Arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein gan fusnesau bwyd yng Nghymru: Heriau a chyfleoedd
Mae’r adran hon yn ymdrin â’r heriau a’r cyfleoedd a nodwyd yn ystod y gweithdy.
3.1 Heriau gweithredu
- Roedd cefnogaeth gref i’r syniad y dylai agregwyr arwain y ffordd
- Cytunwyd po leiaf o ymyrraeth ddynol gan fusnesau sydd o ran sicrhau cydymffurfiaeth, gorau oll
- Roedd gan gyfranogwyr diddordeb mewn darganfod mwy am atebion technolegol posib ar gyfer diweddaru gwefannau busnesau bwyd a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn awtomatig gyda’r sgoriau cywir a monitro cydymffurfiaeth o bell
- Codwyd y cwestiwn o ran a allai busnesau beidio gorfod darparu gwybodaeth ar-lein pe bai ar gael ar wefan agregydd. Cyfrifoldeb yr agregydd felly byddai sicrhau bod y sgoriau yn cael eu diweddaru. Os nad yw’r sgoriau ar wefannau agregwyr yn gyfredol, pwy sy’n gyfrifol am ddiffyg cydymffurfio, y busnes neu’r agregwr?
- Ar hyn o bryd mae busnesau â sgôr isel yn ceisio cuddio eu sticeri. Os nad yw’r gofyniad arddangos ar-lein wedi’i nodi’n fanwl, mae bron yn sicr y bydd rhai busnesau yn ceisio cuddio sgôr isel ar eu gwefannau.
- Bydd angen i’r gofyniad o ran y wefan fod yn rhagnodol o ran lle y dylai sgôr ymddangos a pha mor amlwg y dylai fod. Cytunwyd bod angen i’r sgôr fod yn amlwg ar y dudalen flaen neu’r hafan
- Roedd cefnogaeth gref i ddull gwirfoddol gychwynnol cyn iddo fod yn wirfoddol, a’r posibilrwydd o nodi busnesau a fydd yn gweithredu fel sefydliadau ‘canfod llwybr’. Bydd hyn yn rhoi cyfle i brofi unrhyw atebion technolegol
- Roedd cyfranogwyr yn awgrymu ac yn cefnogi dull graddol o gyflwyno’r cynllun gorfodol, gan ddechrau gyda siopau tecawê gan fod y sefydliadau hyn yn gyffredinol yn wynebu heriau o ran cydymffurfio
- Mae angen ystyried materion trawsffiniol. Nid yw’n anghyffredin i ddefnyddwyr sy’n byw ar y ffin yng Nghymru archebu ar-lein o sefydliadau yn Lloegr, ond ni ddylai hyn fod yn rhwystr
3.2 Heriau gorfodi
Arweiniodd y trafodaethau ynghylch gorfodi at nifer o gwestiynau a safbwyntiau:
- Os caiff bwyd ei brynu ar-lein, ble mae’r gwerthiant yn digwydd? Yn y cartref neu o ble y daw’r archeb i law? Beth os yw’r gweinydd wedi’i leoli y tu allan i’r DU? Mae angen ymchwilio i hyn ymhellach. Efallai y gall Safonau Masnach helpu
- Yn achos agregwyr, pwy sy’n cyflawni’r drosedd, y busnes bwyd neu’r agregydd?
- Ai awdurdodau lleol fyddai’n gyfrifol am wirio bod gwybodaeth gwefannau yn gywir fel rhan o’u harolygiadau arferol?
- Gallai’r ASB neu sefydliad arall gynnal gwaith gwyliadwriaeth a gorfodi’n ganolog gan na fyddai angen ymweliadau â’r safle i wirio cydymffurfiaeth. Gellid gwirio cydymffurfiaeth â gofynion arddangos ar-lein o bell. Fodd bynnag, roedd rhai cyfranogwyr o’r farn y byddai derbynebau hysbysiadau cosb benodedig yn ddefnyddiol er mwyn eu hail-fuddsoddi i gynnal rheolaethau swyddogol awdurdodau lleol
- Dylai sancsiynau adlewyrchu’r rhai sydd eisoes ar waith gyda hysbysiadau cosb benodedig ac erlyniad am beidio â thalu
- Mae’n debygol y bydd methu ag arddangos sgôr ar-lein yn cael ei ystyried gan lysoedd fel trosedd ddibwys
- Dylai troseddau gynnwys i) methu ag arddangos sgôr ar-lein a ii) dangos sgôr anghywir
- Cwestiynodd y cyfranogwyr y disgwyliad ynghylch gorfodi ac awgrymu dull llai cadarn i ddechrau, gan roi cyfle i fusnesau gydymffurfio cyn cael hysbysiad cosb benodedig
- Mynegwyd pryderon ynghylch yr amser posib y byddai’n ei gymryd i awdurdodau lleol wirio gwefannau busnesau bwyd a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn rhagweithiol. Ailadroddodd y cyfranogwyr y gallai’r ASB neu sefydliad arall wneud hyn o bell a dim ond rhoi gwybod i awdurdodau lleol pan fydd problemau neu achosion posib o ddiffyg cydymffurfio yn cael eu nodi a bod angen gorfodi.
