Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 6 Key Findings

Bwyd a Chi 2 Cylch 6: Pennod 6 Bwyta gartref

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth ac ymddygiadau’r ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023

Cyflwyniad

Mae’r ASB yn gyfrifol am ddiogelu’r cyhoedd rhag clefydau a gludir gan fwyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr, cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd, a’r sectorau manwerthu a lletygarwch, i sicrhau bod y bwyd y mae pobl yn ei brynu yn ddiogel. Mae’r ASB yn rhoi canllawiau ymarferol ac argymhellion i ddefnyddwyr ar ddiogelwch a hylendid bwyd yn y cartref.

Gan fod pobl yn gyfrifol am baratoi a storio bwyd yn ddiogel yn eu cartref, mae arolwg Bwyd a Chi 2 yn gofyn i’r ymatebwyr am eu hymddygiadau mewn perthynas â bwyd yn y cartref, gan gynnwys a ydynt yn bwyta bwydydd penodol, ac am eu gwybodaeth a’u hymddygiadau mewn perthynas â phum agwedd bwysig ar ddiogelwch bwyd, sef: glanhau, coginio, oeri, atal croeshalogi a dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. Mae Bwyd a Chi 2 hefyd yn gofyn i ymatebwyr pa mor aml y maent yn paratoi neu’n bwyta rhai mathau o fwyd.

Mae yna ddwy fersiwn o’r modiwl ‘Bwyta gartref’; y modiwl cryno sy’n cynnwys nifer cyfyngedig o’r prif gwestiynau sy’n cael eu trafod yn flynyddol, a’r fersiwn lawn sy’n cynnwys cwestiynau ychwanegol ac sy’n cael ei hanfon bob 2 flynedd. Adroddir ar y modiwl ‘Bwyta gartref’ cryno yn y bennod hon. (footnote 1)

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o wybodaeth ac ymddygiadau’r ymatebwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd ac ymddygiadau eraill sy’n ymwneud â bwyd. 

Glanhau

Golchi dwylo yn y cartref

Mae’r ASB yn argymell y dylai pawb olchi eu dwylo cyn paratoi, coginio neu fwyta bwyd, ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd, a chyn trin bwyd parod i’w fwyta. 

Dywedodd bron i hanner (46%) yr ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn bwyta, dywedodd 51% o ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dywedodd 3% nad ydynt byth yn golchi eu dwylo cyn bwyta. (footnote 2)

Dywedodd tua 7 o bob 10 o’r ymatebwyr (72%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo cyn paratoi neu fwyta bwyd, a nododd 27% o’r ymatebwyr nad ydyn nhw bob amser (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml) yn gwneud hyn. (footnote 3)

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (91%) eu bod bob amser yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl trin cig, dofednod neu bysgod amrwd, a dywedodd 8% o’r ymatebwyr nad ydyn nhw bob amser (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml) yn gwneud hyn. (footnote 4)

Golchi dwylo wrth fwyta allan

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roeddent yn golchi eu dwylo neu’n defnyddio hylif diheintio dwylo (sanitising gel) neu weips cyn bwyta pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Dywedodd traean (33%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn golchi eu dwylo, yn defnyddio hylif diheintio dwylo neu weips pan oeddent yn bwyta y tu allan i’w cartref. Roedd 58% yn gwneud hyn y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, ac nid oedd 8% byth yn gwneud hyn. (footnote 5) 

Oeri

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar oeri bwyd yn gywir i helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu. 

Ydy’r ymatebwyr yn gwirio tymheredd yr oergell ac, os ydynt, sut?

