Bwyd a Chi 2 Cylch 7: Atodiad A
Atodiad i Bwyd a Chi 2 Cylch 7.
Cefndir
Yn 2018, sefydlodd Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol yr ASB Weithgor Bwyd a Chi newydd i adolygu methodoleg, cwmpas a ffocws yr arolwg Bwyd a Chi. Ym mis Ebrill 2019, darparodd y Gweithgor Bwyd a Chi gyfres o argymhellion i’r ASB a’r Pwyllgor ynghylch trywydd yr arolwg Bwyd a Chi yn y dyfodol. Datblygwyd arolwg Bwyd a Chi 2 ar sail yr argymhellion hynny.
Mae arolwg Bwyd a Chi 2 wedi disodli’r arolwg Bwyd a Chi a gynhaliwyd bob dwy flynedd (2010-2018), Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd a gynhaliwyd ddwywaith y flwyddyn (2010-2019) ac Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gynhaliwyd yn flynyddol (2014-2019). Mae’r arolwg Bwyd a Chi wedi bod yn Ystadegyn Swyddogol ers 2014. Gan fod methodoleg Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd, Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ac arolwg Bwyd a Chi (2010-2018) yn wahanol, nid yw’n bosib cymharu’r data a gesglir trwy Arolwg Bwyd a Chi 2 (2020 ymlaen) â’r data cynharach hyn. Gellir gwneud cymariaethau rhwng gwahanol gylchoedd arolwg Bwyd a Chi 2. Cafodd adroddiad sy’n rhoi trosolwg o dueddiadau allweddol Bwyd a Chi 2: Cylch 1 (gwaith maes: 29 Gorffennaf i 6 Hydref 2020) i Gylch 6 (gwaith maes: 12 Hydref 2022 i 10 Ionawr 2023) ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023.
Mae cyhoeddiadau blaenorol yn y gyfres hon yn cynnwys:
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 1 (Mawrth 2021)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 2 (Gorffennaf 2021)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 3 (Ionawr 2022)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 4 (Awst 2022)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 5 (Mawrth 2023)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 6 (Gorffennaf 2023)
- Bwyd a Chi 2: Tueddiadau 2020-2023 (Rhagfyr 2023)
Methodoleg
Comisiynir arolwg Bwyd a Chi 2 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Cynhelir y gwaith maes gan Ipsos. Cynhelir arolwg Bwyd a Chi 2 ddwywaith y flwyddyn. Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer Cylch 6 rhwng 23 Ebrill 2023 a 10 Gorffennaf 2023.
Arolwg dilyniannol modd-cymysg sy’n annog pobl i’w lenwi ar-lein yw arolwg Bwyd a Chi 2 (crynodeb o’r dull isod). Mae gwthio i’r we (push-to-web) yn helpu i leihau’r gogwydd ymateb sydd fel arall yn digwydd gydag arolygon a gynhelir ar-lein yn unig. Derbynnir y dull hwn ar gyfer arolygon y llywodraeth ac ystadegau cenedlaethol, gan gynnwys Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Bywyd Cymunedol 2019/2020.
Cafodd y sampl o brif gyfeiriadau a chyfeiriadau wrth gefn (footnote 1) eu gwahanu’n haenau fesul rhanbarth (gyda Chymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu trin fel rhanbarthau ar wahân), ac o fewn rhanbarth (neu wlad) cawsant eu gwahanu’n haenau fesul awdurdod lleol (ardal ddosbarth yng Ngogledd Iwerddon) i sicrhau bod y sampl a ddefnyddiwyd wedi’i lledaenu’n gymesur ar draws yr awdurdodau lleol. Defnyddiwyd sgoriau amddifadedd cenedlaethol fel yr haen olaf o fewn yr awdurdodau lleol – y Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD) yn Lloegr, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yng Nghymru, a Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon (NIMDM) yng Ngogledd Iwerddon.
