Cyfraith yr UE a ddargedwir i gael ei dirwyn i ben neu ei dirymu erbyn 31 Rhagfyr 2023
Cyfraith yr UE a ddargedwir sy’n gymwys i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a fydd yn cael ei dirymu yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.
Yn unol ag amserlen dirymu’r llywodraeth, mae’r ASB wedi nodi cyfreithiau’r UE a ddargedwir (REUL) i’w dirymu isod.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi datganiad yn cyhoeddi newid i’r dull o ymdrin â Bil REUL.
Rydym wedi adolygu’r cyfreithiau hyn yn fanwl ac rydym yn hyderus na fydd eu dileu yn effeithio ar ddiogelwch na safonau bwyd.
I ddysgu mwy am ddull yr ASB o ymdrin â REUL, darllenwch adroddiad diweddaraf y Prif Weithredwr i Fwrdd yr ASB.
Mae’r ASB wedi nodi wyth darn o REUL nad oes angen eu cadw bellach yng nghyfraith y DU. Gelwir y rheoliadau hyn yn Offerynnau Statudol (OS).
Tabl o Gyfraith yr UE a Ddargedwir y mae’r ASB yn gyfrifol amdani i’w dirymu
Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) | Pwrpas y REUL | Rheswm dros wneud hyn, neu fudd y dull? |
---|---|---|
Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1982 (O.S. 1982/1727) | Diwygiodd y Rheoliadau hyn nifer fawr o reoliadau a gorchmynion sy’n ymwneud â bwyd, gan newid y cosbau am droseddau yn erbyn y rheoliadau a’r gorchmynion hynny. Mewn llawer o achosion, gwnaethant hefyd newid dull y treial ar gyfer erlyn troseddau o’r fath. Ar wahân i ddiwygiad i un offeryn yng Ngogledd Iwerddon, roedd y diwygiadau hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr yn unig. |
Nid oes modd rhoi’r Rheoliadau hyn ar waith. Mae’r holl ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd gan yr OS hwn wedi’i dirymu eisoes, gan gynnwys y ddarpariaeth yng Ngogledd Iwerddon, er enghraifft: - Rheoliadau Arsenig mewn Bwyd 1959 Felly, gellir dirymu’r OS hwn erbyn hyn hefyd. |
Rheoliadau Bwyd (Adolygu Cosbau) 1985 (O.S. 1985/67) | Diwygiodd y Rheoliadau hyn nifer fawr o reoliadau a gorchmynion sy’n ymwneud â bwyd, gan newid y cosbau am droseddau yn erbyn y rheoliadau a’r gorchmynion hynny. Roedd y diwygiadau’n gymwys i Gymru a Lloegr yn unig. |
Nid oes modd rhoi’r Rheoliadau hyn ar waith. Mae’r holl ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd gan yr OS hwn wedi’i dirymu eisoes, er enghraifft: - Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Llaeth Wedi’i Fewnforio) 1926 Felly, gellir dirymu’r OS hwn erbyn hyn hefyd. |
Rheoliadau Cig (Pwerau Gorfodi Gwell) (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/225) | Diwygiodd y Rheoliadau hyn (sy’n gymwys i Loegr yn unig) Reoliadau amrywiol sy’n ymwneud â chig i ddarparu pwerau gorfodi gwell er mwyn gweithredu, yn rhannol, amryw o Gyfarwyddebau’r UE. |
Nid oes modd rhoi’r Rheoliadau hyn ar waith. Mae’r holl Reoliadau a ddiwygiwyd gan OS 2000/225 eisoes wedi’u dirymu a’u disodli, gan gynnwys: - Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 Felly, gellir dirymu’r OS hwn erbyn hyn hefyd. |
Rheoliadau Cig (Rheoli Clefydau) (Lloegr) 2000 (O.S.2000/2215) | Yn Lloegr, rhoddodd y Rheoliadau hyn amrywiol ddarpariaethau’r UE wedi’u cysoni sy’n ymwneud â rheoli clefydau ar waith, a hynny trwy ddiwygio'r ddedfwriaeth amrywiol berthnasol yn Lloegr a oedd ar waith ar y pryd. Roedd y Rheoliadau hefyd yn cyflwyno nifer o ddiwydiadau canlyniadau angenrheidiol eraill yn Lloegr. |
Nid oes modd rhoi’r Rheoliadau hyn sy'n diwygio ar waith. Mae’r holl ddeddfwriaeth y mae wedi’i diwygio wedi’i dirymu ers hynny, gan gynnwys: - Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995 Felly, gellir dirymu’r OS hwn erbyn hyn hefyd. |
Rheoliadau Ensymau Bwyd 2009 (O.S. 2009/3235) Rheoliad 10 | Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (CE) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ensymau bwyd yn Lloegr. | Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u disodli. Cafodd darpariaethau gweithredol yr Offerynnau Statudol eu dirymu a’u disodli gan Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Lloegr) 2013 (OS/2013/2210) ac Offerynnau Statudol cyfatebol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Cafodd y ddeddfwriaeth gyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ei dirymu’n llawn yn 2017. |
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Lloegr) 2009 (O.S.2009/3238) |
Roedd y Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (CE) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd mewn perthynas â Lloegr. Roeddent hefyd yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/10/EC sy’n gosod meini prawf penodol yn Lloegr o ran purdeb ychwanegion bwyd, ac eithrio lliwiau a melysyddion. |
Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u disodli. Mae darpariaethau gweithredol yr OS hwn wedi’u dirymu a’u disodli, ac nid yw’r unig ddarpariaethau sy’n dal i fod mewn grym yn cyflawni unrhyw swyddogaeth: mae Rheoliad 19 yn diwygio offeryn sy’n dal i fod mewn grym, ond disodlwyd y diwygiad hwnnw gan ddiwygiad dilynol a wnaed gan O.S. 2019/526. Mae hyn hefyd yn wir am y ddeddfwriaeth gyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, lle cafodd y diwygiad i’r Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ei ddisodli yn 2018 a 2019 yn y drefn honno. |
Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy’n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/2281) | Roedd y Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Reoliad y Comisiwn (CE) Rhif 41/2009 yn Lloegr ynghylch cyfansoddiad a labelu bwydydd sy’n addas i bobl ag anoddefiad tuag at glwten – yn benodol o ran defnyddio’r termau “isel iawn mewn glwten” (very low gluten) a “heb glwten” (gluten free). | Nid oes modd rhoi’r Rheoliadau hyn ar waith. Roeddent yn gorfodi Rheoliad yr UE 41/2009, a ddiddymwyd gan yr UE yn 2016 (a’i disodli gan Reoliad yr UE 828/2014, sy’n cael ei ddargadw). Cafodd y ddeddfwriaeth orfodi ddomestig gyfatebol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ei dirymu a’i disodli yn 2016. |
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/2817) | Roedd y Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (CE) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol sydd â phriodweddau cyflasynnau i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt yn Lloegr. Maent hefyd yn diwygio Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1601/91, Rheoliadau (CE) Rhif 2232/96 ac (CE) Rhif 110/2008 a Chyfarwyddeb 2000/13/EC (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34) (“Rheoliad yr UE”). | Mae’r ddeddfwriaeth hon wedi’i disodli. Mae darpariaethau gweithredol yr OS hwn wedi’u dirymu a’u disodli’n flaenorol, ac nid yw’r unig ddarpariaethau sy’n dal i fod mewn grym yn cyflawni unrhyw swyddogaeth. Cafodd y ddeddfwriaeth gyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ei dirymu’n llawn yn 2018 a 2019 yn y drefn honno. |