Pan ofynnwyd iddynt beth yw’r tymheredd cywir y tu mewn i oergell, dywedodd 62% o’r ymatebwyr y dylai fod rhwng 0 a 5 gradd Celsius, fel yr argymhellir gan yr ASB. Dywedodd un rhan o bump (20%) o’r ymatebwyr y dylai’r tymheredd fod yn uwch na 5 gradd, dywedodd 2% y dylai’r tymheredd fod yn is na 0 gradd, ac nid oedd 15% o’r ymatebwyr yn gwybod beth oedd y tymheredd cywir ar gyfer y tu mewn i’w hoergell. (footnote 6)

Dywedodd tua 6 o bob deg (61%) o’r ymatebwyr ag oergell eu bod yn monitro’r tymheredd, naill ai â llaw (49%) neu drwy larwm tymheredd mewnol (11%). (footnote 7) O blith yr ymatebwyr sy’n monitro tymheredd eu hoergell, dywedodd 82% eu bod yn gwirio tymheredd eu hoergell o leiaf unwaith y mis, yn unol ag argymhelliad yr ASB. (footnote 8)

Coginio

Mae’r ASB yn argymell y bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir ac am yr amser cywir yn sicrhau bod unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Wrth goginio porc, dofednod, a chynhyrchion briwgig, mae’r ASB yn argymell y dylai’r cig fod yn stemio’n boeth ac wedi’i goginio’r holl ffordd drwodd, ac nad yw unrhyw ran o’r cig yn binc, a bod unrhyw suddion yn glir. 

Dywedodd tua thri chwarter (76%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn coginio bwyd nes ei fod yn stemio'n boeth ac wedi'i goginio’r holl ffordd drwodd, ond dywedodd 23% nad ydyn nhw bob amser yn gwneud hyn. (footnote 9)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor aml y maent yn bwyta cyw iâr neu dwrci pan fo’r cig yn binc neu pan fo’r suddion yn binc. (footnote 10)  Dywedodd tua naw o bob 10 (89%) o’r ymatebwyr nad ydynt byth yn bwyta cyw iâr na thwrci pan fydd yn binc neu pan fydd y suddion yn binc. Fodd bynnag, nododd 9% o’r ymatebwyr eu bod yn bwyta cyw iâr neu dwrci o leiaf yn achlysurol pan fydd yn binc neu pan fydd y suddion yn binc. (footnote 11)

Roedd bwyta cyw iâr neu dwrci pan fo’r cig yn binc neu pan fo’r sudd yn binc (hynny yw, yn achlysurol o leiaf) yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • grŵp oedran: roedd ymatebwyr rhwng 16 a 24 oed (19%) yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi bwyta cyw iâr neu dwrci pan fo’r cig yn binc neu pan fo’r sudd yn binc o’u cymharu â’r rhai 35 oed neu hŷn (er enghraifft, 5% o rheiny rhwng 55 a 64 oed).
  • maint y cartref: roedd ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi â 5 neu fwy o bobl (20%) yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi bwyta cyw iâr neu dwrci pan fo’r cig yn binc neu pan fo’r sudd yn binc o’u cymharu â’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi llai (er enghraifft, 5% o’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi â 4 person).
  • NS-SEC: (footnote 12) roedd myfyrwyr amser llawn (23%) ac ymatebwyr a oedd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oeddent erioed wedi gweithio (22%) yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi bwyta cyw iâr neu dwrci pan oedd y cig yn binc neu pan oedd y sudd yn binc o’u gymharu â’r rheiny mewn grwpiau galwedigaethol eraill (er enghraifft, 5% o’r rheiny mewn galwedigaethau gwaith ailadroddus canolradd).
  • diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogelwch bwyd ymylol (14%)**, isel (15%) ac isel iawn (16%) yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi bwyta cyw iâr neu dwrci pan fo’r cig yn binc neu pan fo’r sudd yn binc o’u cymharu â’r rheiny â diogelwch bwyd uchel (5%). 
  • grŵp ethnig: roedd ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (25%) yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi bwyta cyw iâr neu dwrci pan fo’r cig yn binc neu pan fo’r sudd yn binc o’u cymharu ag ymatebwyr gwyn (7%). (footnote 13)

Ailgynhesu

Ffigur 27. Sut mae’r ymatebwyr yn gwirio a yw bwyd sydd wedi’i ailgynhesu yn barod i’w fwyta

