Atodiad A: Bwyd a Chi 2: Cylch 5
Gellir cymharu’r data mewn gwahanol gylchoedd o arolwg Bwyd a Chi 2.
Cefndir
Yn 2018, sefydlodd Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol yr ASB Weithgor Bwyd a Chi newydd i adolygu methodoleg, cwmpas a ffocws yr arolwg Bwyd a Chi. Ym mis Ebrill 2019, darparodd y Gweithgor Bwyd a Chi gyfres o argymhellion i’r ASB a’r Pwyllgor ynghylch trywydd yr arolwg Bwyd a Chi yn y dyfodol. Datblygwyd arolwg Bwyd a Chi 2 ar sail yr argymhellion hynny.
Mae arolwg Bwyd a Chi 2 wedi disodli’r arolwg Bwyd a Chi a gynhaliwyd bob dwy flynedd (2010-2018), Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd a gynhaliwyd ddwywaith y flwyddyn (2010-2019) ac Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gynhaliwyd yn flynyddol (2014-2019). Mae’r arolwg Bwyd a Chi wedi bod yn Ystadegyn Swyddogol ers 2014. Gan fod methodoleg Arolwg Tracio Agweddau’r Cyhoedd, Arolwg Tracio Agweddau Defnyddwyr y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ac arolwg Bwyd a Chi (2010-2018) yn wahanol, nid yw’n bosib cymharu’r data a gesglir trwy Arolwg Bwyd a Chi 2 (2020 ymlaen) â’r data cynharach hyn. Gellir cymharu data gwahanol gylchoedd o arolwg Bwyd a Chi 2.
Mae cyhoeddiadau blaenorol yn y gyfres hon yn cynnwys:
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 1 (Mawrth 2021)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 2 (Gorffennaf 2021)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 3 (Ionawr 2022)
- Bwyd a Chi 2: Prif Ganfyddiadau Cylch 4 (Awst 2022)
Methodoleg
Comisiynir arolwg Bwyd a Chi 2 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Cynhelir y gwaith maes gan Ipsos. Cynhelir arolwg Bwyd a Chi 2 ddwywaith y flwyddyn. Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer Cylch 5 rhwng6 26 Ebrill a 24 Gorffennaf 2022.
Arolwg dilyniannol modd-cymysg sy’n annog pobl i’w lenwi ar-lein yw arolwg Bwyd a Chi 2 (crynodeb o’r dull isod). Mae gwthio i’r we (push-to-web) yn helpu i leihau’r gogwydd ymateb sydd fel arall yn digwydd gydag arolygon a gynhelir ar-lein yn unig. Derbynnir y dull hwn ar gyfer arolygon y llywodraeth ac ystadegau cenedlaethol, gan gynnwys Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Bywyd Cymunedol 2019/2020.
Anfonwyd llythyr at sampl o gyfeiriadau (a ddewiswyd ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol) yn gwahodd hyd at ddau oedolyn (16 oed neu’n hŷn) yn y cartref i lenwi’r arolwg ar-lein. Anfonwyd llythyr atgoffa cyntaf at gartrefi nad oeddent wedi ymateb i’r gwahoddiad cychwynnol. Anfonwyd fersiwn bost o’r arolwg gyda’r ail lythyr atgoffa at y rheiny heb fynediad i’r rhyngrwyd neu’r rheiny yr oedd yn well ganddyn nhw lenwi fersiwn o’r arolwg trwy’r post. Anfonwyd trydydd nodyn atgoffa – a’r un terfynol – at y cartrefi hynny nad oedden nhw wedi cwblhau’r arolwg. Rhoddwyd taleb i’r ymatebwyr am lenwi’r arolwg.
Ar ôl pedair wythnos o waith maes, roedd nifer yr arolygon ar-lein a gwblhawyd yn is yng Nghylch 5 nag ar yr un pwynt yn y cylchoedd blaenorol, gan olygu bod y sampl yn debygol o ddisgyn o dan y targed o 4,000 o gartrefi. Er mwyn cynyddu’r sampl, anfonwyd y gwahoddiad drwy lythyr i 2,000 o gyfeiriadau a ddewiswyd ar hap o’r sampl wrth gefn. Mae mwy o fanylion ar gael yn yr Adroddiad Technegol.
Cafodd y sampl o brif gyfeiriadau a chyfeiriadau wrth gefn (footnote 1) ei gwahanu’n haenau fesul rhanbarth (gyda Chymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu trin fel rhanbarthau ar wahân), a chafodd y cyfeiriadau o fewn rhanbarth (neu wlad) eu gwahanu’n haenau fesul awdurdod lleol (ardal yng Ngogledd Iwerddon) i sicrhau bod y sampl a ddefnyddiwyd wedi’i dosbarthu’n gymesur ar draws yr awdurdodau lleol. Defnyddiwyd sgoriau amddifadedd cenedlaethol fel yr haen olaf o fewn yr awdurdodau lleol – Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yng Nghymru, y Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD) yn Lloegr, a Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon (NIMDM) yng Ngogledd Iwerddon.
