Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 7 Key Findings

Bwyd a Chi 2, Cylch 7: Pennod 1 - Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 April 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 April 2024

Cyflwyniad

Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd. 

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd 

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (hynny yw, eu bod yn ‘hyderus iawn’ neu’n ‘eithaf hyderus’). Dywedodd 88% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 83% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir.  (footnote 1)

Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: Roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta nag oedolion iau (er enghraifft, 85% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed o gymharu â 93% o’r rheiny sy’n 75 oed neu’n hŷn)**. 
  • Incwm blynyddol y cartref: Roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is, (er enghraifft, roedd 94% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 yn hyderus o gymharu ag 86% o’r rheiny ag incwm rhwng £19,000 a £31,999)**.
  • NS-SEC (footnote 2): Roedd yr ymatebwyr â galwedigaethau (er enghraifft, 90% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol, a phroffesiynol) a myfyrwyr amser llawn (86%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel na’r ymatebwyr hynny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (77%). 
  • Diogeledd bwyd: Roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r rhai a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 93% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu â 79% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn). 
  • Grŵp ethnig: Roedd yr ymatebwyr gwyn (91%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta nag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (80%). (footnote 3) 
  • Cyfrifoldeb dros goginio: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (89%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (76%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (89%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta na’r rheiny nad ydyn nhw’n siopa am fwyd (79%).
  • Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 
  • NS-SEC: Roedd yr ymatebwyr â galwedigaethau (er enghraifft, 85% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) a myfyrwyr amser llawn (88%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (63%).
  • Diogeledd bwyd: Roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (86%), ymylol (87%) ac isel (83%) yn fwy tebygol o nodi hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn (74%). 
  • Cyfrifoldeb dros goginio: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (84%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yng nghywirdeb labeli na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (74%).

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd

Dywedodd tua dwy ran o dair o’r ymatebwyr (68%) fod ganddyn nhw hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd. (footnote 4)

Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: Roedd yr ymatebwyr 75 oed neu hŷn (78%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny 54 oed neu’n iau (er enghraifft, 60% o’r rheiny rhwng 25 a 34 oed).
  • NS-SEC: Roedd yr ymatebwyr â galwedigaethau (er enghraifft, 78% o gyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain) a myfyrwyr amser llawn (72%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (57%). 
  • Rhanbarth (Lloegr) (footnote 5): Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio fesul rhanbarth. Er enghraifft, roedd 74% o’r ymatebwyr yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr a 72% o’r rheiny yn Ne-orllewin Lloegr yn hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â 58% o’r rheiny yn Llundain Fwyaf.
  • Diogeledd bwyd: Roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 72% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 57% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
  • Grŵp ethnig: Roedd yr ymatebwyr gwyn (71%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (57%). (footnote 6)
  • Gorsensitifrwydd i fwyd: Roedd yr ymatebwyr ag alergedd bwyd (73%) a’r rheiny nad oes ganddyn nhw orsensitifrwydd i fwyd (70%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag anoddefiad bwyd (59%).

Ffigur 1: Hyder bod y rheiny sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta

Ffigur 1: Hyder bod y rheiny sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta
Y rheiny sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd Canran yr ymatebwyr (%)
Gwasanaethau dosbarthu bwyd 39
Siopau tecawê 54
Bwytai 73
Lladd-dai a llaethdai 73
Gweithgynhyrchwyr bwyd 75
Siopau ac archfarchnadoedd 81
Ffermwyr 84

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor hyderus oeddent fod y rheiny sydd â rhan allweddol yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn sicrhau bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu’n ddiogel i’w fwyta. Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder (hynny yw, yn hyderus iawn neu’n weddol hyderus) mewn ffermwyr (84%) ac mewn siopau ac archfarchnadoedd (81%) nag mewn siopau tecawê (54%) a gwasanaethau dosbarthu bwyd, er enghraifft Just Eat, Deliveroo, Uber Eats (39%). Dywedodd bron i un o bob pedwar o’r ymatebwyr (24%) nad ydyn nhw’n gwybod pa mor hyderus ydyn nhw bod gwasanaethau dosbarthu bwyd yn sicrhau bod y bwyd y maen nhw’n yn ei brynu’n ddiogel i’w fwyta (Ffigur 1). (footnote 7)

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

Ymwybyddiaeth o’r ASB

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (89%) wedi clywed am yr ASB. (footnote 8)

Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: Roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr iau. Er enghraifft, dywedodd 97% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed eu bod wedi clywed am yr ASB, o gymharu â 74% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed.
  • Maint y cartref: Roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi llai yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi mwy. Er enghraifft, roedd 95% o’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi un person wedi clywed am yr ASB o gymharu ag 82% o’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi gyda phum person neu fwy. 
  • Incwm blynyddol y cartref: Roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny ag incwm is. Er enghraifft, dywedodd 97% o’r ymatebwyr ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 eu bod wedi clywed am yr ASB o gymharu ag 82% o’r rheiny ag incwm llai nag £19,000.
  • NS-SEC: Roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 96% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na myfyrwyr amser llawn (72%) a’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (56%).
  • Diogeledd bwyd: Roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 92% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 82% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel).
  • Grŵp ethnig: Roedd yr ymatebwyr gwyn (92%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (71%).  (footnote 9)
  • Cyfrifoldeb dros goginio: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (90%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (69%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: Roedd yr ymatebwyr sydd yn gyfrifol am siopa am fwyd (90%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (70%).

