Ymgynghoriad ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig yn y ddogfen hon.
Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol yn bennaf:
- Gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid
- Pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
- Cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd
- Undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio
- Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid
- Awdurdodau Gorfodi
Ceir rhestr o randdeiliaid allweddol yn Atodiad A.
Pwnc a diben yr ymgynghoriad
Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi o’r newydd neu er mwyn adnewyddu neu addasu awdurdodiadau presennol. Gofynnwn i randdeiliaid ystyried unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a ffactorau dilys eraill (tystiolaeth arall sy’n cefnogi dadansoddiad risg clir, rhesymol a chyfiawnadwy, fel buddiannau defnyddwyr, dichonoldeb technegol, a ffactorau amgylcheddol), gan gynnwys y rheiny y mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban wedi nodi eu bod yn berthnasol i’r ceisiadau hyn. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i ystyried safbwyntiau rhanddeiliaid, er mwyn hysbysu Gweinidogion Cymru a Lloegr, cyn iddynt wneud penderfyniad ar awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn. Bydd ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban.
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban yn ystyried asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban. Darperir dolenni i’r asesiadau diogelwch hyn yn nogfen safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban.
Bydd safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, yr asesiadau diogelwch a’r safbwyntiau a gasglwyd drwy’r ymgynghoriad hwn yn cael eu darparu i Weinidogion er mwyn iddynt lywio eu penderfyniadau ynghylch a ddylid awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol i’w defnyddio fel bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Manylion yr ymgynghoriad
Cyflwyniad
Er mwyn cael eu rhoi ar y farchnad, rhaid i geisiadau i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig gael eu cyflwyno ym Mhrydain Fawr, lle caiff y penderfyniad o ran awdurdodi ei wneud gan y Gweinidogion priodol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr. Dyma swyddogaeth a gyflawnid yn flaenorol ar lefel yr UE. Mae ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig ar gyfer marchnad Prydain Fawr, gan gynnwys ychwanegion bwyd anifeiliaid, bellach yn destun proses dadansoddi risg y DU.
Mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban wedi bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod safonau uchel y DU o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a diogelu defnyddwyr yn parhau. Mae hyn yn unol â chyfrifoldeb yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban dros roi cyngor i Weinidogion am faterion diogelwch bwyd, neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd (adrannau 6 a 9, Deddf Safonau Bwyd 1999, ac adran 3, Deddf Bwyd (yr Alban) 2015).
O dan y trefniadau gweithredu presennol ar gyfer Gogledd Iwerddon, bydd busnesau sy’n ceisio awdurdodiad newydd ar gyfer rhoi cynnyrch bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig ar farchnad Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rheolau’r UE. O hydref 2023 ymlaen, bydd Fframwaith bwyd-amaeth Windsor yn caniatáu i safonau iechyd cyhoeddus y DU wneud cais am nwyddau manwerthu sy’n cael eu symud ar hyd y lôn werdd a’u gosod ar farchnad Gogledd Iwerddon. Felly, bydd nwyddau sy’n symud drwy’r llwybr hwn sy’n cynnwys cynhyrchion awdurdodedig Prydain Fawr yn gallu cael eu rhoi ar farchnad Gogledd Iwerddon.
Ein haseswyr risg sy’n cyflwyno’r wyddoniaeth sy’n sail i’n cyngor. Maent yn gyfrifol am nodi a phennu nodweddion peryglon a risgiau i iechyd, ac asesu lefelau cysylltiad (exposure). Lle bo Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) wedi dechrau asesu cais cyn diwedd y cyfnod pontio ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE (y ceisiadau yn Atodiadau B i M), bydd aseswyr diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban yn ystyried safbwynt EFSA fel rhan o’u hasesiad diogelwch, lle bo hwnnw wedi’i gyhoeddi gan EFSA. Ar gyfer ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn, mae’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban wedi cael mynediad at yr holl ddogfennaeth ategol a ddarparwyd i EFSA er mwyn iddo lunio ei safbwyntiau, gan y rhoddwyd yr wybodaeth hon i’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban gan yr ymgeisydd. Ar ôl cynnal asesiad diogelwch, mae’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban wedi cytuno â chasgliadau EFSA yn ei safbwyntiau.
Cynhaliwyd asesiad diogelwch llawn gan yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar y cais ar gyfer Atodiad N, RP1059 3-nitroosypropanol (3-NOP) (Bovaer® 10), gan gynnwys adolygiad llawn o ddossier yr ymgeisydd mewn perthynas ag anifeiliaid cnoi cil ar gyfer cynhyrchu llaeth ac atgenhedlu. Mae safbwyntiau’r Grŵp Arbenigol ar y Cyd ar Fwyd Anifeiliaid ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (AFFAJEG) a’r Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Anifeiliaid (ACAF) wedi’u hystyried fel rhan o asesiad diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar gyfer y cais hwn.
Yn dilyn asesiad diogelwch, bydd yr ymgynghoriad hwn yn ceisio casglu safbwyntiau rhanddeiliaid ar yr awdurdodiadau arfaethedig ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig.
Mae Gweinidogion ym mhob un o’r pedair gwlad wedi cytuno i fframwaith cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i ddatblygu yn unol â’r ymrwymiadau i weithio ar y cyd ar draws y pedair gwlad a nodir yn y Fframwaith hwn. O’r herwydd, mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i ddatblygu trwy fforymau traws-lywodraethol perthnasol gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth yr Alban. Cytunir ar gyngor terfynol gan y pedair gwlad cyn ei gyflwyno i Weinidogion.
