Bwyd a Chi 2, Cylch 8: Pennod 4 – Bwyta allan a bwyd tecawê
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o arferion ymatebwyr wrth fwyta allan ac archebu bwyd tecawê.
Cyflwyniad
Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau. Fel arfer, rhoddir sgoriau i leoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi, ei werthu, neu ei fwyta, gan gynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, a faniau a stondinau bwyd.
Mae’r ASB yn cynnal y cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd, a hynny er mwyn i’r bwyd fod yn ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod safonau hylendid yn dda iawn, ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys.
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr o dan y Cynllun. Yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr, ond yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith. (footnote 1) Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan yr ASB.
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o arferion bwyta allan ac archebu bwyd tecawê yr ymatebwyr, y ffactorau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta neu archebu bwyd tecawê, ac adnabyddiaeth a defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
Amlder bwyta allan ac archebu bwyd tecawê
Ffigur 10. Math o fusnes bwyd yr oedd ymatebwyr wedi bwyta ynddo neu wedi archebu bwyd ohono yn ystod y 4 wythnos flaenorol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ble roeddent wedi bwyta bwyd yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Roedd tua 6 o bob 10 o’r ymatebwyr wedi bwyta bwyd mewn bwyty (58%), neu mewn caiff, siop goffi neu neu siop frechdanau (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i fynd ag ef i ffwrdd) (58%). Roedd dros 4 o bob 10 wedi bwyta bwyd o siop tecawê a archebwyd yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty (46%), neu mewn tafarn neu far (46%), ac roedd 39% wedi bwyta bwyd mewn bwyty bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i fynd ag ef i ffwrdd). Roedd tua 3 o bob 10 (31%) wedi bwyta bwyd o siop tecawê a archebwyd drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats). Nid oedd tua 1 o bob 10 (8%) o’r ymatebwyr wedi bwyta yn unrhyw un o’r busnesau bwyd a restrwyd yn ystod y 4 wythnos flaenorol (Ffigur 10). (footnote 2)
Ffigur 11. Nifer y bobl sy’n bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê yn ôl grŵp oedran yn ystod y 4 wythnos flaenorol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd yr ymatebwyr iau yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol o’r siop neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein) yn ystod y 4 wythnos flaenorol o gymharu â’r ymatebwyr hŷn. Fodd bynnag, nid oedd y tebygolrwydd bod ymatebwyr wedi bwyta mewn bwyty, tafarn neu far yn amrywio’n fawr rhwng y rhan fwyaf o grwpiau oedran. Er enghraifft, roedd 79% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu â 25% o’r rheiny 75 oed neu’n hŷn. Mewn cymhariaeth, roedd 72% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed wedi bwyta mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â 71% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed (Ffigur 11).
Ffigur 12. Nifer y bobl sy’n bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu o siop tecawê yn ôl incwm blynyddol y cartref yn ystod y 4 wythnos flaenorol
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd yr ymatebwyr ag incwm cartref uwch yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far, neu wedi bwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol o’r siop neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein) yn ystod y 4 wythnos flaenorol o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is. Er enghraifft, roedd 80% o’r ymatebwyr ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â 55% o’r rheiny ag incwm o £19,000 neu lai. Yn yr un modd, roedd 69% o’r ymatebwyr ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 wedi bwyta bwyd tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol o’r siop neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein) o gymharu â 53% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000 (Ffigur 12).
Roedd amlder bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far neu fwyta bwyd o siop tecawê (wedi’i archebu’n uniongyrchol o’r siop neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein) yn ystod y 4 wythnos flaenorol hefyd yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi mwy yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi llai. Er enghraifft, roedd 78% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartref â 5 person neu fwy wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu â 40% o’r ymatebwyr a oedd yn byw ar eu pennau eu hunain.
- Plant dan 16 oed yn y cartref: roedd yr ymatebwyr a oedd â phlant yn y cartref (70%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny nad oedd ganddyn nhw blant 16 oed neu iau yn y cartref (55%). I’r gwrthwyneb, roedd y rheiny nad oedd ganddyn nhw blant 16 oed neu iau yn y cartref (73%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â’r rheiny â phlant 16 oed neu iau yn y cartref (65%)**.
- NS-SEC (footnote 3): roedd ymatebwyr mewn rhai grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 78% o’r rhai mewn swyddi rheoli, gweinyddol a phroffesiynol) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu â’r rhai a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu oedd erioed wedi gweithio (61%) a’r rhai mewn swyddi goruchwylio a thechnegol is (66%), neu alwedigaethau lled-arferol ac arferol (48%). Fodd bynnag, roedd myfyrwyr amser llawn (82%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê na’r rheiny mewn grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 56% o alwedigaethau canolradd) a’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu nad oeddent erioed wedi gweithio (66%).
