Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 6 Key Findings

Bwyd a Chi 2 Cylch 6: Pennod 1 Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 July 2023

Cyflwyniad

Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd. 

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd 

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (er enghraifft, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus). Dywedodd 93% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maent ei brynu yn ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 87% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir (footnote 1)

Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • grŵp oedran: roedd ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta nag oedolion iau (er enghraifft, 88% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed o gymharu â 97% o’r rheiny rhwng 65 a 79 oed)**. 
  • diogeledd bwyd: roedd ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r rhai a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 97% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 85% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn). 
  • grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (95%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta nag ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (82%) (footnote 2).
  • cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (93%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (83%).

Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is, (er enghraifft, 92% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 o gymharu ag 80% o’r rheiny ag incwm o lai na £19,000). 
  • NS-SEC (footnote 3): roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (90%), galwedigaethau canolradd (89%), a galwedigaethau ailadroddus a lled-ailadroddus (88%) yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (78%). 
  • diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yng nghywirdeb labeli bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 90% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 78% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn). 

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd 

Dywedodd tua thri chwarter o’r ymatebwyr (76%) fod ganddynt hyder (hynny yw, hyderus iawn neu’n weddol hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd (footnote 4).
 
Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • grŵp oedran: roedd ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu ag oedolion iau (er enghraifft, 81% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed o gymharu â 67% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed). Yn ogystal, dywedodd 10% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed nad ydyn nhw’n gwybod pa mor hyderus ydynt yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
  • NS-SEC: roedd ymatebwyr mewn swyddi galwedigaethol (er enghraifft, 85% o'r rheiny mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is) ac ymatebwyr a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (74%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd, o gymharu â myfyrwyr amser llawn (61%). Yn ogystal, roedd 13% o’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir neu erioed wedi gweithio yn dweud nad ydynt yn gwybod pa mor hyderus ydynt yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
  • rhanbarth (Lloegr) (footnote 5): roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio fesul rhanbarth. Er enghraifft, roedd 85% o’r ymatebwyr yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr ac 81% o’r rheiny yn Nwyrain Canolbarth Lloegr yn hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â 70% o’r rheiny yn Llundain a 70% yn Ne-ddwyrain Lloegr.
  • diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 80% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 69% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).

Ffigur 1. Hyder bod y rheiny sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Y rheiny sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd Canran yr ymatebwyr (%)
Gwasanaethau dosbarthu bwyd 45
Siopau tecawê 62
Lladd-dai a chynhyrchwyr llaeth 78
Bwytai 82
Gweithgynhyrchwyr bwyd 82
Siopau ac arfarchnadoedd 85
Ffermwyr 88

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi pa mor hyderus oeddent fod y rheiny sydd â rhan allweddol yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn sicrhau bod y bwyd maent yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta. Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt hyder (hynny yw, yn hyderus iawn neu’n weddol hyderus) mewn ffermwyr (88%) a siopau ac archfarchnadoedd (85%) nag mewn siopau tecawê (62%) a gwasanaethau dosbarthu bwyd, er enghraifft Just Eat, Deliveroo, Uber Eats (45%) (Ffigur 1) (footnote 6). Yn ogystal, dywedodd 20% o’r ymatebwyr nad ydyn nhw’n gwybod pa mor hyderus ydyn nhw bod gwasanaethau dosbarthu bwyd yn sicrhau bod y bwyd maen nhw’n yn ei brynu yn ddiogel i’w fwyta. 

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

Roedd y rhan fwyaf (90%) o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB (footnote 7)

Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • grŵp oedran: roedd ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB nag ymatebwyr iau (er enghraifft, roedd 97% o’r rheiny rhwng 65 a 79 oed wedi clywed am yr ASB, o gymharu â 68% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed). 
  • incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm dros £32,000 (er enghraifft, 97% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â’r rheiny ag incwm llai nag £19,000 (84%). 
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 95% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na myfyrwyr amser llawn (64%).
  • grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (93%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (74%) (footnote 8)
  • cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (91%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydynt yn coginio (71%).
  • cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr sydd yn gyfrifol am siopa am fwyd (91%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa am fwyd (71%). 

Ffigur 2. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

Mae manylion y graff i'w cael yn y testun.
Gwybodaeth am yr ASB Canran yr ymatebwyr (%)
Dydw i erioed wedi clywed am yr ASB 7
Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ASB nes i mi gael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg hwn 6
Rwyf wedi clywed am yr ASB ond dydw i ddim yn gwybod dim amdani 31
Rwy’n gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith 49
Rwy’n gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith 7

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 6

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 7% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 49% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd bron i draean (31%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oeddent yn gwybod unrhyw beth amdani, dywedodd 6% nad oeddent wedi clywed am yr ASB cyn iddynt gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2, a dywedodd 7% nad oeddent erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 2) (footnote 9).  

Roedd gwybodaeth am yr ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 25 a 79 oed (er enghraifft, 68% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB, o gymharu â’r ymatebwyr iau (38% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed) neu’r ymatebwyr hynaf (41% o’r rheiny 80 oed a hŷn). 
  • incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is, (er enghraifft, 63% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 o gymharu â  52% o’r rheiny ag incwm o lai na £19,000). 
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (63%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny mewn rhai galwedigaethau canolradd (er enghraifft, 50% o’r rheiny mewn galwedigaethau gwaith ailadroddus a lled-ailadroddus.  Y rheiny a oedd yn ddi-waith am gyfnod hir a/neu nad oeddent erioed wedi gweithio (33%) neu fyfyrwyr amser llawn (31%) oedd lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB.
  • gwlad: roedd ymatebwyr yng Nghymru (65%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny yn Lloegr (56%) neu Ogledd Iwerddon (56%). (footnote 10)**
  • cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (57%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r rheiny nad ydynt yn coginio (40%). 
  • cyfrifoldeb dros siopa: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa (58%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny nad ydynt byth yn siopa (38%). 

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd ag o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB i ba raddau yr oeddent yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, hynny yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.  Dywedodd y rhan fwyaf (78%) o’r ymatebwyr eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, nid oedd 19% o’r ymatebwyr yn ymddiried ynddi y naill ffordd neu’r llall i wneud y gwaith, a dywedodd 1% o’r ymatebwyr nad oeddent yn ymddiried yn yr ASB i wneud y gwaith (footnote 11).  
  
Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu asiantaeth y llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd rhag bwyd) (82%). Roedd tua 8 o bob 10 o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol os nodir risg sy’n gysylltiedig â bwyd (82%), ac roeddent yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (79%) (footnote 12).