Mae’r ymgynghoriad hwn a dogfen safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban yn cyflwyno safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban a’r ffactorau y mae’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban wedi nodi eu bod yn berthnasol i’r ceisiadau hyn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion. Gwahoddir rhanddeiliaid i fanteisio ar y cyfle hwn i roi sylwadau ar y ffactorau hyn neu dynnu sylw at unrhyw ffactorau ychwanegol y dylid eu dwyn at sylw Gweinidogion cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Wedi i’r ymgynghoriad ddod i ben, cam nesaf y broses awdurdodi yw i Weinidogion perthnasol yng Nghymru, yr Alban a Lloegr wneud penderfyniadau am awdurdodi (gan roi gwybod i Weinidogion yng Ngogledd Iwerddon), gan ystyried safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir, ac unrhyw ffactorau dilys eraill, gan gynnwys y rheiny a godwyd yn y broses ymgynghori.
Pwnc yr ymgynghoriad hwn
Yn unol â Rheoliad a Ddargedwir 1831/2003 (‘y Rheoliad’) ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth anifeiliaid, mae’r ceisiadau sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn wedi’u cyflwyno fel defnydd newydd, i’w hawdurdodi o’r newydd, i’w hadnewyddu neu i’w haddasu.
Mae ychwanegion bwyd yn sylweddau, yn ficro-organebau neu’n baratoadau (ar wahân i ddeunyddiau a rhag-gymysgeddau bwyd anifeiliaid) sy’n cael eu hychwanegu’n fwriadol at fwyd anifeiliaid neu ddŵr er mwyn cyflawni un neu ragor o’r swyddogaethau penodol, fel yr amlinellir yn yr adran ‘Gwybodaeth atodol am ychwanegion bwyd anifeiliaid’. Er mwyn gosod ychwanegion bwyd anifeiliaid newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, rhaid cyflwyno cais yn unol â’r Rheoliad. Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu hawdurdodi am gyfnod o ddeng mlynedd. Gellir ystyried adnewyddu awdurdodiadau pan gaiff cais ei ailgyflwyno flwyddyn cyn dyddiad dod i ben yr awdurdodiad fan bellaf. Mae’r weithdrefn ar gyfer pob math o gais wedi’i nodi yn y Rheoliad fel hyn:
- Cais Erthygl 4 am awdurdodiad newydd neu ddefnydd newydd ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid
- Cais Erthygl 13 am addasu awdurdodiad
- Cais Erthygl 14 am adnewyddu awdurdodiad
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau pontio i wacáu stociau cyfredol lle bo meini prawf awdurdodiad newydd yn wahanol i’r awdurdodiad cyfredol ar gyfer ychwanegyn bwyd anifeiliaid. Y cais y mae trefniadau pontio wedi’u cynnig ar ei gyfer yw RP955 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchwyd gan Trichoderma reesei (CBS 122001). Yn ogystal â cheisio safbwyntiau ar y ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn, mae’r ASB hefyd yn gwahodd sylwadau ar y trefniadau pontio arfaethedig ar gyfer RP955, fel yr amlinellir yn Atodiad K.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â deuddeg cais ar gyfer (un deg tri) o ychwanegion bwyd anifeiliaid. Rhoddir manylion pob cais yn yr atodiadau ac yn nogfen safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban.
Ystyrir pob awdurdodiad am ychwanegyn bwyd anifeiliaid mewn atodiad ar wahân, gan gynnwys rhif adnabod y cynnyrch rheoleiddiedig a theitl y cais:
Atodiad B: RP215 – Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 143953, a adneuwyd yn flaenorol fel ATCC 5588) fel ychwanegyn bwyd ar gyfer yr holl rywogaethau o ddofednod, perchyll (rhai sugno ac wedi’u diddyfnu), moch i’w pesgi a rhywogaethau mochyn sy’n tyfu llai (Danisco Sylanas 40000 G/L) (Danisco (UK) Limited) (adnewyddu, addasu a defnydd newydd)
Atodiad C: RP263 – Lacticaseibacillus rhamnosus (Lactobacillus rhamnosus yn flaenorol) (IMI 507023) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Atodiad D: RP267 – Pediococcus pentosaceus (IMI 507024) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Atodiad E: RP270 – Pediococcus pentosaceus (IMI 507025) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Atodiad F: RP271 – Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (IMI 507026) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Atodiad G: RP272 – Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (IMI 507027) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Atodiad H: RP273 – Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (IMI 507028) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Atodiad I: RP687 – Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (DSM 26571) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Chr. Hansen A/S) (newydd)
Atodiad J: RP954 – Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll (wedi’u diddyfnu), ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio (Econase® XT) (Roal Oy) (adnewyddu)
Atodiad K: RP955 – 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 122001) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob mochyn a dofednod (Fiase® EC Roal Oy) (adnewyddu)
Atodiad L: RP1052a – Mono-hydroclorid L-lysin a gynhyrchir gan Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe B.V.) (newydd)
Atodiad M: RP1052b – syflaen L-lysin (hylif) a gynhyrchir gan Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe B.V.) (newydd)
Atodiad N: RP1059 – 3-nitroosypropanol fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil sy’n cynhyrchu llaeth ac i’w hatgenhedlu (Bovaer 10) (DSM Nutritional Products Ltd., Y Swistir) (newydd)
Effeithiau
Fel rhan o’r broses dadansoddi risg, mae’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban wedi asesu’r effeithiau posib a fyddai’n deillio o awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn, pe bai Gweinidogion yn penderfynu eu hawdurdodi. Nododd asesiad yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban o’r cynigion effeithiau cadarnhaol posib ar yr amgylchedd yn sgil awdurdodi RP1059 3-nitroosypropanol (Bovaer® 10). Amlinellir y rhain yn yr adran ‘Ffactorau cyfreithlon eraill’. Ar gyfer gweddill y ceisiadau, ni nodwyd unrhyw effeithiau arwyddocaol. Roedd yr effeithiau a ystyriwyd yn cynnwys y rheiny a gafodd eu nodi amlaf fel effeithiau posib wrth gyflwyno neu ddiwygio cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (er enghraifft, yr amgylchedd, masnach a buddiannau defnyddwyr). Yn gyffredinol, dylai awdurdodi’r cynhyrchion hyn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y farchnad, gan gefnogi twf ac arloesi yn y sector.
