Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Sut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Lle y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd, gan ddibynnu ar y math o sefydliad a’ch lleoliad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 May 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 May 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae angen i rai sefydliadau cig a sefydliadau bwyd gael eu cymeradwyo cyn y gallant ddechrau gweithredu. Gan ddibynnu ar y gweithgareddau y byddwch yn eu cyflawni a’ch lleoliad, efallai y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) neu eich awdurdod lleol.

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Rhaid i’r sefydliadau canlynol gael cymeradwyaeth gennym ni cyn iddynt ddechrau masnachu:

Cymru a Lloegr

  • lladd-dai
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • marchnadoedd cyfanwerthu cig

Gogledd Iwerddon

  • lladd-dai
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • marchnadoedd cyfanwerthu cig
  • canolfannau casglu llaeth amrwd
  • gweithfeydd prosesu llaeth gwlyb
  • canolfannau pecynnu – pecynnu a graddio wyau yn ôl ansawdd a phwysau

Ni allwch ddechrau masnachu cyn cael eich cymeradwyo. Ni ddylech ddechrau unrhyw weithgaredd busnes sy’n gofyn am gymeradwyaeth oni bai eich bod wedi cael cymeradwyaeth amodol neu lawn ar gyfer y gweithgarwch arfaethedig gan yr ASB. Os byddwch chi’n dechrau masnachu heb gymeradwyaeth, mae’n drosedd a allai arwain at erlyniad.

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol

Cymru a Lloegr

 

Sefydliadau cyffredinol

  • storfeydd oer
  • sefydliadau ail-lapio ac ailbecynnu

Sefydliadau cig

  • sefydliadau briwgig 
  • sefydliadau paratoi cig
  • sefydliadau cig wedi’i wahanu’n fecanyddol
  • ffatrïoedd prosesu cynhyrchion cig
  • ffatrïoedd prosesu brasterau anifeiliaid wedi’u rendro a chriwsion 
  • ffatrïoedd prosesu stumogau, pledrennau a choluddion wedi’u trin
  • ffatrïoedd prosesu gelatin
  • ffatrïoedd prosesu colagen

Sefydliadau pysgod a physgod cregyn

  • sefydliadau molysgiaid dwygragennog byw gan gynnwys canolfannau dosbarthu a chanolfannau puro
  • sefydliadau sy’n gweithio gyda chynhyrchion pysgodfeydd gan ddefnyddio llongau ffatri a rhewi, ffatrïoedd prosesu, cynhyrchion pysgodfeydd ffres, neuaddau arwerthu, marchnadoedd cyfanwerthu

Sefydliadau llaeth 

  • canolfannau casglu llaeth amrwd lle caiff ei oeri a’i hidlo
  • ffatrïoedd prosesu sy’n cynhesu, prosesu a/neu’n lapio cynhyrchion llaeth (llaeth neu unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys llaeth)

Sefydliadau wyau a chynhyrchion wyau

  • canolfannau pecynnu – pecynnu a graddio wyau yn ôl ansawdd a phwysau 
  • ffatrïoedd prosesu – prosesu cynhyrchion wyau
  • ffatrïoedd wyau hylifol – trin cynnwys wyau heb ei brosesu ar ôl tynnu’r plisgyn