Bwyd a Chi 2, Cylch 8: Cyflwyniad
Casglwyd data ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch 8 rhwng 12 Hydref 2023 ac 8 Ionawr 2024.
The Food Standards Agency: role, remit, and responsibilities
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (footnote 1). Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r gosodiadau canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Bwriedir i arolwg Bwyd a Chi 2 fonitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Bwyd a Chi 2: Cylch 8
Cafodd data Bwyd a Chi 2: Cylch 8 ei gasglu rhwng 12 Hydref 2023 ac 8 Ionawr 2024. Cwblhawyd yr arolwg gan 5,808 o oedolion (16 oed neu hŷn) o 4,006 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (sef cyfradd ymateb gyffredinol o 26.7%).
Cafodd data Bwyd a Chi 2: Cylch 8 ei gasglu yn ystod cyfnod o newid ac ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd; gan gynnwys argyfwng costau byw lle’r oedd chwyddiant prisiau bwyd a biliau ynni yn uchel. Mae’r cyd-destun hwn yn debygol o fod wedi cael effaith ar y lefelau diogeledd bwyd, y pryderon a’r ymddygiadau sy’n ymwneud â bwyd a nodwyd yn Bwyd a Chi 2.
Arolwg modiwlaidd yw Bwyd a Chi 2, gyda modiwlau ‘craidd’ sy’n cael eu cynnwys ym mhob cylch, modiwlau ‘cylchdro’ sy’n cael eu hailadrodd bob blwyddyn neu bob dwy flynedd, a modiwlau ‘untro’ sy’n mynd i’r afael â materion cyfoes o ddiddordeb. Mae’r modiwlau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cynnwys: ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’ (craidd); ‘Pryderon am fwyd’ (craidd); ‘Diogeledd bwyd’ (craidd); ‘Bwyta gartref’ (craidd); ‘Gorsensitifrwydd i fwyd’ (cylchdro); a ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ (cylchdro).
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8. Nid yw’r holl gwestiynau a ofynnwyd yn arolwg Cylch 8 wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yn y set ddata a’r tablau cysylltiedig.
Dehongli’r canfyddiadau
I dynnu sylw at y prif wahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, dim ond pan fo’r gwahaniaethau absoliwt yn 10 pwynt canrannol neu fwy ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p <0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny os tybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn. Mae seren sengl yn nodi nad yw’r gwerth yn cael ei adrodd gan fod maint y sylfaen yn is na 100 ac, o ganlyniad, efallai nad yw’n gynrychioliadol o’r boblogaeth (*).
Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r fath ddadansoddiadau ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau. Darperir gwybodaeth bwysig am bob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:
- Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymateb).
- Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddyn nhw, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = N).
- Mae ‘Sylwer:’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i’w hystyried wrth ddehongli’r canlyniadau.
-
Yn yr Alban, y swyddfa anweinidogol, Safonau Bwyd yr Alban, sy’n gyfrifol am wella maeth, sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta, a sicrhau bod defnyddwyr yn gwybod beth maen nhw’n ei fwyta.