Yn unol â’r fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan lawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad a wneir yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU yn ei chyfanrwydd. Mae un ar ddeg o’r deuddeg cais am ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad wedi’u hawdurdodi i’w defnyddio yn Ngogledd Iwerddon, yn unol â’r trefniadau gweithredu presennol. Mae cais RP954 yn ymwneud ag Endo-1,4 beta-sylanas a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) (Econase®XT), sy’n gofyn am adnewyddu awdurdodiad yn yr UE, ac felly yng Ngogledd Iwerddon. Nid yw’r UE wedi gwneud penderfyniad eto ynghylch adnewyddu’r awdurdodiad ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn, sydd wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd yng Ngogledd Iwerddon ac sydd eisoes ar y farchnad, o dan ei awdurdodiad blaenorol. Gallai amseriadau a/neu benderfyniadau gwahaniaethol yn y DU neu’r UE arwain at reolau gwahanol dros dro yng Ngogledd Iwerddon a Phrydain Fawr a allai effeithio ar yr hyn y gellir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar ei gyfer yn y DU. Mae mwy o wybodaeth am y cais hwn ar gael yn Atodiad J.
Ffactorau dilys eraill
Rydym wedi ystyried amrywiaeth o ffactorau dilys eraill y gallai Gweinidogion ddymuno eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn (gan gynnwys ffactorau amgylcheddol, masnach a buddiannau defnyddwyr). Rhoddir isod grynodeb o’r effeithiau a nodwyd, yn enwedig ar gyfer RP1059 3-nitroosypropanol (Bovaer® 10).
Effaith amgylcheddol
Ychwanegyn bwyd anifeiliaid arloesol yw RP1059 3-nitroosypropanol (Bovaer® 10) sydd â’r potensial i leihau lefelau cynhyrchu methan mewn anifeiliaid cnoi cil o dan yr amodau defnydd arfaethedig, i gyfrannu at allyriadau carbon sero net y DU, ac adeiladu system bwyd a bwyd anifeiliaid mwy cynaliadwy.
Nid yw’n hysbys ar hyn o bryd beth fyddai maint y buddion o ostwng lefelau cynhyrchu methan, gan nad oes gennym ddealltwriaeth glir o faint o fusnesau fydd yn dechrau defnyddio RP1059 3-nitroosypropanol (Bovaer® 10). Gan fod defnyddio’r ychwanegynhwn yn benderfyniad masnachol i gynhyrchwyr llaeth unigol, byddai’r cyfle i leihau lefelau cynhyrchu methan drwy’r cynnyrch hwn o fudd anuniongyrchol o dan y Fframwaith Rheoleiddio Gwell.
Effeithiau economaidd
Bydd defnyddio RP1059 3-nitroosypropanol (Bovaer® 10) yn benderfyniad masnachol gwirfoddol. Y prif ddefnydd ar gyfer RP1059 3-nitroosypropanol (Bovaer® 10) fydd mewn bwyd anifeiliaid i wartheg godro. I ddeall y cyd-destun, mae’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth wedi nodi bod 7850 o gynhyrchwyr llaeth ym Mhrydain Fawr (footnote 1) (ym mis Hydref 2022) a 2.65 miliwn o wartheg godro dros 12 mis oed (footnote 2) (ym mis Rhagfyr 12). Mae’r farchnad fawr bosib ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn yn golygu ei bod yn debygol y bydd effaith economaidd anuniongyrchol yn gysylltiedig â’r awdurdodiad hwn.
Effeithiau ar Fasnach
Mae un ar ddeg o’r deuddeg cais eisoes wedi’u hawdurdodi yn yr UE. Nid yw’r cais a gyflwynwyd i’r UE i adnewyddu RP954 Endo-1,4-beta-sylanas (3.2.1.8) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) (Econase® XT) wedi’i gwblhau ar gyfer marchnadoedd Gogledd Iwerddon/UE ond fe’i caniateir ar hyn o bryd o dan ei awdurdodiad blaenorol. Bydd hyn yn effeithio ar weithgynhyrchwyr wth iddynt fethu â marchnata ystod lawn o fformwleiddiadau stoc yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid nes iddo gael ei adnewyddu yng Ngogledd Iwerddon/yr UE.
Bwyd anifeiliaid / Gwaith gweithredu awdurdodau lleol
Mae un ar ddeg o’r deuddeg cais eisoes wedi’u hawdurdodi yn yr UE, ac os caiff y ceisiadau yn yr ymgynghoriad hwn eu hawdurdodi ym Mhrydain Fawr, bydd yn lleihau’r baich ar awdurdodau lleol o ran arolygiadau a gwaith gorfodi.
