8: Pennod 7 – Newidiadau i arferion bwyta, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth, agweddau ac ymddygiad ymatebwyr mewn perthynas â newidiadau i arferion bwyta, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 October 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 October 2024

Cyflwyniad

Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gylch gwaith eang ac mae’n chwarae rhan fawr wrth gynyddu cynaliadwyedd, cynhyrchiant a gwytnwch y sectorau amaethyddiaeth, pysgota, bwyd a diod, gwella bioddiogelwch ar y ffin, a chodi safonau lles anifeiliaid. Yn ogystal, mae Defra yn goruchwylio’r gwaith o  reoleiddio technolegau genetig fel organebau a addaswyd yn enetig (GMO), organebau sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE) ac organebau wedi’u bridio’n fanwl

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth, agweddau ac ymddygiad ymatebwyr mewn perthynas â newidiadau i arferion bwyta, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig. 

Newidiadau i arferion bwyta ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig â bwyd

Ffigur 26. Newidiadau a wnaed gan ymatebwyr yn ystod y 12 mis blaenorol

Ffigur 26. Newidiadau a wnaed gan ymatebwyr yn ystod y 12 mis blaenorol.
Newidiadau a wnaed yn ystod y 12 mis blaenorol Canran yr ymatebwyr
Stopped eating meat or poultry or fish completely 2
Started buying foods that have been produced with minimal water usage and / or minimal deforestation 4
Started buying foods grown organically 8
Started buying animal products with high welfare standards 9
Ddim yn gwybod 13
Dim o’r rhain 6
Dechrau prynu cynhyrchion masnach deg 8
Dechrau prynu bwydydd organig 8
Dechrau prynu pysgod o ffynonellau cynaliadwy 8
Dechrau prynu cynhyrchion anifeiliaid â safonau lles uchel 10
Dechrau tyfu ffrwythau a/neu lysiau 12
Bwyta/yfed llai o gynnyrch llaeth 13
Dechrau prynu bwyd lleol yn ei dymor 22
Dechrau prynu bwyd heb lawer neu ddim deunydd pecynnu 23
Bwyta llai o gig, dofednod neu bysgod 25
Dechrau bwyta mwy o ffrwythau a/neu lysiau 32
Dechrau lleihau gwastraff bwyd 38
Bwyta llai o gynhyrchion wedi’u prosesu 43

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr, pa newidiadau, o restr o opsiynau, roeddent wedi’u gwneud yn ystod y 12 mis blaenorol, os o gwbl. Y newidiadau mwyaf cyffredin a nodwyd gan yr ymatebwyr oedd bwyta llai o fwyd wedi’i brosesu (43%) a dechrau lleihau gwastraff bwyd (38%). Dywedodd bron i draean yr ymatebwyr eu bod wedi dechrau bwyta mwy o ffrwythau a llysiau (32%). Dywedodd tua chwarter yr ymatebwyr eu bod wedi bwyta llai o gig, dofednod, neu bysgod (25%), wedi dechrau prynu bwyd heb lawer o ddeunydd pecynnu neu ddim o gwbl (23%) a/neu wedi dechrau prynu bwyd a gynhyrchwyd yn lleol neu fwyd sydd yn ei dymor (22%) yn y 12 mis blaenorol. Fodd bynnag, dywedodd 6% o’r ymatebwyr nad oeddent wedi gwneud unrhyw un o’r newidiadau a restrwyd a dywedodd 13% o’r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod a oeddent wedi gwneud unrhyw un o’r newidiadau a restrwyd yn y 12 mis blaenorol (Ffigur 26). (footnote 1)

Cig, dofednod a physgod: newidiadau mewn arferion bwyta

Ffigur 27. Mathau o gig, dofednod neu bysgod yr oedd ymatebwyr wedi bwyta llai ohonynt yn ystod y 12 mis blaenorol

Ffigur 27. Mathau o gig, dofednod neu bysgod yr oedd ymatebwyr wedi bwyta llai ohonynt yn ystod y 12 mis blaenorol.
"Math o gig dofednod neu bysgod" Eaten less
Rhai mathau o bysgod yn unig 6
Pysgod o bob math 18
Dofednod 36
Cig wedi’i brosesu 72
Cig coch 86