- 25 System ddosbarthu yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail statws cyflogaeth a galwedigaeth.
- Rhanbarthau (Lloegr): roedd ymatebwyr yn Llundain (79%) a De-orllewin Lloegr (77%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far na’r rheiny yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (61%). I’r gwrthwyneb, roedd ymatebwyr yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (72%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd tecawê na’r rheiny yn Swydd Efrog a’r Humber (59%), De-ddwyrain Lloegr (56%), Llundain (55%), Dwyrain Canolbarth Lloegr (55%), a De-orllewin Lloegr (55%).
- Trefol/gwledig: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn ardal drefol (61%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny a oedd yn byw mewn ardal wledig (50%). Fodd bynnag, nid oedd nifer yr achosion o fwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far yn amrywio rhwng y rheiny a oedd yn byw mewn ardaloedd trefol (71%) neu wledig (71%)**.
- Diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (77%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far na’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol (72%), isel (67%) neu isel iawn (54%). Fodd bynnag, roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (54%) yn llai tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê na’r rheiny â diogelwch bwyd ymylol (65%), isel (66%) neu isel iawn (69%).
- Grŵp ethnig: roedd ymatebwyr gwyn (73%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu ag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (64%). Fodd bynnag, roedd ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (70%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta bwyd o siop tecawê o gymharu ag ymatebwyr gwyn (58%). (footnote 4)
- Cyflwr iechyd hirdymor: roedd ymatebwyr heb unrhyw gyflwr iechyd hirdymor (75%) yn fwy tebygol o fod wedi bwyta allan mewn bwyty, tafarn neu far o gymharu ag ymatebwyr â chyflwr iechyd hirdymor (64%). Fodd bynnag, nid oedd gwahaniaeth mawr rhwng amlder bwyta bwyd o siop tecawê rhwng y rheiny â chyflwr iechyd hirdymor (56%) neu heb gyflwr
- iechyd hirdymor (61%)**.
Bwyta allan a bwyd tecawê yn ôl pryd
Ffigur 13. Amlder bwyta allan neu brynu bwyd tecawê yn ôl pryd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml roeddent yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i frecwast, cinio a swper. Roedd ymatebwyr yn lleiaf tebygol o fwyta allan neu brynu tecawê i frecwast, gyda 44% o’r ymatebwyr erioed yn gwneud hyn. Dywedodd tua hanner yr ymatebwyr (56%) eu bod yn bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê i ginio 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml. Roedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o fwyta allan neu brynu bwyd tecawê i swper, gyda 64% yn gwneud hyn 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml a 23% yn gwneud hyn tua unwaith yr wythnos neu’n amlach (Ffigur 13). (footnote 5)
Ffactorau a ystyrir wrth fwyta allan
Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr, y byddent fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu ble i fwyta allan mewn bwytai, tafarndai, bariau, caffis, siopau coffi neu siopau brechdanau.
Ffigur 14. Ffactorau a ystyriwyd wrth benderfynu ble i fwyta allan
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8 (footnote 6)
Roedd y rheiny sy’n bwyta allan yn fwyaf tebygol o ystyried ansawdd y bwyd (83%) a’u profiad blaenorol o’r lle (80%) wrth benderfynu ble i fwyta. Roedd tua 4 o bob 10 (41%) o’r ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu ble i fwyta (Ffigur 14). (footnote 7)
Y ffactorau a ystyrir wrth archebu bwyd tecawê
Gofynnwyd i ymatebwyr pa ffactorau, o blith rhestr, y byddent fel arfer yn eu hystyried wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. (footnote 8)
Ffigur 15. Y ffactorau y bydd pobl yn eu hystyried pan fyddan nhw’n archebu bwyd tecawê.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd y rheiny sy’n archebu bwyd tecawê yn fwyaf tebygol o ystyried eu profiad blaenorol o’r siop tecawê (79%) ac ansawdd y bwyd (70%) wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê. Roedd tua thraen (34%) o’r ymatebwyr yn ystyried y sgôr hylendid bwyd wrth benderfynu o ble i archebu bwyd tecawê (Ffigur 15). (footnote 9)
Ymwybyddiaeth ac adnabyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (86%) eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Dywedodd oddeutu 6 o bob 10 (57%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am y CSHB a bod ganddyn nhw o leiaf ychydig o wybodaeth amdano. (footnote 10), (footnote 11)
Ffigur 16. Canran yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio fesul gwlad
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr a oedd yn byw yn Lloegr (86%), Cymru (93%), a Gogledd Iwerddon (91%) wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (Ffigur 16)**.
