Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Athro Susan Jebb i barhau yn Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae penodiad yr Athro Susan Jebb fel Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi’i ymestyn, ar ôl iddi nodi’n flaenorol ei bwriad i adael y rôl.

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 July 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 July 2024

Roedd tymor tair blynedd yr Athro Jebb fel Cadeirydd yr ASB i fod i ddod i ben ar 30 Mehefin 2024, ond roedd Gweinidogion Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gofyn iddi aros yn y rôl. Nid oedd digon o amser i gwblhau’r broses hon cyn yr etholiad ond mae estyniad dros dro wedi’i gytuno fel y gall gweinidogion newydd ystyried hyn.  

Dywedodd yr Athro Jebb, sydd, ochr yn ochr â’i rôl gyda’r ASB, hefyd yn Athro Deiet ac Iechyd y Boblogaeth yn Adran Gwyddorau Iechyd Gofal Sylfaenol Nuffield ym Mhrifysgol Rhydychen: 

“Mae’n parhau i fod yn fraint enfawr i fod yn Gadeirydd ar sefydliad mor wych, ac rwy’n falch cael parhau yn Gadeirydd yr ASB ar yr adeg bwysig hon. Rwy’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Rhydychen, sydd wedi’i gwneud yn bosib i mi aros yn y rôl."

Bydd y penodiad yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr a’i gymheiriaid yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.