Mae RP954 Endo 1,4-beta-sylanas (3.2.1.8) a gynhyrchir gan Trichoderma reesi (CBS 114044) (Econase®XT) wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon o dan ei awdurdodiad cyfredol, yn unol â’r trefniadau gweithredu presennol. Gall mân wahaniaethau mewn labelu ar gyfer RP954 Endo-1,4-beta-sylanas (3.2.1.8) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) (Econase® XT) ychwanegu at fân faich ar awdurdodau lleol o ran arolygiadau a gwaith gorfodi oherwydd yr ystod newydd o fformwleiddiadau stoc sydd ar gael ym Mhrydain Fawr yn unig, a hynny nes iddo gael ei adnewyddu yng Ngogledd Iwerddon/yr UE.
Y rhywogaeth darged ar gyfer RP1059 3-nitroosypropanol (Bovaer®) ym Mhrydain Fawr yw pob anifail cnoi cil sy’n cynhyrchu llaeth ac i’w hatgenhedlu. Fodd bynnag y rhywogaeth darged ar gyfer awdurdodiadau yng Ngogledd Iwerddon/yr UE yw gwartheg godro a buchod ar gyfer atgenhedlu yn unig. Gallai’r gwahaniaeth hwn mewn rhywogaethau targed rhwng awdurdodi RP1059 3-nitroosypropanol (Bovaer ®) ym Mhrydain Fawr a’i awdurdodiad presennol yng Ngogledd Iwerddon/yr UE roi beichiau ychwanegol ar awdurdodau lleol o ran arolygiadau a gwaith gorfodi.
Gwybodaeth atodol am ychwanegion bwyd anifeiliaid
Lle cyflwynwyd dossiers ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid presennol i’r UE erbyn y dyddiadau cau a nodir yn y Rheoliad, ac nad oedd y penderfyniad ar eu hawdurdodi wedi’i gwblhau cyn unrhyw ddyddiad cau lle y’i pennwyd, caiff yr ychwanegion bwyd anifeiliaid aros ar y farchnad nes eu bod wedi’u cwblhau. Cyfeiriwch at Erthygl 14(4) o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid presennol ac adnewyddu awdurdodiadau.
Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu dosbarthu o dan bum categori bras, fel yr amlinellir yn Erthygl 6 o’r Rheoliad, a’i ddiffinio ymhellach ar gyfer swyddogaethau penodol yn Atodiad I. Dyma’r categorïau:
- Ychwanegion technolegol (er enghraifft, ychwanegion neu gyffeithyddion (preservatives) silwair)
- Ychwanegion synhwyraidd (lliwiau neu gyflasynnau)
- Ychwanegion maethol (er enghraifft, asidau amino ac elfennau hybrin)
- Ychwanegion Sootechnegol, i gyflawni swyddogaethau arbenigol (er enghraifft, gwella treuliadwyedd bwyd anifeiliaid)
- Cocsidiostatau a histomonostatau (i reoli parasitiaid perfedd)
Diffinnir ychwanegion bwyd anifeiliaid fel naill ai sylwedd, micro-organeb neu baratoad fel y disgrifir yn Erthygl 2(2)(a) o’r Rheoliad.
Nodir micro-organebau (er enghraifft, bacteria, burum neu ffyngau) gan god adnabod unigryw sy’n ymwneud â’u dyddodiad i Gasgliad Diwylliant a gydnabyddir yn rhyngwladol; er enghraifft, y Casgliad Cenedlaethol o Facteria Diwydiannol, Bwyd a Morol yn y DU (NCIMB) neu’r American Type Culture Collection (ATCC).
Caiff ychwanegion bwyd anifeiliaid eu caniatáu ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid, neu ar gyfer rhywogaethau mawr neu is-grwpiau diffiniedig (er enghraifft, dofednod neu ieir ar gyfer dodwy), fel y diffinnir yn Atodiad IV i Reoliad a Ddargedwir 429/2009. Yn ogystal, gellir allosod grwpiau rhywogaethau i fân rywogaethau (er enghraifft, mân ddofednod fel hwyaid neu wyddau) neu grwpiau anifeiliaid eraill y gofynnir amdanynt yn y cais (er enghraifft, adar hela). Mae ‘mân rywogaeth’ yn cyfeirio at anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac eithrio gwartheg (anifeiliaid llaeth a chig, gan gynnwys lloi), defaid (anifeiliaid cig), moch, ieir (gan gynnwys ieir ar gyfer dodwy), tyrcwn a physgod sy’n perthyn i Salmonidae, fel y diffinnir yn Erthygl 1(2) o Reoliad yr UE a Ddargedwir 429/2009.
Caiff anifeiliaid eu bwriadu ar gyfer eu bwyta’n uniongyrchol gan bobl (er enghraifft, moch i’w pesgi neu dyrcwn i’w pesgi), tra bod yna is-grwpiau anifeiliaid ychwanegol at ddibenion bridio yn unig nad ydynt wedi’u bwriadu i fynd yn uniongyrchol i’r gadwyn fwyd (er enghraifft, hychod ar gyfer atgenhedlu neu dyrcwn a fegir i’w bridio).