Roedd ymatebwyr yng Nghymru (74%) a Gogledd Iwerddon (66%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi clywed am y Cynllun Sgorio a bod ganddynt o leiaf rywfaint o wybodaeth am y Cynllun o gymharu â’r rheiny yn Lloegr (56%).
Pan ddangoswyd delwedd sticer y Cynllun iddynt, dywedodd 89% o'r ymatebwyr eu bod wedi gweld y sticer sgôr hylendid bwyd o'r blaen. Roedd adnabyddiaeth o sticer y Cynllun ychydig yn uwch yng Nghymru (95%) a Gogledd Iwerddon (94%) nag yn Lloegr (89%).** (footnote 12)
Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Gofynnwyd i ymatebwyr a oeddent wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd tua 4 o bob 10 (42%) o’r ymatebwyr eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes yn ystod y 12 mis blaenorol. (footnote 13)
Roedd ymatebwyr a oedd yn byw yng Nghymru (58%) yn fwy tebygol o fod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf o gymharu ag ymatebwyr yn Lloegr (41%) a Gogledd Iwerddon (49%)**.
Ffigur 17. Busnesau bwyd lle’r oedd yr ymatebwyr wedi gwirio’r sgôr hylendid bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf pa fathau o fusnesau bwyd yr oeddent wedi’u gwirio. Y mathau mwyaf cyffredin o fusnesau bwyd yr oedd ymatebwyr wedi gwirio eu sgôr bwyd oedd bwytai (70%) a siopau bwyd tecawê (70%). Roedd ymatebwyr yn llai tebygol o ddweud eu bod wedi gwirio sgôr hylendid bwyd caffis (51%), siopau coffi neu frechdanau (35%) neu dafarndai (34%) (Ffigur 17). (footnote 14)
-
Cyflwynwyd deddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol arddangos sgoriau’r CSHB yng Nghymru ym mis Tachwedd 2013 ac yng Ngogledd Iwerddon ym mis Hydref 2016.
-
Cwestiwn: Yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf, ydych chi wedi bwyta bwyd o’r canlynol….? (Dewiswch bob un sy’n berthnasol) Ymatebion : Wedi archebu bwyd tecawê yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty; O gaffi, siop goffi neu siop frechdanau (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd); Wedi archebu bwyd tecawê trwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats); O safle bwyd brys (naill ai i’w fwyta ar y safle neu i’w gymryd i ffwrdd); Mewn bwyty; Mewn tafarn/bar; O ffreutur (er enghraifft, yn y gwaith, yr ysgol, y brifysgol, neu’r ysbyty); O fan bwyd symudol neu stondin fwyd; Mewn gwesty, safle Gwely a Brecwast, neu lety; O leoliad adloniant (er enghraifft, sinema, ale fowlio, clwb chwaraeon); Trwy ap rhannu bwyd (er enghraifft, Olio neu Too Good To Go); O Facebook Marketplace (er enghraifft, bwyd neu brydau wedi’u paratoi ymlaen llaw); Dim un o’r rhain. Sylfaen= 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur ‘Bwyta Allan’ drwy’r post (gweler Atodiad A). Sylwer, nid yw’r canrannau a ddangosir yn dod i gyfanswm o 100% gan y gellid dewis ymatebion lluosog.
-
System ddosbarthu yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail statws cyflogaeth a galwedigaeth.
-
Sylwer: nid adroddir am ffigurau grwpiau ethnig eraill oherwydd maint sylfaen / sampl isel.
-
Cwestiwn: Ar hyn o bryd, pa mor aml, os o gwbl, ydych chi’n bwyta allan neu’n prynu bwyd tecawê ar gyfer...? A) Brecwast, B) Cinio, C) Swper/te. Ymatebion: Sawl gwaith yr wythnos, Tua unwaith yr wythnos, Tua 2-3 gwaith y mis, Tua unwaith y mis, Llai nag unwaith y mis, Byth, Methu cofio. Sylfaen = 3915, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post.
-
Sylwer: Diwygiwyd Ffigur 14 ym mis Tachwedd 2024 i gynnwys newidyn coll “Cynigion, bargeinion neu ddisgownt sydd ar gael (43%)” a gafodd ei hepgor yn flaenorol o’r ffigur.
