Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Bwyd risg uchel nad yw'n dod o anifeiliaid

Penodol i Ogledd Iwerddon

Mae rhai bwydydd nad ydynt yn dod o anifeiliaid yn cael eu hystyried yn fwyd risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO) oherwydd eu bod yn peri risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â'r wlad tarddiad.

Gellir ystyried cynhyrchion yn risg uchel os ydynt yn cynnwys, er enghraifft, halogion fel mycotocsinau, plaladdwyr, salmonela. Pan gaiff bwyd risg uchel ei fewnforio neu ei symud i Ogledd Iwerddon o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE), gan gynnwys o Brydain Fawr, bydd y bwyd hyn yn destun naill ai: 

•    rhagor o reolaethau dros dro 
•    mesurau brys 

Gallwch chi ddod o hyd i drosolwg o'r holl ofynion sy'n benodol i'r wlad a'r halogydd peryglus sy'n gysylltiedig â phob bwyd ar y dudalen Bwydydd sydd wedi'u cyfyngu ar hyn o bryd.

Mae enghreifftiau o HRFNAO yn cynnwys:

•    cnau daear fel pysgnau (peanuts) mewn cregyn o Bolifia neu Madagascar
•    grawnwin sych (rhesins) o Dwrci
•    perlysiau fel coriander a basil o Fietnam

Os ydych chi'n symud HRFNAO i Ogledd Iwerddon o'r tu allan i'r UE, eich cyfrifoldeb chi yw meddwl am y bwydydd rydych chi'n eu masnachu, o ble maen nhw'n tarddu ac a ydyn nhw'n cael eu mewnforio i Brydain Fawr cyn symud ymlaen i Ogledd Iwerddon (naill ai fel rhan o'r llwyth a fewnforiwyd yn wreiddiol i mewn i Brydain Fawr neu'r llwyth cyflawn). Gallwch chi wirio'ch nwyddau masnachu yn erbyn y bwydydd hynny y mae cyfyngiadau pellach yn berthnasol iddynt, fel y nodir ar y dudalen gyfyngiadau. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth o'r Man Mynediad (POE) y byddwch chi'n dod â'ch llwyth bwyd (food consignment) i mewn iddo, neu'r cyngor dosbarth yn yr ardal y mae eich busnes wedi'i leoli. 

Esboniwr terminoleg yr ASB: Beth yw 'llwyth'?

Mae llwyth yn golygu swm o nwyddau a gwmpesir gan yr un dystysgrif swyddogol, ardystiad swyddogol, neu unrhyw ddogfen arall, a gludir trwy'r un dull cludo ac sy'n dod o'r un wlad. 

Mae angen i chi hefyd ystyried a yw'r cynhwysion yn y bwydydd rydych chi'n eu symud yn cael eu hystyried yn risg uchel. Bwydydd cyfansawdd yw'r rhai a restrir yn Nhabl 2 Atodiad II yn y ddeddfwriaeth berthnasol. Maent yn cynnwys danteithion (confectionery), siocled, bara, teisennau, cacennau a bisgedi, sy'n cynnwys cynhwysion HRFNAO a restrir yn Atodiad II oherwydd y risg o afflatocsinau. Os yw'r cynhwysion risg uchel yn fwy na 20% o'r cynnyrch terfynol, bydd y bwyd yn destun gwiriadau mewnforio. 

Ar hyn o bryd, nid oes HRFNAO sy'n tarddu o Brydain Fawr. Fodd bynnag, bydd bwydydd risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n cael eu mewnforio i Brydain Fawr ac yna'n cael eu cludo i Ogledd Iwerddon yn destun rheolaethau yng Ngogledd Iwerddon.  

Mae'r gofynion deddfwriaethol yn y ddeddfwriaeth hon hefyd yn berthnasol i fwyd anifeiliaid risg uchel. Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) sy’n goruchwylio symud cynhyrchion bwyd anifeiliaid risg uchel. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan DAERA.

 

Symud HRFNAO o Brydain Fawr a gwledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE) i Ogledd Iwerddon

Rhaid i gynhyrchion HRFNAO a gaiff eu symud i Ogledd Iwerddon fodloni'r amodau canlynol:  

  1. Mae angen i fusnesau sy'n ymwneud â gweithgarwch mewnforio bwyd gofrestru fel busnes bwyd gyda'u cynghorau dosbarth a rhoi gwybod iddynt eu bod yn symud HRFNAO i Ogledd Iwerddon. Gallwch chi hefyd ddiweddaru'ch manylion os ydych chi eisoes wedi'ch cofrestru fel busnes bwyd ond heb nodi eich bod chi'n mewnforio bwyd. 
     
  2. Gwnewch yn siŵr bod yr holl fwyd i'w fwyta gan bobl sy'n cael ei symud i mewn i Ogledd Iwerddon yn cydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd yr UE a gofynion cysylltiedig.
     