Gellir cymhwyso trefniadau pontio; er enghraifft, pan fo meini prawf awdurdodiad newydd yn wahanol i’r awdurdodiad ychwanegyn bwyd anifeiliaid cyfredol er mwyn caniatáu defnyddio stociau a chynhyrchion cyfredol ar y farchnad. Ni chyfeirir at drefniadau pontio oni bai fod hynny’n gymwys, yn seiliedig ar newid sylweddol rhwng yr awdurdodiad cyfredol a’r awdurdodiad newydd.
Cynigir gwasgaru (stagger) amseroedd cyfnodau pontio a nodir mewn perthynas â cheisiadau perthnasol ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, neu rag-gymysgeddau a bwyd anifeiliaid cyfansawdd, er mwyn caniatáu eu defnyddio i wacáu stociau o’r mathau unigol o fwyd anifeiliaid. Mae cyfnodau pontio i wacáu stociau o fwyd anifeiliaid gorffenedig ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd yn hirach nag ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd. Mae hyn oherwydd oes silff estynedig cynhyrchion a’r niferoedd uchel o ran cynhyrchu labelu, ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes er enghraifft.
Wrth gyfeirio at fwyd anifeiliaid cyflawn yn y ddogfen hon, cyfeirir at yr hyn sy’n cyfateb i fwyd anifeiliaid cyfansawdd sydd, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol yr anifeiliaid. Mae’r term hwn a ddefnyddir drwyddi draw wedi’i safoni i fwyd anifeiliaid cyflawn gyda chynnwys lleithder o 12%, a lle cyfeirir at isafswm ac uchafswm cynnwys ar y sail hon, lle bo’n berthnasol.
Gall cynigion ar gyfer adnewyddu awdurdodiadau isod gynnwys gwybodaeth ychwanegol o gymharu â’r awdurdodiad cyfredol, nad yw, ynddo’i hun, yn gyfystyr ag addasu awdurdodiad. Er enghraifft, gellir disgrifio nodweddion yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn fwy penodol gan gyfeirio at baratoad solet neu gelloedd hyfyw, ond roeddent yn gymwys yn yr awdurdodiad cyfredol. Mae gwelliannau pellach i’r testun hefyd wedi’u safoni; er enghraifft labelu ar gyfer sefydlogrwydd storio a gwres (o dan yr adran ‘Darpariaethau eraill’).
Y broses ymgysylltu ac ymgynghori
Cyhoeddir manylion yr holl geisiadau dilys am gynhyrchion rheoleiddiedig ar y Gofrestr Ceisiadau am Gynhyrchion Rheoleiddiedig a gyhoeddir bob mis ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Gwahoddir rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau a ofynnir isod mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a ffactorau dilys eraill.
Yn dilyn y broses ymgynghori bydd ymatebion yn cael eu cyhoeddi, a byddant ar gael i randdeiliaid a Gweinidogion.
Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:
- A oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch yr ychwanegion bwyd anifeiliaid hyn sydd heb gael eu hystyried isod mewn perthynas â’r rhywogaethau anifeiliaid, y defnyddwyr (o ran defnyddio cynhyrchion anifeiliaid), y gweithwyr neu’r effeithiau amgylcheddol bwriadedig?
- A oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon am yr effeithiau wrth ystyried awdurdodi, neu beidio ag awdurdodi, yr ychwanegion bwyd anifeiliaid unigol, ac os ydych o blaid awdurdodi, delerau awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid (fel y’u hamlinellir yn yr ymgynghoriad hwn)?
- A oes gennych unrhyw sylwadau ar y trefniadau pontio arfaethedig ar gyfer RP955 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchwyd gan Trichoderma reesei (CBS 122001)?
- A oes unrhyw ffactorau eraill y dylai Gweinidogion eu hystyried sydd heb eu hamlygu?
- A oes gennych unrhyw adborth arall?
Ymatebion
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para am 8 wythnos. Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn 20 Gorffennaf 2023.
Sut i ymateb
Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i: RPconsultations@food.gov.uk
Nodwch pa gais/ceisiadau neu gynnyrch/cynhyrchion rydych chi’n ymateb yn eu cylch trwy ddefnyddio’r llinell bwnc ganlynol ar gyfer eich ymateb:
Ymateb i ymgynghoriad ychwanegion bwyd anifeiliaid [nodwch rif(au) y cynnyrch rheoleiddiedig]
Os ydych yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.
Dylid anfon ymatebion o Gymru gan ddefnyddio’r camau uchod, gan y bydd yr holl sylwadau sy’n dod i law yn cael eu rhannu â’r ASB yng Nghymru.
Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi’r holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn cyn pen 12 wythnos i’r ymgynghoriad ddod i ben.
I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.
Bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â Gweinidogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
Mwy o wybodaeth
Os bydd angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat sy'n haws i'w ddarllen, anfonwch fanylion at y cyswllt a enwir ar gyfer ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, a bydd eich cais yn cael ei ystyried.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Fawrhydi.
Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Yn gywir,
Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Gwasanaethau Rheoleiddiedig
Atodiad A: Rhestr o bartïon â buddiant
Cysylltir yn uniongyrchol â chymdeithasau masnach rhanddeiliaid allweddol sydd â buddiant sylweddol mewn ychwanegion bwyd anifeiliaid a’u defnydd ym maes maeth bwyd anifeiliaid a’r sector amaeth ehangach, ac a gynrychiolir ar draws pedair gwlad y DU, er mwyn cael eu hadborth am yr ymgynghoriad hwn:
- Cydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (AIC)
- Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Ychwanegion ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid Prydain (BAFSAM)
- Cymdeithas Masnach Marchogaeth Prydain (BETA)
- Y Gymdeithas Masnach Grawn a Bwyd Anifeiliaid (GAFTA)
- Swyddfa Genedlaethol Iechyd Anifeiliaid (NOAH)
- Cymdeithas Masnach Grawn Gogledd Iwerddon (NIGTA)
- UK Pet Food (PFMA yn flaenorol)
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.
