Bwyd a Chi 2, Cylch 7: Pennod 2 - Pryderon am fwyd
Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon yr ymatebwyr am fwyd.
Cyflwyniad
Gwaith yr ASB, fel y nodir yn y gyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Mae’r ASB yn defnyddio arolwg Bwyd a Chi 2 i fonitro pryderon defnyddwyr am faterion bwyd, fel diogelwch bwyd, maeth, a materion amgylcheddol. Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o bryderon yr ymatebwyr am fwyd.
Pryderon cyffredin
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Nid oedd gan y mwyafrif o’r ymatebwyr (72%) unrhyw bryderon, a dim ond 28% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder. (footnote 1)
Ffigur 4. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd heb anogaeth
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (33%), maeth ac iechyd (30%), ac ansawdd bwyd (23%) (Ffigur 4). (footnote 2)
Ffigur 5. Y pryderon mwyaf cyffredin am fwyd a fynegwyd gydag anogaeth
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddynt bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Y pryder mwyaf cyffredin oedd prisiau bwyd (72%). Pryderon cyffredin eraill oedd gwastraff bwyd (58%), faint o siwgr sydd mewn bwyd (56%), ansawdd bwyd (56%), a faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir (56%) (Ffigur 5). (footnote 3)
Ffigur 6. Lefel y pryder am faterion sy’n ymwneud â bwyd
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7
Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi i ba raddau roeddent yn pryderu am nifer o faterion penodol sy’n ymwneud â bwyd. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd (55%). Roedd materion eraill yr oedd yr ymatebwyr yn bryderus iawn yn eu cylch yn cynnwys lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd (33%), cynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd (30%), a bwyd a addaswyd yn enetig (GM) (30%) (Ffigur 6). (footnote 4)
Roedd lefel y pryder am fforddiadwyedd bwyd a nodwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:
- Rhyw: Roedd menywod (61%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd na dynion (48%).
- Grŵp oedran: Roedd yr ymatebwyr rhwng 25 a 74 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny rhwng 16 a 24 oed (45%) a’r rheiny 75 oed neu hŷn (37%).
- Incwm blynyddol y cartref: Roedd yr ymatebwyr ag incwm is yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm uwch (er enghraifft, 61% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000 o gymharu â 55% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999).
- NS-SEC: Roedd y rheiny yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 61% o’r rheiny mewn swyddi lled-ailadroddus ac ailadroddus) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd na myfyrwyr amser llawn (44%).
- Rhanbarth (Lloegr) (footnote 5): Roedd pryderon ynghylch fforddiadwyedd bwyd yn amrywio fesul rhanbarth yn Lloegr. Er enghraifft, roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr (61%) a Gogledd-orllewin Lloegr (58%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd yn byw yn Nwyrain Lloegr (44%).
- Diogeledd bwyd: Roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd isel iawn (79%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (66%) neu ymylol (66%). Y rheiny â diogeledd bwyd uchel oedd lleiaf tebygol o nodi eu bod yn bryderus iawn am fforddiadwyedd bwyd (45%).
- Gorsensitifrwydd i fwyd: Roedd yr ymatebwyr ag alergedd yn unig (65%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny heb orsensitifrwydd i fwyd (54%).
- Cyflwr iechyd hirdymor: Roedd yr ymatebwyr â chyflwr iechyd hirdymor (61%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny heb gyflwr iechyd hirdymor (52%)**.
- Cyfrifoldeb dros goginio: Roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am goginio (55%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny nad oedden nhw’n gyfrifol am goginio (43%).
- Cyfrifoldeb dros siopa: Roedd yr ymatebwyr a oedd yn gyfrifol am siopa (56%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd na’r rheiny nad oedden nhw’n gyfrifol am siopa (36%).
-
Cwestiwn: Oes gennych chi unrhyw bryderon am y bwyd rydych chi’n ei fwyta? Ymatebion: Oes, Nac oes. Sylfaen = 5812, pawb a ymatebodd.
-
Cwestiwn: Beth yw eich pryderon am y bwyd rydych chi’n ei fwyta? Ymatebion: [Testun agored]. Sylfaen = 1715, pawb a ymatebodd a oedd â phryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Sylwer: mae ymatebion ychwanegol ar gael yn y tablau data a’r set ddata lawn. Cafodd yr ymatebion eu codio gan Ipsos, gweler yr Adroddiad Technegol i gael rhagor o fanylion.
-
Cwestiwn: A oes gennych bryderon am unrhyw rai o’r canlynol? Ymatebion: faint o siwgr sydd mewn bwyd, gwastraff bwyd, lles anifeiliaid, hormonau, steroidau a gwrthfiotigau mewn bwyd, faint o halen sydd mewn bwyd, faint o fraster sydd mewn bwyd, gwenwyn bwyd, hylendid bwyd wrth fwyta allan, hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê, y defnydd o blaladdwyr, twyll neu droseddau bwyd, y defnydd o ychwanegion (er enghraifft, cyffeithyddion a lliwiau bwyd), prisiau bwyd, bwydydd a addaswyd yn enetig (GM), halogi cemegol o du’r amgylchedd, taith bwyd, nifer y calorïau mewn bwyd, gwybodaeth am alergenau mewn bwyd, coginio’n ddiogel gartref, ansawdd bwyd, faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir, y gallu i fwyta’n iachus, dim un o’r rhain, ddim yn gwybod. Sylfaen = 3617, pawb a ymatebodd ar-lein. Sylwer: ni ellir cymharu’r data o’r cwestiwn hwn yn uniongyrchol â chylchoedd blaenorol oherwydd bod dewisiadau ymateb newydd; y gallu i fwyta’n iachus, ansawdd bwyd, faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir.
-
Cwestiwn: Gan feddwl am fwyd yn y DU [amrywiad i eiriad y cwestiwn yng Ngogledd Iwerddon: y DU ac Iwerddon] heddiw, pa mor bryderus ydych chi, os o gwbl, am y pynciau canlynol? a) fforddiadwyedd bwyd b) diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir [yng Nghymru a Lloegr: yn y DU; yng Ngogledd Iwerddon: yn y DU ac Iwerddon] c) diogelwch a hylendid bwyd o’r tu allan i’r [yng Nghymru a Lloegr: DU; yng Ngogledd Iwerddon: DU ac Iwerddon] d) bod bwyd a gynhyrchir [yng Nghymru a Lloegr: yn y DU; yng Ngogledd Iwerddon: yn y DU ac Iwerddon] yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label e) bod bwyd o’r tu allan i’r [yng Nghymru a Lloegr: DU; yng Ngogledd Iwerddon: DU ac Iwerddon] yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label f) bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy g) argaeledd amrywiaeth eang o fwyd h) lles anifeiliaid yn y broses cynhyrchu bwyd i) cynhwysion ac ychwanegion mewn bwyd j) bwyd a addaswyd yn enetig (GM). Sylfaen = 5812, pawb a ymatebodd. Sylwer: addaswyd geiriad y cwestiwn ar gyfer ymatebwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
-
Dim ond yn Lloegr yr ystyriwyd gwahaniaethau rhanbarthol oherwydd y maint sampl/sylfaen isel yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.