Ffigur 2. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

Siart far ar gyfer Ffigur 2: Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Gwybodaeth am yr ASB Canran yr ymatebwyr (%)
Dydw i erioed wedi clywed am yr ASB 7
Doeddwn i erioed wedi clywed am yr ASB nes y cysylltwyd â mi i gymryd rhan yn yr arolwg hwn 6
Rydw i wedi clywed am yr ASB, ond ddim yn gwybod dim amdani 34
Rydw i’n gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith 48
Rydw i’n gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith 5

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 5% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 48% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd tua thraean (34%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oedden nhw’n gwybod dim amdani. Dywedodd 6% nad oedden nhw wedi clywed am yr ASB cyn iddyn nhw gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2, a dywedodd 7% nad oedden nhw erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 2). (footnote 10) 

Roedd gwybodaeth am yr ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: Roedd yr ymatebwyr rhwng 35 a 74 oed (er enghraifft, 63% o’r rheiny rhwng 45 a 54 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â’r ymatebwyr iau (36% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed) neu’r ymatebwyr hynaf (47% o’r rheiny 75 oed a hŷn). 
  • Incwm blynyddol y cartref: Roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is (er enghraifft, 63% o’r rheiny ag incwm rhwng £32,000 a £63,999 o gymharu â 46% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000). 
  • NS-SEC: Roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (60%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny mewn galwedigaethau eraill (er enghraifft, 47% o’r rheiny mewn galwedigaethau gwaith ailadroddus a lled-ailadroddus). Y rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (31%) a myfyrwyr amser llawn (36%) oedd lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB.
  • Rhanbarth (Lloegr) (footnote 11): Roedd gwybodaeth am yr ASB yn amrywio fesul rhanbarth. Er enghraifft, dywedodd 61% o’r ymatebwyr yn Ne-orllewin Lloegr eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â 41% o’r rheiny yn Llundain Fwyaf a 48% o’r rheiny yn Nwyrain Lloegr.
  • Trefol / gwledig: Roedd yr ymatebwyr mewn ardaloedd gwledig (61%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny mewn ardaloedd trefol (52%)**.
  • Grŵp ethnig: Roedd yr ymatebwyr gwyn (55%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB nag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (42%).  (footnote 12)
  • Gorsensitifrwydd i fwyd: Roedd yr ymatebwyr ag alergedd bwyd (63%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r ymatebwyr heb orsensitifrwydd i fwyd (53%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (55%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (35%). 
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (56%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa (28%). 

Ymddiriedaeth yn yr ASB

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd ag o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB i ba raddau yr oeddent yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, hynny yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dywedodd y rhan fwyaf (69%) o’r ymatebwyr eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith. Nid oedd 27% o’r ymatebwyr yn ymddiried ynddi y naill ffordd na’r llall i wneud ei gwaith, a dywedodd 2% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud hyn. (footnote 13)

Roedd ymddiriedaeth yn yr ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: Roedd yr ymatebwyr iau yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith na’r ymatebwyr hŷn. Er enghraifft, dywedodd 83% o’r ymatebwyr 16-24 oed eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, o gymharu â 65% o’r rheiny 65-74 oed. 
    Maint y cartref: Roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi mwy yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi llai. Er enghraifft, dywedodd 81% o’r ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi 4 person eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, o gymharu â 62% o’r rheiny mewn cartrefi 1 person. 

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd rhag bwyd) (79%). Roedd tua thri chwarter o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd (76%), ac roeddent yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (72%).  (footnote 14)

Ymddiriedaeth mewn gwyddoniaeth a sefydliadau

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor hyderus oedden nhw bod ymchwil wyddonol yn arwain at gasgliadau cywir. Dywedodd tua 8 o bob 10 (78%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod ymchwil wyddonol yn arwain at gasgliadau cywir.  (footnote 15)

Ffigur 3. Ffactorau sy’n effeithio ar ymddiriedaeth mewn sefydliad

Siart far ar gyfer Ffigur 3: Ffactorau sy’n effeithio ar ymddiriedaeth mewn sefydliad
Effaith ar ymddiriedaeth Defnyddio cyngor arbenigol annibynnol i lywio unrhyw benderfyniadau Seilio penderfyniadau a chyngor ar dystiolaeth wyddonol Sicrhau bod y dystiolaeth wyddonol sy'n sail i unrhyw benderfyniadau ar gael yn agored
Ddim yn gwybod 9 8 8
Ymddiried llai yn y sefydliad 3 2 2
Ni fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth 22 20 16
Ymddiried mwy yn y sefydliad 66 69 74

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa ffactorau, o restr benodol, a fyddai’n gwneud iddyn nhw ymddiried yn fwy mewn sefydliad a pha rai fyddai’n gwneud iddynt ymddiried yn llai. Dywedodd tua thri chwarter (74%) o’r ymatebwyr y bydden nhw’n ymddiried yn fwy mewn sefydliad pe bai’n sicrhau bod y dystiolaeth wyddonol sy’n sail i unrhyw benderfyniadau ar gael yn agored, a dywedodd 69% o’r ymatebwyr y bydden nhw’n ymddiried yn fwy mewn sefydliad pe bai’n seilio penderfyniadau a chyngor ar dystiolaeth wyddonol. Dywedodd dwy ran o dair (66%) o’r ymatebwyr y bydden nhw’n ymddiried yn fwy mewn sefydliad pe bai’n defnyddio cyngor arbenigol annibynnol i lywio unrhyw benderfyniadau, a dywedodd 22% na fyddai hyn yn gwneud gwahaniaeth i faint yr oedden nhw’n ymddiried mewn sefydliad. Dywedodd tua 1 o bob 10 o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n gwybod sut y byddai’r ffactorau hyn yn effeithio ar eu hymddiriedaeth o sefydliad (Ffigur 3). (footnote 16)