Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Archwilio Rheoleiddiol

Rhan o’n swydd ni yw gwerthuso pa mor effeithiol yw’r system rheolaethau swyddogol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I wneud hyn, rydym yn cynllunio ac yn cynnal rhaglenni archwilio ym mhob gwlad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 March 2024
Rhan o’n swydd ni yw gwerthuso pa mor effeithiol yw’r system rheolaethau swyddogol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I wneud hyn, rydym yn cynllunio ac yn cynnal rhaglenni archwilio ym mhob gwlad.

Mae’r rheolaethau swyddogol a archwilir yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau o gynhyrchu cynradd ar ffermydd, wyau, llaeth, lladd-dai, ffatrïoedd torri, bwyd anifeiliaid, pysgod cregyn a chynhyrchion pysgodfeydd, yn ogystal â’r sector manwerthu fel archfarchnadoedd, cigyddion, bwytai.

Caiff y system rheolaethau swyddogol ei gweithredu gan swyddogion gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid mewn awdurdodau cymwys gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, yr ASB ei hun, naill ai’n uniongyrchol neu drwy gontractau neu gytundebau lefel gwasanaeth gyda sefydliadau eraill fel yr Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon.

Archwiliadau â Ffowcs a rennir

Mae archwiliadau â ffocws yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar waith gorfodi awdurdodau lleol.

Asesiad Sicrwydd Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol: Y prif ganfddiadau (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) Chwefror 2023

Mae archwiliadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o awdurdodau cymwys yn rhoi sicrwydd bod y gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid a bwyd yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol y DU a chanllawiau swyddogol.

Mae awdurdodau cymwys yn cynnwys yr ASB, awdurdodau lleol, a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

Rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd awdurdodau cymwys drwy Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (ceir deddfwriaeth gyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon).

Mae ein harchwiliadau wedi’u llunio i wirio bod trefniadau a gynlluniwyd yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac i asesu a yw’r trefniadau hynny’n addas i gyflawni amcanion y gofynion a’r canllawiau cyfreithiol perthnasol. Mae ein Llawlyfr Archwilio Rheoleiddiol yn rhoi manylion am sut rydym yn cynnal yr archwiliadau hyn.

Nodau swyddogaeth archwilio rheoleiddiol yr ASB yw:

  • helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy hybu trefniadau effeithiol ar gyfer gorfodi cyfraith bwyd
  • cynnal a gwella hyder defnyddwyr yn y system a ddefnyddir ar gyfer rheolaethau swyddogol
  • cynorthwyo i nodi a lledaenu arferion da er mwyn hybu cysondeb
  • darparu gwybodaeth i helpu i lunio polisi’r ASB
  • hyrwyddo cydymffurfiaeth â chanllawiau canolog neu Godau Ymarfer
  • darparu modd o nodi tanberfformiad o ran gwaith awdurdodau cymwys o ddarparu gwasanaethau ym maes cyfraith bwyd
  • hyrwyddo archwilio rhwng awdurdodau ac adolygiadau gan gymheiriaid
  • nodi gwelliannau parhaus

Egwyddorion:

  1. Rhaid dewis pob rhaglen archwilio yn seiliedig ar broses gynllunio ddogfenedig sy’n seiliedig ar risg.
  2. Rhaid i bob rhaglen archwilio gynnwys amcanion clir.
  3. Rhaid i bob cynllun rhaglen archwilio sicrhau bod gan y tîm archwilio y cymhwysedd technegol priodol/penodol i gyflawni amcanion y rhaglen archwilio.
  4. Bydd y tîm archwilio’n cymhwyso egwyddorion gwelliant parhaus at bob rhan o’r system archwilio.
  5. Bydd y tîm archwilio’n rhagweithiol wrth ddarparu eglurder i awdurdodau cymwys (y sawl a archwilir) gan gynnwys cyfathrebu cyn pob archwiliad, a rhoi adborth yn ystod ac ar ôl yr archwiliadau.
  6. Bydd pawb sy’n destun archwiliad yn cael adroddiad ysgrifenedig sy’n nodi canfyddiadau’r archwiliad yn glir.
  7. Bydd gan y sawl a archwilir, trwy argymhellion a wneir yn yr adroddiad archwilio, ddealltwriaeth glir o’r gwelliannau sydd eu hangen a dyddiadau a gytunwyd ar gyfer rhoi’r gwelliannau ar waith trwy’r cynllun gweithredu a nodir yn eu hadroddiad archwilio.
  8. Bydd y sawl a archwilir yn cael cyfle i roi adborth ysgrifenedig ar ôl archwiliad a fydd yn cael ei gofnodi a’i adolygu’n annibynnol.
Archwilio gwaith awdurdodau lleol o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru.

Llawlyfr Archwilio

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru yn cynnal archwiliadau o awdurdodau lleol i roi sicrwydd bod y gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a chanllawiau swyddogol. Mae’r llawlyfr archwilio, ynghyd â Siarter Archwilio Rheoleiddiol yr ASB, yn dogfennu’r egwyddorion a’r prosesau y byddwn yn eu defnyddio i gynllunio, cynnal, adrodd a dilyn hynt y system ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid a bwyd yng Nghymru.

Wales

Archwiliadau â ffocws

Mae archwiliadau â ffocws yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar waith gorfodi awdurdodau lleol.

Wales

Wales

Adroddiadau archwilio a chynlluniau gweithredu

Rhestr o adroddiadau archwilio awdurdodau lleol agored a chynlluniau gweithredu ar gyfer awdurdodau yng Nghymru.

2024

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

2023

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

2017

Wales

Wales

Wales

2016

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

2015

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

2014

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

2013

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Wales

Gallwch weld holl archwiliadau awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys y rhai sydd bellach ar gau, ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Archwilio gwaith awdurdodau lleol o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid yn Lloegr.
Archwilio gwaith cynghorau dosbarth a bwrdeistrefol o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon.