Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn diweddaru meysydd o ddiddordeb ymchwil

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi diweddaru ei meysydd o ddiddordeb ymchwil i gynnwys ffocws ar fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 September 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 September 2022

Mae meysydd o ddiddordeb yn ffordd i adrannau’r llywodraeth fynegi diddordeb mewn gweld mwy o dystiolaeth ymchwil ar gyfer rhai pynciau. Wrth nodi rhai o’r meysydd allweddol lle byddem yn croesawu mwy o ymchwil, ein nod yw helpu i lywio strategaeth ymchwil ac arloesi’r Deyrnas Unedig ac awgrymu meysydd ymchwilio i’r gymuned ymchwil ehangach. 

Rydym wedi ychwanegu pedwar maes o ddiddordeb ymchwil newydd sy’n adlewyrchu’r blaenoriaethau diweddaraf yn ein strategaeth ar gyfer 2022-2027, sef bod bwyd yn ddiogel; bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label; a bod bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys adolygu’r themâu ymchwil cyffredinol ac ychwanegu’r pedwar maes o ddiddordeb ymchwil newydd.

Meddai’r Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol, yr ASB:

Mae dull cryf, gwyddonol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi bod yn ganolog i’n cenhadaeth, a bydd yn parhau felly, sef sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a rhoi grym i ddefnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus mewn perthynas â bwyd.

Mae rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau ymchwil a meysydd o ddiddordeb ymchwil ar gael ar ein gwefan.