Arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein gan fusnesau bwyd yng Nghymru: Casgliad
Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn cefnogi’r cynnig i’w gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein. Mae’r adran hon yn trafod y ffordd ymlaen.
4.1 Casgliad
Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn cefnogi’r cynnig i’w gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein. Dangosodd y sesiwn torri’r iâ ar ddechrau’r gweithdy fod cael mynediad at wybodaeth gyfredol, ar-lein am sgoriau yn her i ddefnyddwyr nad ydynt yn gyffredinol yn ymwybodol o’r wybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ASB. Mae’r amrywiaeth o wefannau sy’n darparu sgoriau hylendid bwyd, nad yw rhai ohonynt yn gyfredol, â’r potensial i ddrysu defnyddwyr llai gwybodus. Mae risg y byddant yn seilio eu penderfyniadau ar wybodaeth nad yw’n gyfredol o’r gwefannau hyn.
Lleisiwyd pryderon ynghylch yr effaith bosib ar fusnesau, yn enwedig busnesau bach nad oes ganddynt o bosib y sgiliau mewnol i sicrhau bod gwybodaeth am eu sgôr ar-lein yn cael ei diweddaru, ond tawelwyd y pryderon hyn pan soniwyd wrth y cyfranogwyr am y potensial ar gyfer datrysiad technolegol a fyddai’n awtomeiddio’r broses hon. Gofynnodd y cyfranogwyr am archwiliad o ddatrysiad technolegol tebyg a allai leihau’r baich ar awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig â monitro cydymffurfiaeth.
4.2 Y ffordd ymlaen
Teimlai’r cyfranogwyr yn gyffrous bod cyfle i Gymru barhau i wella cadernid y Cynllun a phwysleisiwyd yn benodol fod yn rhaid cynnwys busnesau bach mewn trafodaethau yn gynnar.
Awgrymodd y cyfranogwyr y dylid dod â rhanddeiliaid gwahanol at ei gilydd yn ystod cam darganfod y fenter er mwyn iddynt allu deall safbwyntiau ei gilydd yn well.
Rhoddwyd gwybod i’r cyfranogwyr fod yr ASB eisoes wedi comisiynu gwaith gyda defnyddwyr i gael eu safbwyntiau ar y cynigion. Awgrymwyd y dylai’r camau nesaf gynnwys archwilio’r cysyniad o’i gwneud yn orfodol i sgoriau gael eu harddangos ar-lein gan agregwyr a busnesau a gweithio gydag arbenigwyr TG i ddatblygu datrysiad technolegol a fydd yn hwyluso rhoi’r sgoriau diweddaraf o wefan yr ASB yn awtomatig ar wefannau busnesau bwyd a’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Gan y bydd angen deddfwriaeth newydd i’w gwneud yn orfodol i sgoriau gael eu harddangos ar-lein, awgrymodd y cyfranogwyr y dylid ymgysylltu’n gynnar â chyfreithwyr Llywodraeth Cymru i roi gwybod iddynt am y cynigion ac ystyried unrhyw rwystrau cyfreithiol posib.
Dywedodd y cyfranogwyr y gallai’r ASB wneud mwy i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr o’r wybodaeth am sgoriau hylendid bwyd sydd ar gael ar hyn o bryd ar wefan yr ASB a sicrhau bod yr wybodaeth yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr, ac y dylai’r ASB fynd ati i wneud hynny. Y farn gyffredinol oedd bod y Cynllun wedi esblygu dros amser ond nad yw’r dechnoleg sy’n ei gefnogi wedi datblygu a bod disgwyliadau defnyddwyr o ran technoleg wedi cynyddu. Maen nhw nawr yn disgwyl i wybodaeth fod ar gael ar flaenau eu bysedd. Roedd cefnogaeth gref i’r ASB ddatblygu ap sgoriau hylendid bwyd gyda swyddogaethau lefel uwch a fydd yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad cyflym a hawdd at y sgoriau hylendid bwyd diweddaraf.
Hanes diwygio
Published: 21 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mehefin 2023