  3. Ewch i mewn i Ogledd Iwerddon trwy Man Mynediad sydd wedi'i awdurdodi i dderbyn HRFNAO. Gellir gweld rhestr o Fannau Mynediad Gogledd Iwerddon ar wefan DAERA.
     
  4. Bydd staff y cyngor dosbarth yn cynnal gwiriadau HRFNAO yng Ngogledd Iwerddon yn y Man Mynediad.
     
  5. Bydd angen i chi roi gwybod i staff y cyngor dosbarth yn y Man Mynediad pryd y bydd eich HRFNAO yn cyrraedd Gogledd Iwerddon gan ddefnyddio Dogfen Mynediad Iechyd Cyffredin (CHED-D) ar TRACES NT. Rhaid gwneud hyn o leiaf 24 awr cyn y bwriedir i’ch llwyth gyrraedd. 

Mae TRACES NT yn blatfform ar-lein a ddefnyddir i symud rhai cynhyrchion gan gynnwys bwyd sy'n dod o anifeiliaid a bwyd penodol nad yw'n dod o anifeiliaid. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio'r platfform yng nghanllawiau DAERA ar gofrestru ar TRACES NT.

6. Mae’n rhaid i chi gynnwys y ddogfennaeth gywir gyda'ch CHED-D ar TRACES NT:

  • ar gyfer HRFNAO a restrir yn Atodiad I, mae dogfennaeth gywir yn cynnwys dogfennaeth fasnachol (fel anfonebau a rhestrau deunydd pecynnu sy'n cefnogi'r wybodaeth a ddatganwyd yn Rhan I o'r CHED).
  •  
  • ar gyfer HRFNAO a restrir yn Atodiad II, mae hyn yn cynnwys tystysgrif iechyd allforio (EHC) sy'n berthnasol i bob llwyth. Mae'r EHC wedi'i llofnodi gan swyddog awdurdodedig yr awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr lle mae'r bwyd yn cael ei anfon. Mae Defra  wedi darparu canllawiau ar EHCs. 

Os ydych chi wedi mewnforio llwyth o HRFNAO i Brydain Fawr, wedi rhannu'r llwyth hwn ac yn bwriadu symud rhan o'r llwyth gwreiddiol i Ogledd Iwerddon, bydd angen ardystiad swyddogol newydd arnoch chi ar gyfer y llwyth a fwriadwyd ar gyfer Gogledd Iwerddon. Gall hyn gynnwys tystysgrif dadansoddi (CoA) newydd gan labordy swyddogol (gall gymryd rhwng 3-7 diwrnod i labordy ddarparu canlyniadau samplu). Mae Defra wedi bod yn paratoi i'r Ardystiad Swyddogol ddigwydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer sefyllfa o'r fath. Dylai busnesau/mewnforwyr bwyd ddilyn canllawiau ar Allforio neu symud bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid i’r UE neu i Ogledd Iwerddon i gael manylion ar sut i gael tystysgrif swyddogol.

Os yw'ch llwyth yn rhan o lwyth grŵp, sef grwpio masnachol o lwythi lluosog mewn trelar neu gynhwysydd sengl wedi'i selio (er enghraifft un cerbyd sy'n casglu llwythi penodol lluosog gan wahanol gyflenwyr, mewn gwahanol leoliadau), yna dylech chi fod yn ymwybodol o Ganllawiau Grwpio DAERA.
 

 

Canllawiau cam wrth gam

Bydd ein gwiriwr cam wrth gam ar symud bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn eich tywys trwy'r gofynion a'r broses.

Dilynwch ein canllawiau a'n tiwtorial fideo ar sut i greu a chwblhau CHED-D ar gyfer llwythi o fwyd a bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid:

Rhagor o reolaethau dros dro 

Mae rhagor o reolaethau dros dro ar gyfer rhai HRFNAO o rai gwledydd y tu allan i'r UE (gan gynnwys y rhai a fewnforiwyd i Brydain Fawr ac a symudwyd i Ogledd Iwerddon). Mae hyn oherwydd risg hysbys neu risg sy'n dod i'r amlwg, neu oherwydd diffyg cydymffurfio eang â chyfraith bwyd.  

Gallwch chi ddod o hyd i restr o'r bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid sy’n destun cynnydd dros dro mewn rheolaethau wrth bwyntiau mynediad yn Atodiad I o'r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae'r rhestr hon yn cael ei hadolygu o leiaf ddwywaith y flwyddyn. 

Ar gyfer bwyd sydd â'r gofynion mewnforio penodol hyn, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth gynnwys dogfennaeth fasnachol (fel anfonebau a rhestrau pecynnu sy'n cefnogi'r wybodaeth a ddatganwyd yn Rhan I o'r CHED) yn eich CHED-D.

Mesurau brys  

Mae mesurau brys ar waith ar gyfer ystod o nwyddau bwyd sy'n dod i mewn i Ogledd Iwerddon os yw bwyd yn debygol o beri risg ddifrifol i iechyd pobl, iechyd anifeiliaid neu'r amgylchedd. 