Oherwydd hyd a chymhlethdod yr holiadur ar-lein, nid oedd yn bosib cynnwys pob cwestiwn yn y fersiwn bost. Roedd angen i fersiwn bost yr holiadur fod yn fyrrach ac yn llai cymhleth er mwyn annog cyfradd ymateb uchel. Er mwyn i’r holiadur post fod yn fyrrach ac yn llai cymhleth, crëwyd dwy fersiwn ohono. Cyfeirir at y ddwy fersiwn o’r arolwg post fel yr holiaduron post ‘Bwyta Allan’ a ‘Bwyta Gartref’. Gweler yr Adroddiad Technegol am fanylion pellach.
Mae’r holl ddata a gesglir trwy arolwg Bwyd a Chi 2 yn hunangofnodedig. Mae’r data’n dangos agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad yr ymatebwyr eu hunain o ran diogelwch bwyd a materion bwyd. Gan mai arolwg ymchwil gymdeithasol yw Bwyd a Chi 2, ni all adrodd am ymddygiadau yr arsylwyd arnyn nhw. Ceir adroddiad am ymddygiadau yr arsylwyd arnyn nhw mewn ceginau yn Kitchen Life 2, astudiaeth ethnograffig a ddefnyddiodd gyfuniad o arsylwadau, arsylwadau fideo a chyfweliadau i gael cipolwg ar arferion mewn ceginau domestig.
Maint sampl targed gofynnol ar gyfer Arolwg Bwyd a Chi yw 4,000 o gartrefi (2,000 yn Lloegr, 1,000 yng Nghymru, 1,000 yng Ngogledd Iwerddon), gyda hyd at ddau oedolyn ym mhob cartref yn cael eu gwahodd i gymryd rhan. Ar gyfer Cylch 7, cwblhawyd yr arolwg gan gyfanswm o 5,812 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) o 4,006 o gartrefi ledled Cymru (1,318 o oedolion), Gogledd Iwerddon (1,526 o oedolion) a Lloegr (2,968 o oedolion). Cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol o 27.6% (Cymru 28.2%, Gogledd Iwerddon 24.6% a Lloegr 29.1%). Cwblhaodd 62.2% o’r ymatebwyr yr arolwg ar-lein a 37.8% trwy’r post. Tynnwyd ymatebion post 26 o’r ymatebwyr o’r set ddata am eu bod wedi llenwi’r arolwg ar-lein a thrwy’r post. Ceir rhagor o fanylion am y cyfraddau ymateb yn yr Adroddiad Technegol.
Defnyddiwyd pwysoliad i sicrhau bod y data mor agos â phosib at fod yn gynrychioliadol o is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill yn y boblogaeth, yn ôl yr arfer gydag arolygon y llywodraeth. Mae’r pwysoliad a ddefnyddir gyda data Bwyd a Chi 2 yn helpu i wneud iawn am amrywiadau yn y dewisiadau a wneir gan unigolion yn yr un cartref, am y gogwydd ymateb, ac am y ffaith mai dim ond yn un o’r arolygon post y gofynnwyd rhai cwestiynau. Ceir rhagor o fanylion am y dull pwysoli, ynghyd â’r pwysoliadau a ddefnyddir gyda data Bwyd a Chi 2: Cylch 7 yn yr Adroddiad Technegol.
Cafodd y data ei gadarnhau a’i wirio gan bedwar aelod o dîm ymchwil Ipsos a dau aelod o Gangen Ystadegau’r ASB. Ceir rhagor o fanylion am y dulliau a ddefnyddiwyd i wirio’r data yn yr Adroddiad Technegol. Cyflawnwyd y dadansoddiad disgrifiadol a’r profion ystadegol gan gangen Ystadegau’r ASB. Defnyddiodd cangen Ystadegau’r ASB feddalwedd ystadegol R i gyfrifo’r dadansoddiad disgrifiadol a’r profion ystadegol (profion t).
Mae’r gwerthoedd p sy’n profi arwyddocâd ystadegol yn seiliedig ar brofion t sy’n cymharu’r cyfrannau wedi’u pwysoli ar gyfer ymateb penodol o fewn is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill. Gwnaed addasiad ar gyfer maint gwirioneddol y sampl ar ôl pwysoli, ond ni wneir cywiriad ar gyfer cymariaethau lluosog.
