Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Athro Susan Jebb wedi’i hailbenodi’n Gadeirydd yr ASB

Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb, wedi’i hailbenodi tan 31 Rhagfyr 2027.

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 November 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 November 2024
Gweld yr holl ddiweddariadau

Gallwch ddarllen yma gyhoeddiad yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn San Steffan.

Dywedodd yr Athro Jebb, sydd, ochr yn ochr â’i rôl gyda’r ASB, hefyd yn Athro Deiet ac Iechyd y Boblogaeth yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen:

Mae parhau i fod yn Gadeirydd ar sefydliad mor wych yn fraint enfawr, ac rwy’n falch o allu parhau’n Gadeirydd yr ASB ar yr adeg bwysig hon. Rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Rhydychen, sydd wedi’i gwneud yn bosib i mi aros yn y rôl.

Bydd y penodiad yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’i gymheiriaid yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.