-
Cwestiwn: Yn gyffredinol, pan fyddwch chi’n bwyta allan, beth byddwch chi’n ei ystyried pan fyddwch chi’n penderfynu ble i fynd? Meddyliwch am fwyta allan mewn bwytai, tafarndai/bariau, a chaffis/siopau coffi/siopau brechdanau. Ymatebion: Ansawdd y bwyd, Fy mhrofiad blaenorol o’r lle, Pris, Lleoliad, Argymhellion teulu neu ffrindiau, Glendid y lle, Ansawdd y gwasanaeth, Y math o fwyd (er enghraifft, y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan), Awyrgylch y lle, Y Sgôr Hylendid Bwyd, A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael, Adolygiadau, er enghraifft, ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol, neu mewn papurau newyddion neu gylchgronau, A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn, A oes dewisiadau iachach ar gael, A yw’r lle’n croesawu plant, A oes gwybodaeth am alergenau ar gael, A oes gwybodaeth am galorïau ar gael, Dim o’r rhain, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3819, pawb a ymatebodd ar-lein sy’n bwyta allan.
-
Mae hyn yn cynnwys bwyd tecawê a archebir yn uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty neu drwy gwmni dosbarthu ar-lein.
-
Cwestiwn: Yn gyffredinol, wrth archebu bwyd o siopau tecawê (naill ai’n uniongyrchol o siop tecawê neu fwyty neu drwy gwmni dosbarthu bwyd ar-lein fel Just Eat, Uber Eats neu Deliveroo) beth ydych chi’n ei ystyried wrth benderfynu o ble i archebu? Ymatebion: Fy mhrofiad blaenorol o’r siop tecawê, Ansawdd y bwyd, Pris (gan gynnwys cost dosbarthu’r bwyd), Y math o fwyd (er enghraifft, y math o cuisine neu ddewisiadau llysieuol/figan), Argymhellion teulu neu ffrindiau, Y Sgôr Hylendid Bwyd, Lleoliad y siop tecawê, A oes dewisiadau dosbarthu neu gasglu ar gael, A oes cynigion, bargeinion neu ostyngiadau ar gael, Yr amseroedd danfon/casglu, A oes modd archebu’r bwyd ar-lein er enghraifft, drwy wefan neu ap, Adolygiadau er enghraifft, ar TripAdvisor, Google, y cyfryngau cymdeithasol neu mewn papurau newydd neu gylchgronau, A yw’n fusnes annibynnol neu’n rhan o gadwyn, A oes dewisiadau iachach ar gael, A oes gwybodaeth am alergenau ar gael, A oes gwybodaeth am galorïau ar gael, Dim o’r rhain, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 3307, pawb a ymatebodd ar-lein sy’n archebu bwyd tecawê.
-
Cwestiwn: Ydych chi wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd? Ymatebion: Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod cryn dipyn amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ac rydw i’n gwybod ychydig amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod llawer amdano, Ydw, rydw i wedi clywed amdano ond dydw i ddim yn gwybod dim amdano, Nac ydw, dydw i erioed wedi clywed amdano. Sylfaen = 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post.
-
Mae ymatebion i gwestiynau eraill ar y Cynllun Sgorio nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau. Bydd adroddiad manylach ar y Cynllun Sgorio yn cael ei gyhoeddi ar wahân.
-
Sylwer: Diwygiwyd y frawddeg hon ym mis Tachwedd 2024 i egluro’r gwahaniaethau rhwng Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Roedd y frawddeg blaenorol yn nodi, “Roedd adnabyddiaeth o sticer y Cynllun yn debyg ledled Cymru (95%), Lloegr (89%) a Gogledd Iwerddon (94%)”.
-
Cwestiwn: Yn y 12 mis diwethaf, ydych chi wedi gwirio sgôr hylendid busnes bwyd? Efallai eich bod wedi gwirio’r sgôr ar safle busnes, ar-lein, mewn taflenni neu ar fwydlenni, p’un a wnaethoch chi benderfynu prynu bwyd yno ai peidio. Ymatebion: Ydw, rwyf wedi gwirio Sgôr Hylendid Bwyd busnes bwyd, Nac ydw, nid wyf wedi gwirio Sgôr Hylendid Bwyd busnes bwyd, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 4966, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a atebodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post.
-
Cwestiwn: Ym mha rai o’r busnesau bwyd canlynol ydych chi wedi gwirio’r sgoriau hylendid yn ystod y 12 mis diwethaf? Ymatebion: Mewn siopau tecawê, Mewn bwytai, Mewn caffis, Mewn siopau coffi neu frechdanau, Mewn tafarndai, Mewn gwestai a safleoedd gwely a brecwast, Mewn archfarchnadoedd, Mewn siopau bwyd eraill, Mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill, Ar stondinau marchnad/bwyd stryd, Gwneuthurwyr (masnachwyr busnes-fusnes), Rhywle arall, Ddim yn gwybod. Sylfaen = 2378, pawb a ymatebodd ar-lein a’r rheiny a lenwodd yr holiadur Bwyta Allan drwy’r post a oedd wedi gwirio sgôr hylendid bwyd busnes bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf.
Hanes diwygio
Published: 18 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Tachwedd 2024