Oherwydd hyd a chymhlethdod yr holiadur ar-lein, nid oedd yn bosib cynnwys pob cwestiwn yn y fersiwn bost. Roedd angen i fersiwn bost yr holiadur fod yn fyrrach ac yn llai cymhleth er mwyn annog cyfradd ymateb uchel. Er mwyn i’r holiadur post fod yn fyrrach ac yn llai cymhleth, crëwyd dwy fersiwn ohono. Cyfeirir at y ddwy fersiwn o’r arolwg post fel yr holiaduron post ‘Fersiwn A’ a ‘Fersiwn B’. Cafodd modiwlau allweddol eu cynnwys yn y ddau fersiwn o’r arolwg. Roedd ‘Fersiwn A’ yn cynnwys cwestiynau ychwanegol am lwyfannau ar-lein a gorsensitifrwydd i fwyd. Roedd ‘Fersiwn B’ yn cynnwys cwestiynau ychwanegol ar gyfer y modiwlau ‘Bwyta Gartref’ a ‘Bwyd y Gallwn Ymddiried ynddo’. Gweler yr Adroddiad Technegol am fanylion pellach.
Mae’r holl ddata a gesglir gan arolwg Bwyd a Chi 2 yn hunangofnodedig. Mae’r data’n dangos agweddau, gwybodaeth ac ymddygiad yr ymatebwyr eu hunain o ran diogelwch bwyd a materion bwyd. Gan mai arolwg ymchwil gymdeithasol yw Bwyd a Chi 2, ni all adrodd am ymddygiadau yr arsylwir arnyn nhw. Ceir adroddiad am ymddygiadau yr arsylwir arnyn nhw mewn ceginau yn Kitchen Life, astudiaeth ethnograffig a ddefnyddiodd gyfuniad o arsylwi, arsylwi fideo a chyfweliadau i gael cipolwg ar arferion mewn ceginau domestig. Bydd yr astudiaeth hon yn cael ei diweddaru trwy arolwg Kitchen Life 2 sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn 2023.
Maint sampl targed gofynnol yr arolwg yw 4,000 o gartrefi (2,000 yn Lloegr, 1,000 yng Nghymru, 1,000 yng Ngogledd Iwerddon), gyda hyd at ddau oedolyn ym mhob cartref yn cael eu gwahodd i gymryd rhan fel y sonnir uchod. Ar gyfer Cylch 5, cwblhawyd yr arolwg gan gyfanswm o 6,770 o oedolion o 4,727 o gartrefi ledled Cymru (1,471 o oedolion), Lloegr (3,424 o oedolion) a Gogledd Iwerddon (1,875 o oedolion). Cafwyd cyfradd ymateb gyffredinol o 25.4% (Cymru 29.1%, Lloegr 30.7%, Gogledd Iwerddon 27.2%). Cwblhaodd chwe deg y cant (59.7%) o’r ymatebwyr yr arolwg ar-lein a 40.3% trwy’r post. Tynnwyd ymatebion post 105 o’r ymatebwyr o’r set ddata am eu bod wedi llenwi’r arolwg ar-lein a thrwy’r post. Ceir rhagor o fanylion am y cyfraddau ymateb yn yr Adroddiad Technegol.
Defnyddiwyd pwysoliad i sicrhau bod y data mor agos â phosib at fod yn gynrychioliadol o is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill yn y boblogaeth, yn ôl yr arfer gydag arolygon y llywodraeth. Mae’r pwysoliad a ddefnyddir o ran data Bwyd a Chi 2 yn helpu i wneud iawn am amrywiadau yn y dewisiadau a wneir gan unigolion yn yr un cartref, am y gogwydd ymateb, ac am y ffaith mai dim ond yn un o’r arolygon post y gofynnwyd rhai cwestiynau. Ceir rhagor o fanylion am y dull pwysoli, ynghyd â’r pwysoliadau a ddefnyddir o ran data Bwyd a Chi 2: Cylch 5 yn yr Adroddiad Technegol.
Cafodd y data ei gadarnhau a’i wirio gan bedwar aelod o dîm ymchwil Ipsos a dau aelod o Gangen Ystadegau’r ASB. Mae rhagor o fanylion am wiriadau’r data ar gael yn yr Adroddiad Technegol. Cyflawnwyd y dadansoddiad disgrifiadol a’r profion ystadegol gan Ipsos. Defnyddiodd Ipsos feddalwedd ystadegol o’r enw Quantum i gyfrifo’r dadansoddiad disgrifiadol a’r profion ystadegol (profion t).