Fel arfer, pan adroddir am wahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, ceir o leiaf 10 pwynt canrannol o wahaniaeth rhwng y grwpiau ac mae nhw’n ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05). Fodd bynnag, cafodd rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau o’r ymatebwyr eu cynnwys lle’r oedd y gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny os oedd y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Mae cyfrifiadau canrannol yn seiliedig ar yr ymatebwyr hynny a roddodd ymateb yn unig. Mae’r gwerthoedd a’r cyfrifiadau a adroddir yn seiliedig ar gyfansymiau wedi’u pwysoli.
Termau technegol a diffiniadau
Nodir arwyddocâd ystadegol ar y lefel 5% (p<0.05). Felly, pan fydd yr adroddiad yn nodi gwahaniaeth sylweddol, gellir bod yn eithaf hyderus bod y gwahaniaeth a adroddwyd yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel y boblogaeth.
Mae diogeledd bwyd yn golygu bod pawb yn gallu cael mynediad at ddigon o fwyd bob amser i fyw bywyd iach ac egnïol (Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996). Mae Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) wedi creu cyfres o gwestiynau sy’n nodi lefel diogeledd bwyd ymatebwyr. Mae Bwyd a Chi 2 yn ymgorffori 10 eitem Modiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion yr Unol Daleithiau ac yn defnyddio cyfnod cyfeirio o 12 mis. Cyfeirir at ymatebwyr fel rhai sydd â diogeledd bwyd os cânt eu hystyried yn unigolion sydd â diogeledd bwyd uchel (dim arwyddion bod ganddynt broblemau neu gyfyngiadau o ran cael mynediad at fwyd) neu sydd â diogeledd bwyd ymylol (un neu ddau o arwyddion o broblemau – fel arfer pryder ynghylch digonolrwydd bwyd neu brinder bwyd yn y tŷ. Ychydig neu ddim arwydd o newidiadau mewn deiet neu gymeriant bwyd). Cyfeirir at ymatebwyr fel rhai nad oes ganddynt ddiogeledd bwyd os cânt eu hystyried yn unigolion sydd â diogeledd bwyd isel (adroddiadau o ddirywiad o ran ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deiet. Ychydig neu ddim arwydd o ostyngiad mewn cymeriant bwyd) neu sydd â diogeledd bwyd isel iawn (adroddiadau o nifer o achosion o darfu ar batrymau bwyta a gostyngiad mewn cymeriant bwyd).
System ddosbarthu yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail statws cyflogaeth a galwedigaeth.
Mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar sail ardal ddaearyddol yw’r Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD) / Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) / Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon (NIMDM). Neilltuir dosbarthiad IMD/MALlC/NIMDM yn ôl cod post neu enw lle. Mae’n gyfrifiad amlddimensiwn y bwriedir iddo gynrychioli’r amodau byw yn yr ardal, gan gynnwys incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, diogelwch cymunedol a’r amgylchedd ffisegol. Caiff ardaloedd bach eu sgorio gan IMD/MALlC/NIMDM; gwneir hyn ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Cyfeiriadau
- Advisory Committee for Social Science (ACSS)
- Census 2011. Office of National Statistics
- Duffy, B., Smith, K., Terhanian, G., a Bremer, J. (2005). Comparing data from online and face-to-face surveys. International Journal of Market Research, 47(6), 615-639. https://doi.org/10.1177/147078530504700602
- Bwyd a Chi (2010-2019)
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Cyflwyno Bwyd a Chi 2. (Mawrth, 2020).
- Gaskell, G. (2019). Adolygiad o Arolwg Bwyd a Chi yr ASB. Cyfarfod ACSS 2 Ebrill 2019 – Adroddiad Adolygu Bwyd a Chi (Papur 3.5).
- Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA). Food security.
- Wills, W., Meah, A., Dickinson, A., a Short, F. (2013). Domestic kitchen practices: Findings from the ‘Kitchen Life’ study. Adroddiad gan Brifysgol Swydd Hertford ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
- World Food Summit 1996, Rome Declaration on World Food Security.