Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Bwyd a Chi 2 – CSHB Cylch 8: Cyflwyniad

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 December 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Bwriad arolwg Bwyd a Chi 2 yw monitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cyflwyniad i’r CSHB

Cafodd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (footnote 1) (CSHB), sydd ar waith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ei lansio yn 2010 ac mae’n helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd, a hynny drwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau fel yr oeddent adeg arolygiad hylendid bwyd gan yr awdurdod lleol. Bydd sgoriau’n cael eu rhoi i safleoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi neu ei werthu’n uniongyrchol i bobl, fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys busnesau sy’n masnachu â busnesau eraill yn unig, fel gweithgynhyrchwyr.

Mae’r ASB yn gweithredu’r cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd, gan sicrhau bod y bwyd ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod y safonau hylendid yn dda iawn ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys.

Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith (footnote 2) ond yn Lloegr, caiff y busnesau eu hannog i arddangos eu sgoriau. Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan sgoriau’r ASB a thrwy apiau trydydd parti.

Bwyd a Chi 2: Cylch 8

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8 o ran y CSHB, gan gynnwys ymwybyddiaeth, adnabyddiaeth a defnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun, dealltwriaeth o’r Cynllun a’i effaith ar ymddygiadau, ac agweddau tuag at y Cynllun.

Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch 8 rhwng 12 Hydref 2023 a 8 Ionawr 2024. Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan oddeutu 6,000 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) o tua 4,000 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A i gael mwy o wybodaeth am y fethodoleg). Yng Nghylch 8, cwblhaodd cyfanswm o 4,966 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ drwy’r holiadur ar-lein neu drwy’r holiadur post ‘Bwyta allan’. Yn dibynnu ar eu gwybodaeth, eu hagweddau a’u hymddygiadau, nid yw pob ymatebydd yn ateb pob modiwl neu gwestiwn yn yr arolwg.

Nid yw cwestiynau a ofynnwyd ym modiwlau eraill yn arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 8 (er enghraifft, ‘Bwyta gartref’) wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yn y tablau data cysylltiedig a’r set ddata sylfaenol.

Dehongli’r canfyddiadau

Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r gwahaniaethau rhwng rhai is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill yn y boblogaeth (er enghraifft, fesul gwlad). I dynnu sylw at y gwahaniaethau allweddol, dim ond pan fo’r gwahaniaeth absoliwt yn 10 pwynt canrannol neu fwy ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny pan dybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn.

Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r data hwn ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau data.

Darperir gwybodaeth allweddol ar gyfer pob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:  

  • Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymatebion).
  • Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd y cwestiwn iddyn nhw, a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = x).
  • Mae ‘Sylwer:’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i’w hystyried wrth ddehongli’r canlyniadau.