Mae’r gwerthoedd p sy’n profi arwyddocâd ystadegol yn seiliedig ar brofion t sy’n cymharu’r cyfrannau wedi’u pwysoli ar gyfer ymateb penodol o fewn is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill. Gwnaed addasiad ar gyfer maint gwirioneddol y sampl ar ôl pwysoli, ond ni wneir cywiriad ar gyfer cymariaethau lluosog.
Fel arfer, pan adroddir am wahaniaethau rhwng is-grwpiau cymdeithasol-ddemograffig ac is-grwpiau eraill, ceir o leiaf 10 pwynt canran o wahaniaeth rhwng y grwpiau ac maent yn ystadegol arwyddocaol ar y lefel 5% (p<0.05). Fodd bynnag, cafodd rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau o ymatebwyr eu cynnwys lle mae’r gwahaniaeth yn llai na 10 pwynt canran, a hynny pan fydd y canfyddiad yn nodedig neu’n ddiddorol. Mae cyfrifiadau canrannol yn seiliedig ar yr ymatebwyr hynny a roddodd ymateb yn unig. Mae’r gwerthoedd a’r cyfrifiadau a adroddir yn seiliedig ar gyfansymiau wedi’u pwysoli.
Termau technegol a diffiniadau
- Nodir arwyddocâd ystadegol ar y lefel 5% (p<0.05). Felly, pan fydd yr adroddiad yn nodi gwahaniaeth sylweddol, gellir bod yn eithaf hyderus bod y gwahaniaeth a adroddwyd yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel y boblogaeth.
- Mae diogeledd bwyd yn golygu bod pawb yn gallu cael mynediad at ddigon o fwyd bob amser i fyw bywyd iach ac egnïol (Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996). Mae Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) wedi creu cyfres o gwestiynau sy’n nodi lefel diogeledd bwyd ymatebwyr. Mae Bwyd a Chi 2 yn ymgorffori 10 eitem Modiwl Arolwg Diogeledd Bwyd Oedolion yn yr Unol Daleithiau ac yn cwmpasu cyfnod cyfeirio o 12 mis. Cyfeirir at ymatebwyr fel rheiny sydd â diogeledd bwyd os ydynt wedi’u hystyried fel rhai sydd â diogeledd bwyd uchel iawn (heb nodi bod ganddynt broblemau neu gyfyngiadau o ran cael mynediad at fwyd), neu sydd â diogeledd bwyd ymylol (wedi nodi un neu ragor o broblemau – fel arfer pryder ynghylch digonolrwydd bwyd neu brinder bwyd yn y tŷ. Dim arwydd, neu ychydig arwydd, o newidiadau mewn deietau neu fwyta llai o fwyd). Cyfeirir at ymatebwyr fel rheiny nad oes ganddynt ddiogeledd bwyd os ydynt wedi’u dosbarthu fel rhai sydd â diogeledd bwyd isel (wedi nodi dirywiad o ran ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deiet. Ychydig neu ddim arwydd o fwyta llai o fwyd ) neu ddiogeledd bwyd isel iawn (wedi nodi nifer o achosion o darfu ar batrymau bwyta a bwyta llai o fwyd).
- System ddosbarthu yw Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) sy’n awgrymu sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolion ar sail statws galwedigaeth a chyflogaeth.
- Mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar sail ardal ddaearyddol yw’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) / Mynegai Amddifadedd Lluosog (IMD) / Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon (NIMDM). Neilltuir dosbarthiad MALlC/IMD/NIMDM yn ôl cod post neu enw lle. Mae’n gyfrifiad amlddimensiwn y bwriedir iddo gynrychioli’r amgylchiadau byw yn yr ardal, gan gynnwys incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, diogelwch cymunedol a’r amgylchedd ffisegol. Caiff ardaloedd bach eu sgorio yn ôl MALlC/IMD/NIMDM; gwneir hyn ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Cyfeiriadau
- Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol (ACSS)
- Cyfrifiad 2011. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Duffy, B., Smith, K., Terhanian, G., a Bremer, J. (2005). Comparing data from online and face-to-face surveys. International Journal of Market Research, 47(6), 615-639.
- Bwyd a Chi (2010-2019)
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Cyflwyno Bwyd a Chi 2. (Mawrth, 2020).
- Gaskell, G. (2019). Adolygiad o Arolwg Bwyd a Chi yr ASB. Cyfarfod ACSS 2 Ebrill 2019 – Adroddiad Adolygu Bwyd a Chi (Papur 3.5).
- Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA). Food security.
- Wills, W., Meah, A., Dickinson, A., a Short, F. (2013). Domestic kitchen practices: Findings from the ‘Kitchen Life’ study. Adroddiad gan Brifysgol Swydd Hertford ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
- Uwchgynhadledd Bwyd y Byd 1996, Rome Declaration on World Food Security.