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi bwyta llai o gig, dofednod neu bysgod yn ystod y 12 mis blaenorol pa fathau o gynhyrchion yr oedd y newidiadau’n ymwneud â nhw. O’r ymatebwyr hyn, roedd y rhan fwyaf (86%) wedi bwyta llai o gig coch (er enghraifft, cig eidion, porc, neu gig oen) ac roedd 72% wedi bwyta llai o gig wedi’i brosesu (er enghraifft, nygets cyw iâr, ham, cig moch) yn ystod y 12 mis blaenorol. Dywedodd tua thraean (36%) eu bod wedi bwyta llai o ddofednod a dywedodd 18% eu bod wedi bwyta llai o bob math o bysgod, gyda 6% yn bwyta llai o rai mathau o bysgod yn unig yn y 12 mis blaenorol (Ffigur 27). (footnote 2)

Rhesymau dros newidiadau mewn arferion bwyta

Ffigur 28. Rhesymau cyffredin pam mae ymatebwyr wedi bwyta llai o fwydydd penodol yn ystod y 12 mis blaenorol

Ffigur 28. Rhesymau cyffredin pam mae ymatebwyr wedi bwyta llai o fwydydd penodol yn ystod y 12 mis blaenorol.
Rheswm dros fwyta llai o’r bwyd penodedig Pysgod Dofednod Cynnyrch llaeth/Wyau Cig coch Cig wedi’i brosesu Bwydydd wedi’u prosesu
Oherwydd pryderon am wenwyn bwyd 6 11 4 3 9 7
Oherwydd bod pobl eraill yn fy nghartref yn bwyta llai o’r cynnyrch hwn neu wedi rhoi’r gorau i’w fwyta 10 11 7 11 11 8
Oherwydd rhesymau ariannol 26 30 8 33 18 15
Oherwydd adwaith corfforol gwael neu annymunol 6 3 25 4 8 9
Am resymau lles anifeiliaid 26 32 18 24 21 9
Oherwydd roeddwn i eisau newid 10 16 18 14 16 16
Oherwydd rhesymau amgylcheddol neu gynaliadwyedd 35 31 26 44 27 20
Oherwydd pryderon o ran o ble daw’r cynnyrch 28 28 19 18 30 42
Oherwydd rhesymau iechyd 18 35 44 59 71 79

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi bwyta llai o fwyd wedi’i brosesu, cig coch, cig wedi’i brosesu, dofednod, pysgod neu laeth a/neu wyau yn ystod y 12 mis blaenorol, pa rai o’r opsiynau a roddwyd, os o gwbl, oedd y rhesymau pam yr oeddent wedi bwyta llai o'r cynnyrch hwnnw. Y rheswm mwyaf cyffredin dros fwyta llai o fwyd wedi’i brosesu (79%), cig wedi’i brosesu (71%), cig coch (59%), llaeth a/neu wyau (44%) a dofednod (35%) oedd er budd iechyd (er enghraifft, er mwyn bod yn fwy iach neu golli pwysau). Y rheswm mwyaf cyffredin dros fwyta llai o bysgod (35%) oedd am resymau amgylcheddol neu gynaliadwyedd (er enghraifft, effaith ar newid hinsawdd). Dywedodd tua 3 o bob 10 o’r ymatebwyr eu bod wedi bwyta llai o gig coch (33%), dofednod (30%) a/neu bysgod (26%) am resymau ariannol. Roedd ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi bwyta llai o gynnyrch llaeth a/neu wyau (25%) oherwydd adwaith corfforol gwael neu annymunol o gymharu â bwydydd eraill (Ffigur 28). (footnote 3)

Dewisiadau amgen i gig 

Cynhyrchion nad ydynt yn cynnwys cig y gellir eu bwyta yn lle cig, fel selsig a byrgyrs seitan neu lysieuol, yw dewisiadau amgen i gig (er enghraifft, cynhyrchion Quorn, Linda McCartney, neu Beyond Meat).