Mae Atodiad II o'r ddeddfwriaeth berthnasol yn rhestru'r bwydydd o rai gwledydd sy'n ddarostyngedig i amodau arbennig ar gyfer mynd i mewn i Ogledd Iwerddon oherwydd risg halogiad gan, er enghraifft mycotocsinau gan gynnwys afflatocsinau, gweddillion plaladdwyr, halogiad cemegol, microbiolegol a halogiad arall er enghraifft lliwiau (dyes) ac ychwanegion heb eu hawdurdodi. Adolygir y rhestr hon o leiaf ddwywaith y flwyddyn. 
 
Yn ogystal, mae nifer o fesurau brys o dan ddeddfwriaeth arall gydag amodau mewnforio sy'n benodol i bob mesur: 

  • reis wedi'i addasu'n enetig (GM) o China – ni all reis GM o China symud i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr a dim ond yn uniongyrchol o China i mewn i Ogledd Iwerddon neu drwy Aelod-wladwriaethau'r UE y gellir ei fewnforio.  
  • bwyd o Japan ar ôl Fukushima – ni ellir symud bwyd o rai ardaloedd neu prefectures yn Japan o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon a dim ond yn uniongyrchol o Japan i Ogledd Iwerddon neu drwy Aelod-wladwriaethau’r UE y gellir ei fewnforio.  

Gallwch chi ddod o hyd i ragor o fanylion am fwydydd cyfyngedig cyffredin o wledydd penodol gan gynnwys China a Japan ar dudalen gofynion mewnforio Gogledd Iwerddon ar gyfer bwydydd cyfyngedig

Ar gyfer bwydydd â mesurau brys mae'n rhaid i chi gael: 

  • Dogfen Mynediad Iechyd Cyffredin (CHED-D)
  • Tystysgrif swyddogol, a elwir hefyd yn dystysgrif iechyd allforio 
  • Tystysgrif dadansoddi (CoA) (a gafwyd o labordy swyddogol) 
  • dogfennaeth fasnachol (fel anfonebau a rhestrau deunydd pecynnu neu filiau llwytho)

Os ydych chi am symud cynhyrchion o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gallwch chi ddarganfod sut i gael y Dystysgrif Iechyd Allforio a Thystysgrif Dadansoddi yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban ar dudalen GOV.UK ar Allforio neu symud bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid i'r UE neu i Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021. 

Gwiriadau pwynt mynediad ar gyfer HRFNAO 

Gwiriadau dogfennol 

Gellir cynnal gwiriadau dogfennol, a chlirio'r cynhyrchion cyn i'r cynhyrchion bwyd gyrraedd y man cyrraedd (POE) i Ogledd Iwerddon. Er mwyn osgoi oedi, mae'n hanfodol bod yr holl ddogfennau angenrheidiol yn gyflawn, yn gywir ac yn cael eu cyflwyno o fewn yr amserlenni hysbysu. Rhaid i chi gyflwyno'ch CHED-D o leiaf 24 awr cyn i'r llwyth gyrraedd, er mwyn caniatáu amser i staff y man cyrraedd godi unrhyw wallau gyda mewnforwyr cyn i'r cynnyrch gyrraedd ac felly sicrhau taith gyflym trwy'r man mynediad. Mae pob HRFNAO yn destun gwiriad dogfennol. 

Cynnal gwiriadau adnabod (ID) a gwiriadau ffisegol 

Gwiriad adnabod

Arolygiad gweledol yw hwn i sicrhau bod y dogfennau sy'n cyd-fynd â'r llwyth bwyd yn cyd-fynd â'r labelu a chynnwys y llwyth. 

Gwiriad ffisegol

Mae gwiriad ffisegol yn wiriad ar fwyd a all gynnwys gwiriadau ar: 

  • y dull cludo 
  • deunydd pecynnu 
  • labelu 
  • tymheredd

Gellir samplu ar gyfer dadansoddi a phrofi labordy ac unrhyw wiriad arall sy'n angenrheidiol i wirio cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd. 

Gwneir gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol, gan gynnwys dadansoddiad labordy, ar amlder a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer y nwyddau penodol sy'n cael eu mewnforio. 

Sylwch y gall gymryd 3-7 diwrnod i labordy swyddogol ddarparu canlyniadau samplu ar gyfer HRFNAO. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y llwyth yn parhau i fod o dan reolaeth tollau.

Cyfnod addasu i fasnachwyr awdurdodedig sy'n symud bwyd o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon

Gellir gweld y trefniadau diweddaraf ar y Cynllun ar gyfer Symudiadau Awdurdodedig i Ogledd Iwerddon (STAMNI), ar gyfer masnachwyr awdurdodedig fel archfarchnadoedd a'u cyflenwyr dibynadwy, yn y Canllawiau Manwl ar gyfer Masnachwyr Awdurdodedig ar wefan DAERA.