Atodiad B: RP215 – Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 143953, a adneuwyd yn flaenorol fel ATCC 5588) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer yr holl rywogaethau o ddofednod, perchyll (rhai sugno ac wedi’u diddyfnu), moch i’w pesgi a rhywogaethau mochyn sy’n tyfu llai (Danisco Sylanas 40000 G/L) (Danisco (UK) Limited) (adnewyddu, addasu a defnydd newydd)
Cefndir
Yn unol â Chyfraith yr UE a Ddargedwir 1831/2003 (‘y Rheoliad’) ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP215 ar gyfer paratoi’r ensym endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8), a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 143953), a adneuwyd yn flaenorol fel ATCC 5588) (Danisco Xylanase 5588 G/L) am adnewyddu awdurdodiad (Erthygl 40000), addasu (Erthygl 14) a defnydd newydd (Erthygl 13) ar gyfer allosod rhywogaethau fel ychwanegyn sootechnegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘ychwanegion gwella treuliadwyedd’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath yw gwella treuliadwyedd deietau anifeiliaid.
Cyflwynwyd cais am awdurdodi ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o ddofednod, perchyll sugno, perchyll wedi’u diddyfnu, moch i’w pesgi a mân rywogaethau moch sy’n tyfu.
Mae Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir gan T. reesei (ATCC 5588) (Danisco Xylanase 5588 G/L) wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd o dan Reoliad 1831/2003 mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer:
- Ieir i’w pesgi, ieir ar gyfer dodwy, hwyaid a thyrcwn i’w pesgi (Rheoliad a Ddargedwir 9/2010)
- Perchyll wedi’u diddyfnu a moch i’w pesgi (Rheoliad yr UE a Ddargedwir 528/2011)
- Mân rywogaethau o ddofednod heblaw hwyaid (Rheoliad yr UE a Ddargedwir 1021/2012)
Cynigir y defnydd newydd (allosod rhywogaethau) i ymestyn i bob rhywogaeth o ddofednod ac i berchyll sugno a mân rywogaethau moch sy’n tyfu.
Yn ogystal, mae’r ymgeisydd yn gofyn am addasu awdurdodiad (Erthygl 13) i leihau’r cynnwys gofynnol o 1,250 unedau/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn i 625 unedau/kg o fwyd anifeiliaid cyflawn ar gyfer tyrcwn i’w pesgi.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad C: RP263 – Lacticaseibacillus rhamnosus (Lactobacillus rhamnosus yn flaenorol) (IMI 507023) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP263 ar gyfer paratoi Lacticaseibacillus rhamnosus (Lactobacillus rhamnosus yn flaenorol) (IMI 507023) am awdurdodiad newydd fel ychwanegyn technolegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘ychwanegion silwair’. Bwriedir i ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath wella’r broses o gynhyrchu, eplesu, a/neu sefydlogrwydd aerobig silwair wrth baratoi bwyd anifeiliaid, ac ni fwriedir iddynt gael eu hychwanegu yn uniongyrchol at y bwyd anifeiliaid adeg ei fwyta gan yr anifeiliaid.
Bwriedir i’r ychwanegyn gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth/categori anifeiliaid i wella sefydlogrwydd aerobig deunyddiau fforio sy’n hawdd a chymedrol anodd eu silweirio. Cynigir yr ychwanegyn silwair hwn ar grynodiad gofynnol o 1 x 109 unedau ffurfio cytrefi (CFU) fesul cilogram o ddeunydd ffres.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad D: RP267 – Pediococcus pentosaceus (IMI 507024) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP267 ar gyfer paratoi Pediococcus pentosaceus (IMI 507024) am awdurdodiad newydd fel ychwanegyn technolegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘ychwanegion silwair’. Bwriedir i ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath wella’r broses o gynhyrchu, eplesu, a/neu sefydlogrwydd aerobig silwair wrth baratoi bwyd anifeiliaid, ac ni fwriedir iddynt gael eu hychwanegu yn uniongyrchol at y bwyd anifeiliaid tra bo’r anifeiliaid yn ei fwyta.
Bwriedir i’r ychwanegyn gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth/categori anifeiliaid i wella sefydlogrwydd aerobig deunyddiau fforio sy’n hawdd a chymedrol anodd eu silweirio. Cynigir yr ychwanegyn silwair hwn ar grynodiad gofynnol o 1 x 109 unedau ffurfio cytrefi (CFU) fesul cilogram o ddeunydd ffres.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad E: RP270 – Pediococcus pentosaceus (IMI 507025) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP270 ar gyfer paratoi Pediococcus pentosaceus (IMI 507025) am awdurdodiad newydd fel ychwanegyn technolegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘ychwanegion silwair’. Bwriedir i ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath wella’r broses o gynhyrchu, eplesu, a/neu sefydlogrwydd aerobig silwair wrth baratoi bwyd anifeiliaid, ac ni fwriedir iddynt gael eu hychwanegu yn uniongyrchol at y bwyd anifeiliaid adeg ei fwyta gan yr anifeiliaid.
