Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio strategaeth bum mlynedd newydd
Mae’r cynllun pum mlynedd yn cynnwys pwyslais newydd ar wneud bwyd yn iachus ac yn fwy cynaliadwy
Heddiw mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer gwella bwyd dros y pum mlynedd nesaf ac wedi ailymrwymo i’w chenhadaeth, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo.
Mae’r strategaeth bum mlynedd yn adlewyrchu cyfrifoldebau pellach yr ASB nawr bod y Deyrnas Unedig (DU) wedi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac mae’n ystyried y pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd am iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Meddai’r Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:
“Dau ddegawd ers ei sefydlu, mae’r ASB wedi datblygu enw da am sicrhau bod bwyd yn ddiogel. Mae’n rhaid i hyn barhau. Nawr yw’r amser iawn hefyd i’r ASB gyfrannu at ymdrechion ehangach y llywodraeth i fynd i’r afael â chlefydau sy’n gysylltiedig â deiet a newid yn yr hinsawdd, gan gadw bwyd yn fforddiadwy ar yr un pryd. Mae ein strategaeth bum mlynedd yn arwydd o'n bwriad i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill yn y system fwyd i sicrhau bwyd iachusach a mwy cynaliadwy. Trwy hyn oll byddwn yn parhau i gynnal buddiannau defnyddwyr fel y gallwn i gyd fwynhau bwyd y gallwn ymddiried ynddo."
Meddai Emily Miles, Prif Weithredwr yr ASB:
“Mae ymadael â’r UE wedi newid rôl yr ASB. Rydym ni wedi ymgymryd â swyddogaethau newydd, fel cymeradwyo mathau newydd o fwyd sy’n mynd ar werth yma a gosod rheolau ar gyfer gwirio bwyd wedi’i fewnforio. Heddiw felly mae’r ASB yn chwarae rhan bwysicach nag erioed wrth gefnogi llywodraethau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar faterion sy’n ymwneud â bwyd. Mae’r strategaeth yn ein hymrwymo i roi buddiannau defnyddwyr wrth wraidd ein gwaith fel bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, yn ogystal â bod yn iachusach ac yn fwy cynaliadwy.”
Mae’r strategaeth newydd yn nodi sut y bydd yr ASB yn parhau i arwain y ffordd o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd dros y pum mlynedd nesaf, fel y gall defnyddwyr fod yn hyderus bod y bwyd y maent yn ei brynu yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae hefyd yn arwydd o barodrwydd yr ASB i gefnogi llywodraethau i wella iechyd y genedl ac i ofalu am y blaned.