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Y dull a ddefnyddir Canran yr ymatebwyr (%)
Defnyddio thermomedr / prôb 14
Rhoi fy llaw drosto / yn ei gyffwrdd 14
Ei flasu 26
Gwirio bod y tymheredd yn gyson drwyddo 30
Defnyddio amserydd 34
Ei droi 35
Gweld stêm yn dod ohono 36
Gweld ei fod yn byrlymu 39
Dilyn y cyfarwyddiadau ar y label 47
Gwirio bod y canol yn boeth 57

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi sut maent yn gwirio bod bwyd yn barod i’w fwyta pan fyddant yn ei ailgynhesu. Y dull mwyaf cyffredin oedd gwirio bod y canol yn boeth (57%), a’r dulliau lleiaf cyffredin oedd rhoi llaw dros y bwyd neu gyffwrdd ag ef (14%), neu ddefnyddio thermomedr neu brôb (14%) (Ffigur 27). (footnote 14)

Mae’r ASB yn argymell ailgynhesu bwyd unwaith yn unig. Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr sawl gwaith y byddent yn ailgynhesu bwyd, dywedodd y mwyafrif y byddent yn ailgynhesu bwyd unwaith yn unig (82%). Byddai 9% yn ailgynhesu bwyd ddwywaith, a byddai 4% yn ailgynhesu bwyd fwy na dwywaith. (footnote 15)

Bwyd dros ben

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am ba mor hir y byddent yn cadw bwyd dros ben yn yr oergell. Dywedodd tua 6 o bob deg (62%) o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn deuddydd, dywedodd 28% o’r ymatebwyr y byddent yn bwyta bwyd dros ben o fewn tridiau i 5 diwrnod, a dywedodd 3% y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl 5 diwrnod neu fwy. (footnote 16)

Roedd bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy yn amrywio rhwng gwahanol fathau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • incwm blynyddol y cartref: roedd ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o adrodd y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy o’u cymharu â’r rheiny ag incwm is. Er enghraifft, byddai 47% o’r ymatebwyr ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 yn bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy o’u cymharu â 22% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000.
  • NS-SEC: roedd ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (37%) a myfyrwyr amser llawn (34%) yn fwy tebygol o adrodd y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy o’u cymharu â’r rheiny mewn llawer o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 22% o’r rheiny mewn galwedigaethau gwaith ailadroddus a lled-ailadroddus) a’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a / neu oedd erioed wedi gweithio (15%).
  • gwlad: roedd ymatebwyr yn Lloegr (32%) yn fwy tebygol o adrodd y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy o’u cymharu â’r rheiny yng Ngogledd Iwerddon (22%). Dywedodd chwarter (25%) o’r ymatebwyr yng Nghymru y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy.
  • rhanbarthau (Lloegr): roedd ymatebwyr yn Llundain (40%), Dwyrain Lloegr (35%), a De-ddwyrain Lloegr (35%) yn fwy tebygol o adrodd y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy o’u cymharu â’r rheiny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (23%) a Gogledd-orllewin Lloegr (25%).
  • diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (35%) yn fwy tebygol o adrodd y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy o’u cymharu â’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn (20%). Dywedodd tua chwarter y rheiny â diogeledd bwyd ymylol (26%) ac isel (28%) y byddent yn bwyta bwyd dros ben ar ôl tridiau neu fwy.

Atal croeshalogi

Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar atal croeshalogi. Mae’r ASB yn argymell na ddylai pobl olchi cig amrwd. Wrth olchi cig amrwd, gellir lledaenu bacteria niweidiol ar eich dwylo, eich dillad, eich offer a’ch arwynebau gwaith.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pa mor aml, os o gwbl, roeddent yn golchi cyw iâr amrwd. Dywedodd dros hanner (56%) yr ymatebwyr nad ydynt byth yn golchi cyw iâr amrwd; fodd bynnag, dywedodd 40% o’r ymatebwyr eu bod yn gwneud hyn yn achlysurol o leiaf. (footnote 17)  

Sut a ble mae’r ymatebwyr yn storio cig a dofednod amrwd yn yr oergell

Mae’r ASB yn argymell y dylid gorchuddio cig a dofednod amrwd yn yr oergell, eu cadw ar wahân i fwydydd parod i’w bwyta, a’u storio ar waelod yr oergell i atal croeshalogi.   