Bwriedir i’r ychwanegyn gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth/categori anifeiliaid i wella sefydlogrwydd aerobig deunyddiau fforio sy’n hawdd a chymedrol anodd eu silweirio. Cynigir yr ychwanegyn silwair hwn ar grynodiad gofynnol o 1 x 109 unedau ffurfio cytrefi (CFU) fesul cilogram o ddeunydd ffres.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Annex F: RP271 - Lactiplantibacillus plantarum (formerly Lactobacillus plantarum) (IMI 507026) as a feed additive for all animal species (All-Technology (Ireland) Limited) (new)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’rRheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP271 ar gyfer paratoi Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (IMI 507026) am awdurdodiad newydd fel ychwanegyn technolegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘ychwanegion silwair’. Bwriedir i ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath wella’r broses o gynhyrchu, eplesu, a/neu sefydlogrwydd aerobig silwair wrth baratoi bwyd anifeiliaid, ac ni fwriedir iddynt gael eu hychwanegu yn uniongyrchol at y bwyd anifeiliaid adeg ei fwyta gan yr anifeiliaid.
Bwriedir i’r ychwanegyn gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth/categori anifeiliaid i wella sefydlogrwydd aerobig deunyddiau fforio sy’n hawdd a chymedrol anodd eu silweirio. Cynigir yr ychwanegyn silwair hwn ar grynodiad gofynnol o 1 x 109 unedau ffurfio cytrefi (CFU) fesul cilogram o ddeunydd ffres.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad G: RP272 – Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (IMI 507027) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP272 ar gyfer paratoi Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (IMI 507027) am awdurdodiad newydd fel ychwanegyn technolegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘ychwanegion silwair’. Bwriedir i ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath wella’r broses o gynhyrchu, eplesu, a/neu sefydlogrwydd aerobig silwair wrth baratoi bwyd anifeiliaid, ac ni fwriedir iddynt gael eu hychwanegu yn uniongyrchol at y bwyd anifeiliaid adeg ei fwyta gan yr anifeiliaid.
Bwriedir i’r ychwanegyn gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth/categori anifeiliaid i wella sefydlogrwydd aerobig deunyddiau fforio sy’n hawdd a chymedrol anodd eu silweirio. Cynigir yr ychwanegyn silwair hwn ar grynodiad gofynnol o 1 x 109 unedau ffurfio cytrefi (CFU) fesul cilogram o ddeunydd ffres.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad H: RP273 – Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (IMI 507028) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (All-Technology (Iwerddon) Limited) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP273 ar gyfer paratoi Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (IMI 507028) am awdurdodiad newydd fel ychwanegyn technolegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘ychwanegion silwair’. Bwriedir i ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath wella’r broses o gynhyrchu, eplesu, a/neu sefydlogrwydd aerobig silwair wrth baratoi bwyd anifeiliaid, ac ni fwriedir iddynt gael eu hychwanegu yn uniongyrchol at y bwyd anifeiliaid adeg ei fwyta gan yr anifeiliaid.
Bwriedir i’r ychwanegyn gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth/categori anifeiliaid i wella sefydlogrwydd aerobig deunyddiau fforio sy’n hawdd a chymedrol anodd eu silweirio. Cynigir yr ychwanegyn silwair hwn ar grynodiad gofynnol o 1 x 109 unedau ffurfio cytrefi (CFU) fesul cilogram o ddeunydd ffres.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad I: RP687 – Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (DSM 26571) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Chr. Hansen A/S) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP687 ar gyfer paratoi Lactiplantibacillus plantarum (Lactobacillus plantarum yn flaenorol) (DSM 26571) am awdurdodiad newydd fel ychwanegyn technolegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘ychwanegion silwair’. Bwriedir i ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath wella’r broses o gynhyrchu, eplesu, a/neu sefydlogrwydd aerobig silwair wrth baratoi bwyd anifeiliaid, ac ni fwriedir iddynt gael eu hychwanegu yn uniongyrchol at y bwyd anifeiliaid adeg ei fwyta gan yr anifeiliaid.
Bwriedir i’r ychwanegyn gael ei ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth/categori o anifeiliaid i wella sefydlogrwydd aerobig deunyddiau fforio sy’n hawdd, cymedrol anodd ac anodd eu silweirio. Cynigir yr ychwanegyn silwair hwn ar grynodiad gofynnol o 1 x 108 unedau ffurfio cytrefi (CFU) fesul cilogram o ddeunydd ffres.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad J: RP954 – Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer perchyll (wedi’u diddyfnu), ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio (Econase® XT) (Roal Oy) (adnewyddu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 14 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP954 ar gyfer paratoi’r ensym endo-3.2.1.8-beta-sylanas (EC 114044) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 114044) (Econase® XT) am adnewyddu awdurdodiad fel ychwanegyn sootechnegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘sylweddau gwella treuliadwyedd’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath yw gwella treuliadwyedd deietau anifeiliaid.
Mae Endo-1,4-beta-sylanas (EC 3.2.1.8) a gynhyrchir gan T. reesei (CBS 114044) (Econase® XT) wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd o dan y Rheoliad (Rheoliad a Ddargedwir 902/2009) ar gyfer y canlynol: ieir i’w pesgi, ieir a fegir ar gyfer dodwy, tyrcwn i’w pesgi, tyrcwn a fegir ar gyfer bridio. O dan yr awdurdodiad hwn, caiff yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid ei farchnata ar ddwy ffurf, fel paratoad solet (P) a hylif (L) gydag actifeddau o 4,000,000 a 400,000 BXU*/g yr ychwanegyn, yn y drefn honno.
