Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
Gwybodaeth am godau ymarfer a chanllawiau ymarfer cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, a’r Fframwaith Cymyseddau ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB
Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE yn gymwys mwyach ym Mhrydain Fawr. O ran deddfwriaeth yr UE a oedd wedi’i dargadw pan ymadawodd y DU â’r UE, trodd hon yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd
Mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn rhoi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd. Mae angen i awdurdodau lleol ddilyn a gweithredu’r adrannau perthnasol o’r Cod sy’n berthnasol.
Cymru
Gweld Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) fel PDF
Gogledd Iwerddon
Gweld Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Gogledd Iwerddon) fel PDF
Lloegr
Gweld Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Lloegr) fel PDF
Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid
Mae'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid yn rhoi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid. Mae angen i awdurdodau bwyd anifeiliaid ddilyn a gweithredu’r adrannau perthnasol o’r Cod sy’n berthnasol iddynt.
Cymru
Gweld Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Cymru) fel PDF
Gogledd Iwerddon
Gweld Canllawiau Gorfodi Cyfraith Bwyd Anifeiliaid Gogledd Iwerddon fel PDF
Lloegr
Gweld Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Lloegr) fel PDF
Canllawiau Ymarfer
Rydym yn cyhoeddi Canllawiau Ymarfer sy’n anstatudol sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer statudol. Mae’r rhain yn darparu cyngor cyffredinol ar y dull o orfodi’r gyfraith.
Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd
Cymru
Gweld Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) fel PDF
Gogledd Iwerddon
Gweld Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Gogledd Iwerddon) fel PDF
Lloegr
Gweld Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Lloegr) fel PDF
Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid
Cymru
Gweld Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Cymru) fel PDF
Gogledd Iwerddon
Gweld Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) fel PDF
Lloegr
Gweld Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Lloegr) fel PDF
Fframwaith Cymwyseddau
Gwybodaeth a sgiliau ar gyfer cyflenwi rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol a gweithgareddau eraill yn effeithiol. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau’n nodi’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn Nghymru a Lloegr, a swyddogion cynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, gan ymgymryd â rheolaethau bwyd swyddogol, gweithgareddau swyddogol eraill a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhain. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau ar gael ar lwyfan Hwyluso Cyfathrebu (Smarter Communications) yr ASB (ceir mynediad at y llwyfan drwy fewngofnodi yn unig).
Er mwyn cynorthwyo gyda gweithredu’r Fframwaith Cymwyseddau, rydym wedi creu nifer o ddeunyddiau cymorth, sydd hefyd ar gael ar lwyfan Hwyluso Cyfathrebu’r ASB.
Hanes diwygio
Published: 7 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Ebrill 2024