- Awgrymwyd y gallai gorfodi fod yn seiliedig ar gŵyn – yn ymatebol yn unig. Yn enwedig os oedd ymgyrch yn annog defnyddwyr i chwilio am sgoriau ar wefannau busnesau bwyd
- Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn cael cwynion cwsmeriaid os nad yw sticeri’r CSHB ar gael. Mae’r cwynion hyn yn cael eu hymchwilio. Does dim rheswm pam na ddylai awdurdodau lleol ymchwilio i fethiant i arddangos ar-lein yn yr un modd
- Un canlyniad anfwriadol i’r fenter hon fyddai mwy o apeliadau, mwy o hawliau i ymateb, gan arwain at fwy o waith i awdurdodau lleol
3.3 Cefnogaeth i fusnesau
Roedd cefnogaeth aruthrol i gael datrysiad technolegol a oedd yn gofyn am ychydig iawn o ymdrech gan fusnesau i gydymffurfio. Heb ddatrysiad technolegol, roedd y cyfranogwyr o’r farn y byddai llawer o fusnesau’n ei chael hi’n anodd.
Roedd consensws y bydd angen cymorth ar rai busnesau hyd yn oed pe bai datrysiad technolegol yn ei le.
O ran capasiti a gallu, roedd consensws na fyddai awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau i ddarparu cymorth TG i fusnesau.
3.4 Cefnogaeth i reoleiddwyr
Er bod y cyfranogwyr yn gefnogol ar y cyfan, roeddent o’r farn ei bod yn bwysig cael eglurder o’r dechrau ynghylch disgwyliadau awdurdodau lleol sydd eisoes dan bwysau.
Gyda’r pwysau presennol ar adnoddau awdurdodau lleol, cytunodd y cyfranogwyr ei bod yn annhebygol y byddai unrhyw newidiadau i systemau gwybodaeth awdurdodau lleol i gefnogi’r fenter yn cael eu hariannu gan awdurdodau lleol. Bydd rhaid i’r ASB ystyried hyn.
Gallai monitro cydymffurfiaeth yn rhagweithiol gymryd llawer o amser a ffefrir datrysiad technolegol ar gyfer hyn lle mae awdurdodau lleol yn cael eu hysbysu pan nad yw’r sgoriau ar gael neu pan fyddant yn anghywir.
Dywedodd y cyfranogwyr fod ganddynt faterion blaenoriaeth uchel eraill i ymdrin â hwy ar hyn o bryd, er enghraifft sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion alergenau, delio â busnesau nad ydynt wedi cofrestru a’r ymadawiad â’r UE. Bydd ystyried blaenoriaeth gymharol y fenter hon yn bwysig, nid yn unig o safbwynt awdurdodau lleol, ond hefyd i fusnesau sy’n wynebu heriau tebyg. Mae amseru yn mynd i fod yn allweddol i sicrhau cefnogaeth rhanddeiliaid a chapasiti i symud y fenter yn ei blaen.
3.5 Cyfleoedd
Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod y cyfleoedd sylweddol sy’n gysylltiedig â’r fenter i ddylunwyr gwefannau a chwmnïau meddalwedd ac i fusnesau hyrwyddo eu cyflawniadau. Roeddent hefyd yn cydnabod y cyfle i Gymru barhau i wella cadernid y Cynllun, a chytunwyd bod arddangos ar-lein yn gam synhwyrol yn natblygiad naturiol y Cynllun presennol.
Hanes diwygio
Published: 21 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mehefin 2023