Mae’r cais presennol ar gyfer adnewyddu yn cynnig fformwleiddiadau stoc newydd ar grynodiadau is mewn ffurf solet (ar 160,000, 800,000 BXU/g) a ffurf hylif ar 160,000 BXU/g, er bod y lefel isaf a ychwanegir at fwyd anifeiliaid yn aros yr un fath.
Roedd yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn hefyd wedi’i awdurdodi’n flaenorol i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid o dan y rheoliad isod, er bod ei awdurdodiad wedi dod i ben ym mis Tachwedd 2021. Mae cais ar wahân wedi’i gyflwyno fel awdurdodiad newydd i ddisodli:
- Rheoliad yr UE a Ddargedwir 1110/2011 fel y’i diwygiwyd o dan Reoliad yr UE a Ddargedwir 2018/1569 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy, mân rywogaethau o ddofednod a moch i'w pesgi.
*[Gweithgaredd ensymau wedi’i fynegi mewn unedau sylanas coed bedw (BXU) , lle mae un BXU yn cyfateb i swm yr ensym sy’n rhyddhau 1 nanomol o siwgrau lleihau fel sylos o sylan bedw yr eiliad ar pH 5.3, a 50°C.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad K: RP955 – 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 122001) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob mochyn a dofednod (Fiase® EC Roal Oy) (adnewyddu)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 14 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP955 ar gyfer paratoi’r ensym 3.1.3.26‐ffytas (EC 122001) a gynhyrchir gan Trichoderma reesei (CBS 122001) (Finase® EC) am adnewyddu awdurdodiad fel ychwanegyn sootechnegol, o dan y grŵp swyddogaethol ‘sylweddau gwella treuliadwyedd’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath yw gwella treuliadwyedd deietau anifeiliaid.
Mae 6-ffytase (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan T. reesei (CBS 122001) (Finase® EC) wedi’i awdurdodi ar hyn o bryd o dan y Rheoliad ar gyfer yr un swyddogaeth mewn bwyd anifeiliaid, lle mae’r cais cyfredol hwn yn ceisio adnewyddu pob un o’r canlynol:
- Rheoliad yr UE a Ddargedwir 277/2010 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer dofednod i’w pesgi a’u bridio (ac eithrio tyrcïod i’w pesgi), dofednod ar gyfer dodwy ac moch ac eithrio hychod.
- Rheoliad yr UE a Ddargedwir 891/2010 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn.
- Rheoliad yr UE a Ddargedwir 886/2011 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer hychod.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad L: RP1052a – Mono-hydroclorid L-lysin a gynhyrchir gan Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe B.V.) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1052a ar gyfer y sylwedd mono-hydroclorid L-lysin a gynhyrchir trwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) am awdurdodiad newydd ar gyfer ychwanegyn maethol o dan y grŵp swyddogaethol ‘asidau amino, eu halwynau a’u analogau’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath yw darparu microfaethynnau hanfodol i ddeietau anifeiliaid.
Mae monohydroclorid L-lysin a gynhyrchir gan Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) wedi’i gynnig i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid, heb leiafswm nac uchafswm o ran cynnwys.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad M: RP1052b – syflaen L-lysin (hylif) a gynhyrchir gan Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid (Daesang Europe B.V.) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1052b ar gyfer y sylwedd sylfaen L-lysin (hylif) a gynhyrchir trwy eplesu â Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) am awdurdodiad newydd ar gyfer ychwanegyn maethol o dan y grŵp swyddogaethol ‘asidau amino, eu halwynau a’u analogau’. Swyddogaeth ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath yw darparu microfaethynnau hanfodol i ddeietau anifeiliaid.
Mae sylfaen L-lysin (hylif) a gynhyrchir gan Corynebacterium glutamicum (KCCM 80216 neu KCTC 12307BP) wedi’i gynnig i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifeiliaid, heb leiafswm nac uchafswm o ran cynnwys.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
- Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alan ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
- Asesiadau diogelwch yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
Atodiad N: RP1059 – 3-nitroosypropanol fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil sy’n cynhyrchu llaeth ac i’w hatgenhedlu (Bovaer® 10) (DSM Nutritional Products Ltd., Y Swistir) (newydd)
Cefndir
Yn unol ag Erthygl 4 o’r Rheoliad ar ychwanegion bwyd anifeiliaid, cyflwynir cais RP1059 ar gyfer 3-nitroosypropanol (10-NOP) (Bovaer ® 10) am awdurdodiad newydd fel ychwanegyn söotechnegol, o dan y grŵp swyddogaethol o ‘sylweddau sy’n effeithio ar yr amgylchedd mewn modd ffafriol’. Mae’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid arloesol hwn wedi’i gynllunio i amharu ar gynhyrchiant methan mewn anifeiliaid cnoi cil (er enghraifft buchod). Mae gan ychwanegion bwyd anifeiliaid o’r fath y potensial i gyfrannu at dargedau sero net y DU.
Cynigir 3-nitroosypropanol (Bovaer®) i’w ddefnyddio ym mwyd anifeiliaid pob anifail cnoi cil sy’n cynhyrchu llaeth ac i’w hatgenhedlu.
Safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban
Mae safbwyntiau’r ASB/Safonau Bwyd yr Alban, sy’n cynnwys dolen i’r asesiad diogelwch a manylion y telerau defnyddio arfaethedig ar gyfer yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, i’w gweld ar wefan yr Asianthaeth Safonau Bwyd:
Hanes diwygio
Published: 23 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Mehefin 2023