Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhybuddio bod bariau siocled ‘Cali-Gold’ yn gwneud pobl yn sâl
Rydym yn rhybuddio pobl i beidio â bwyta bariau siocled ‘Cali-Gold’ sydd wedi bod ar werth yn ardal Swydd Nottingham.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn annog pobl i beidio â bwyta bariau siocled o’r enw 'Cali-Gold', sydd wedi bod ar werth ym Marchnad Mansfield yn Swydd Nottingham.
Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol i weld a yw’r cynnyrch hwn wedi’i ddosbarthu’n ehangach.
Mae hyn yn dilyn adroddiadau’r heddlu am achosion o salwch yn ardal Swydd Nottingham ar ôl i bobl fwyta’r cynhyrchion hyn. Mae’r heddlu wedi arestio un person mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU a Heddlu Swydd Nottingham i ymchwilio i ddigwyddiad yn dilyn adroddiadau o salwch ar ôl i bobl fwyta siocled Cali-Gold.
Os ydych chi wedi prynu siocled ‘Cali-Gold’ ym Marchnad Mansfield yn Swydd Nottingham, dyma eich cynghori i beidio â bwyta’r cynnyrch a chael gwared arno gartref. Os ydych chi eisoes wedi ei fwyta ac wedi mynd yn sâl, dylech geisio sylw meddygol ar frys.