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi, o blith ymatebion amrywiol, sut maent yn storio cig a dofednod yn yr oergell. Roedd yr ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yn eu deunydd pecynnu gwreiddiol (70%) neu ar wahân i fwydydd wedi’u coginio (53%). Dywedodd 4 o bob deg o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd mewn cynhwysydd wedi’i selio (41%) a’u bod yn gorchuddio cig a dofednod amrwd â ffilm/ffoil (36%), gydag 15% o’r ymatebwyr yn cadw’r cynnyrch ar blât. (footnote 18)

Dywedodd y rhan fwyaf (64%) o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ar waelod yr oergell, fel y mae’r ASB yn ei argymell. Fodd bynnag, dywedodd 21% o’r ymatebwyr eu bod yn storio cig a dofednod amrwd ble bynnag y mae lle yn yr oergell, dywedodd 11% eu bod yn storio cig a dofednod amrwd yng nghanol yr oergell, a dywedodd 6% eu bod yn eu storio yn rhan uchaf yr oergell. (footnote 19)

Dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’

Gofynnwyd i’r ymatebwyr am yr hyn maent yn ei ddeall am wahanol fathau o labeli dyddiadau a chyfarwyddiadau ar ddeunydd pecynnu bwyd, oherwydd os caiff bwyd ei storio yn rhy hir neu ar y tymheredd anghywir, gall achosi gwenwyn bwyd. Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch bwyd. Mae dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd bwyd. 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa ddyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Nododd oddeutu dwy ran o dair (65%) o’r ymatebwyr yn gywir mai’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yw’r wybodaeth sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. Fodd bynnag, dywedodd rhai o’r ymatebwyr (9%) mai’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yw’r dyddiad sy’n dangos nad yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta mwyach. (footnote 20)

Dywedodd tua dwy ran o dair (64%) o’r ymatebwyr eu bod bob amser yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ cyn coginio neu baratoi bwyd. Yn ogystal, nododd 34% o’r ymatebwyr eu bod yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ y rhan fwyaf o’r amser neu’n llai aml, a dim ond 1% o’r ymatebwyr a ddywedodd nad oeddent byth yn gwirio’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’. (footnote 21)

Ffigur 28. Pa mor hir ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ y byddai ymatebwyr yn bwyta gwahanol fwydydd

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Math o fwyd Unrhyw adeg ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ 7+ diwrnod 3-6 diwrnod 1-2 ddiwrnod Byth
Pysgod cregyn 29 1 2 26 69
Unrhyw bysgod eraill 38 1 5 33 60
Cig amrwd fel cig eidion, cig oen, porc neu ddofednod 48 0 9 39 50
Pysgod mwg 51 3 14 35 46
Llaeth 61 1 19 41 36
Cigoedd wedi’u coginio 62 1 20 41 36
Iogwrt 65 6 24 35 33
Caws 72 20 30 23 23
Salad mewn bagiau 72 2 23 46 25

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sy’n bwyta bwydydd penodol pryd, os o gwbl, yw’r dyddiad hwyraf y byddent yn bwyta’r math o fwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Dywedodd y rhan fwyaf na fyddent yn bwyta pysgod cregyn (69%), na physgod eraill (60%), ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Ni fyddai tua hanner yr ymatebwyr yn bwyta cig amrwd (50%) na physgod mwg (46%) ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Salad mewn bagiau (72%) a chaws (72%) oedd y bwydydd yr oedd ymatebwyr yn fwyaf tebygol o ddweud y byddent yn eu bwyta ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai tua 6 o bob deg o’r ymatebwyr yn bwyta iogwrt (65%), llaeth (61%) a chigoedd wedi’u coginio (62%) ar unrhyw adeg ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’. Byddai un rhan o bump (20%) o’r ymatebwyr yn bwyta caws wythnos neu fwy ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (Ffigur 28). (footnote 22)