Bwyd a Chi 2 CSHB Cylch 6: Cyflwyniad
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth sy’n gweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ei rôl, ei chylch gwaith, a’i chyfrifoldebau
Gweledigaeth yr ASB, fel y’i nodir yn strategaeth 2022-2027, yw system fwyd sy’n gwireddu’r gosodiadau canlynol:
- Mae bwyd yn ddiogel
- Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
- Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
Bwriad arolwg Bwyd a Chi 2 yw monitro cynnydd yr ASB yn erbyn y weledigaeth hon a llywio penderfyniadau polisi trwy fesur yn rheolaidd yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill a gofnodir gan ddefnyddwyr eu hunain yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Cyflwyniad i’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Cafodd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) (footnote 1), sydd ar waith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ei lansio yn 2010 ac mae’n helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd, a hynny drwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau fel yr oeddent adeg arolygiad hylendid bwyd gan yr awdurdod lleol. Bydd sgoriau’n cael eu rhoi i safleoedd lle caiff bwyd ei gyflenwi neu ei werthu’n uniongyrchol i bobl, fel bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cynnwys busnesau sy’n masnachu â busnesau eraill yn unig, fel gweithgynhyrchwyr.
Mae’r ASB yn gweithredu’r cynllun mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y gyfraith hylendid bwyd, gan sicrhau bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta. Rhoddir sgôr i fusnesau, rhwng 0 a 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod y safonau hylendid yn dda iawn ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys.
Mae busnesau bwyd yn cael sticer sy’n dangos eu sgôr. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n rhaid i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr yn ôl y gyfraith ond, yn Lloegr, caiff busnesau eu hannog i arddangos eu sgôr (footnote 2). Mae’r sgoriau hefyd ar gael ar wefan sgoriau’r ASB a thrwy apiau trydydd parti.
Bwyd a Chi 2: Cylch 6
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 6 o ran y CSHB, gan gynnwys ymwybyddiaeth, adnabyddiaeth a defnydd yr ymatebwyr o’r Cynllun, dealltwriaeth o’r Cynllun a’i effaith ar ymddygiadau, ac agweddau tuag at y Cynllun.
Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch 6 rhwng 12 Hydref 2022 a 10 Ionawr 2023. Cafodd yr arolwg ei gwblhau gan oddeutu 6,000 o oedolion (16 oed neu’n hŷn) o tua 4,000 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A i gael mwy o wybodaeth am y fethodoleg). Yng Ngham 6, cwblhaodd 4,918 o oedolion ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y fersiwn ar-lein neu’r fersiwn bost, a oedd yn cynnwys y modiwl ‘Bwyta allan a bwyd tecawê’ a gyflwynir yn yr adroddiad hwn. Yn dibynnu ar eu gwybodaeth, eu hagweddau a’u hymddygiadau, nid yw pob ymatebydd yn ateb pob modiwl neu gwestiwn yn yr arolwg.
Nid yw’r cwestiynau a ofynnwyd ym modiwlau eraill arolwg Bwyd a Chi 2: Cylch 6 (er enghraifft ‘Bwyta gartref’) wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yn y tablau data cysylltiedig a’r set ddata sylfaenol.
Dehongli’r canfyddiadau
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r gwahaniaethau rhwng rhai is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill yn y boblogaeth (er enghraifft, fesul gwlad). I dynnu sylw at y gwahaniaethau allweddol, dim ond pan fo’r gwahaniaeth absoliwt yn 10 pwynt canrannol neu fwy ac yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05) y byddwn fel arfer yn tynnu sylw at wahaniaethau yn y proffiliau ymateb. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill wedi’u cynnwys pan fo’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canrannol, a hynny pan dybir bod y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Rhoddir seren ddwbl (**) i nodi’r gwahaniaethau hyn.
Mewn rhai achosion, nid oedd yn bosib cynnwys data pob is-grŵp, ond mae’r data hwn ar gael yn y set ddata lawn a’r tablau data.
- Darperir gwybodaeth allweddol ar gyfer pob cwestiwn yr adroddir amdano yn y troednodiadau, gan gynnwys:
- Geiriad y cwestiwn (cwestiwn) a’r opsiynau ymateb (ymatebion).
- Nifer yr ymatebwyr y cyflwynwyd pob cwestiwn iddyn nhw a disgrifiad o’r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn (sylfaen = ).
- Mae ‘Sylwer:’ yn tynnu sylw at bwyntiau pwysig i’w hystyried wrth ddehongli’r canlyniadau.