Local Authority Recovery Plan Assurance Assessment: Summary Report (England, Wales and Northern Ireland) February 2023
Asesiad Sicrwydd Cynllun Adfer yr Awdurdodau Lleol: Casgliadau
Mae'r adran hon yn amlinellu'r casgliadau yn sgil cwblhau asesiadau'r Cynllun Adfer.
4.1 Ar ôl cwblhau asesiadau’r Cynllun Adfer yn yr 11 awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, pennwyd yr hyn a ganlyn:
- ar y cyfan, roedd yr awdurdodau lleol wedi croesawu’r Cynllun Adfer, ac roedd wedi’u galluogi i fabwysiadu dull seiliedig ar risg ac i dargedu eu hadnoddau at eu hymyriadau risg uchaf
- mae’r awdurdodau lleol wedi parhau i roi’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar waith
- bu modd i fwyafrif yr awdurdodau lleol ar draws y tair gwlad fodloni cerrig milltir y Cynllun Adfer, neu fynd tu hwnt iddynt, gan helpu i gynnal hyder defnyddwyr ac i ddiogelu buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd. Mae’r gwaith hwn yn diogelu defnyddwyr drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, gan gyfrannu at strategaeth yr ASB ar gyfer 2022 i 2027
- pan fo awdurdod lleol wedi’i chael yn anodd cyrraedd carreg filltir, mae wedi cael mwy o gyngor a chymorth
- pan fo awdurdodau lleol wedi gofyn cwestiynau a gwneud ymholiadau, byddant yn cael eu bwydo'n ôl i dimau polisi perthnasol yr ASB