Bwyta dewisiadau amgen i gig

Gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent erioed wedi bwyta dewisiadau amgen i gig. Dywedodd tua dwy ran o dair (27%) o’r ymatebwyr eu bod yn bwyta dewisiadau amgen i gig ar hyn o bryd; dywedodd 22% o’r ymatebwyr eu bod yn arfer bwyta dewisiadau amgen i gig ond nad ydynt yn eu bwyta bellach; a dywedodd 44% o’r ymatebwyr nad oeddent erioed wedi bwyta dewisiadau amgen i gig. (footnote 4)

O’r ymatebwyr sy’n bwyta dewisiadau amgen i gig ar hyn o bryd, dywedodd 30% eu bod yn bwyta dewis amgen i gig amgen 2-3 gwaith yr wythnos neu’n amlach (hynny yw, bob dydd, bron bob dydd, 2-3 gwaith yr wythnos), dywedodd 43% eu bod yn bwyta dewisiadau amgen i gig o bryd i’w gilydd (hynny yw, tua unwaith yr wythnos, 2-3 gwaith y mis) a dywedodd 25% eu bod yn bwyta dewisiadau amgen i gig amgen tua unwaith y mis neu’n llai aml. (footnote 5)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn bwyta dewisiadau amgen i gig ar hyn o bryd pam y maent yn bwyta dewisiadau cig amgen o restr o opsiynau. Y rhesymau mwyaf cyffredin oedd rhesymau amgylcheddol neu gynaliadwyedd (34%), rhesymau iechyd (34%) aam eu bod yn hoffi’r blas (33%) ac am resymau lles anifeiliaid (32%). (footnote 6)

Parodrwydd i roi cynnig ar gig a dyfir mewn labordy

Mae hyn yn cynnwys cig a dyfir mewn labordy o gelloedd neu feinwe (tissue) anifail byw fel buwch, heb orfod lladd yr anifail.

Gofynnwyd i ymatebwyr a fyddent yn dymuno cynnwys cig a dyfir mewn labordy yn eu deiet pe bai ar gael yn y wlad hon. Dywedodd bron i 3 o bob 10 (28%) o’r ymatebwyr y byddent yn hoffi rhoi cynnig ar gig wedi’i dyfu mewn labordy a dywedodd 60% na fyddent. Fodd bynnag, dywedodd 11% o ymatebwyr nad oeddent yn gwybod a fyddent yn dymuno rhoi cynnig ar gig a dyfir mewn labordy yn eu deiet. (footnote 7)

Ymwybyddiaeth o fwydydd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE) a bwydydd wedi’u haddasu’n enetig (GM) 

 

Gellir diffinio bwydydd a addaswyd yn enetig fel organebau (hynny yw planhigion neu anifeiliaid) lle mae’r deunydd genetig (DNA) wedi’i newid mewn ffordd nad yw’n digwydd yn naturiol trwy baru a/neu ailgyfuno naturiol.

Mae bridio manwl yn ffordd o newid DNA planhigion neu anifeiliaid mewn ffordd fanwl gywir, gan ddefnyddio technegau fel golygu genynnau (gene-editing). Mae golygu genynnau yn defnyddio ensymau arbenigol i dorri DNA mewn mannau penodol. Rhaid i’r newidiadau hyn fod yn rhai y gellid bod wedi’u gwneud trwy ddefnyddio dulliau traddodiadol o ran bridio planhigion neu anifeiliaid.

Ffigur 29. Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau/golygu genomau (GE) a bwyd wedi’i fridio’n fanwl

Ffigur 29. Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau/golygu genomau (GE) a bwyd wedi’i fridio’n fanwl.
Lefel ymwybyddiaeth a/neu wybodaeth Bwyd wedi’i addasu'n enetig (GM) Bwyd sy’n destun golygu genynnau/genomau (GE) Bwyd wedi’i fridio’n fanwl
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac yn gwybod llawer amdano 13 6 3
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac yn gwybod cryn dipyn amdano 41 16 6
Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond ddim yn gwybod llawer amdano 28 21 10
Ydw, rydw i wedi clywed amdano, ond ddim yn gwybod dim amdano 8 13 9
Nac ydw, dydw i erioed wedi clywed amdano 10 45 71

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent erioed wedi clywed am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau a bwyd wedi’i fridio’n fanwl. Nododd yr ymatebwyr fod ganddyn nhw fwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd a addaswyd yn enetig (GM) na bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau (GE) ac roedden nhw’n gwybod y lleiaf am fwyd wedi’i fridio’n fanwl. Er enghraifft, nid oedd 71% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd wedi’i fridio’n fanwl, nid oedd 45% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GE, ac nid oedd 10% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GM (Ffigur 29). (footnote 8)