Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Rhybuddion Parhad Busnes

Gwybodaeth am hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Rhybuddion Parhad Busnes sy’n nodi pam mae angen data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda’r data, a’ch hawliau.

Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Mae angen i ni gasglu gwybodaeth gennych chi, fel y nodir yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, at ddibenion anfon e-bost neu SMS i allu rhoi gwybod i chi a oes unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol a allai effeithio ar Barhad eich Busnes. Er enghraifft, digwyddiadau a allai gyfyngu ar fynediad i’n hadeilad neu systemau.

Mae angen i ni hefyd ddefnyddio’r wybodaeth i anfon negeseuon prawf atoch chi o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau bod ein Gwasanaeth yn gweithio ac yn gyfredol.

Rydym ni’n gwneud hyn er mwyn rhoi gwybod i staff am ddigwyddiad, a hynny er eu diogelwch eu hunain, ac er mwyn parhau i weithredu yn unol â’n Tasg Gyhoeddus.
 
Er mwyn anfon Rhybuddion Parhad Busnes ac e-byst prawf atoch chi, rydym ni’n defnyddio eich cyfeiriad e-bost gwaith a’ch rhif ffôn gwaith yn bennaf. Hefyd, gallwch chi roi eich rhif ffôn personol a’ch cyfeiriad e-bost personol er mwyn cael Rhybuddion Parhad Busnes i’ch dyfeisiau personol. 

Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth?

Byddwn ni’n prosesu eich gwybodaeth at y dibenion a nodir uchod yn unig tra byddwch yn gyflogedig gennym ni, a byddwn ni’n storio’r data yn unol â’n hamserlen cadw data.

Mae’r holl ddata personol sydd gennym ni wedi’i gadw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Rydym ni’n defnyddio’r gwasanaeth Notify.gov.uk, a ddarperir gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), er mwyn anfon y Rhybuddion atoch chi, ac yn unol â’r Polisi Hysbysu Preifatrwydd.

Rydym ni’n defnyddio neu’n gweithio â chontractwyr a darparwyr gwasanaethau trydydd parti eraill, fel darparwyr gwasanaethau TG, a fydd yn prosesu eich data personol ar ein rhan. Y trydydd partïon hyn yw ein proseswyr data, a dim ond ar ôl cael cyfarwyddyd gennym ni y gallant brosesu eich data personol, neu gyda’n cytundeb ni at ddiben penodol i'n galluogi ni i gynnal, gwella a darparu ein gwasanaethau er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny.

Eich hawliau

Pan fyddwch chi wedi rhoi eich manylion cyswllt personol er mwyn anfon Rhybuddion Parhad Busnes atoch chi, eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrthym a ydynt wedi newid, neu gallwch ofyn iddynt gael eu dileu ar unrhyw adeg trwy gysylltu â Resilience.Planning@food.gov.uk. Byddwn ni bob amser yn parhau i ddefnyddio eich manylion cyswllt gwaith ar gyfer y Rhybuddion tra byddwch yn gyflogedig gennym ni.

Mae gennych chi’r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy anfon cais ysgrifenedig i’r cyfeiriad e-bost isod.  Os ydych chi ar unrhyw adeg o’r farn bod yr wybodaeth rydym ni’n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i’w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i’r mater.

Os nad ydych chi’n fodlon â’n hymateb neu os ydych chi o’r farn nad ydym ni’n prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith, gallwch chi gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).