Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2021/22
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon cyfunol ar gyfer Cymru, San Steffan, a Gogledd Iwerddon ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae’r rhain yn amlinellu ein perfformiad a’n gweithgareddau yn 2021/22 ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a hynny am gost net o £130.5 miliwn.
Yn ei rhagair i’r adroddiad, ysgrifennodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr ASB:
‘Rwy’n croesawu’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ac yn falch o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt yn flaenorol gan Fwrdd yr ASB. Rhaid cydnabod y gwaith a aeth rhagddo trwy gydol y flwyddyn i reoli effaith COVID-19 a’r Ymadawiad â’r UE, ond mae hefyd wedi bod yn braf gweld pwyslais cynyddol ar yr adferiad yn sgil y pandemig, a’r Asiantaeth yn addasu i’w rôl ehangach yn dilyn yr Ymadawiad â’r UE. Mae gwaith parhaus mewn meysydd sy’n amrywio o orsensitifrwydd i fwyd i ddiwygio rheoleiddio, a buddsoddiad pellach mewn gwyddoniaeth ac ymchwil, yn bethau i’w croesawu.’
Yn ei rhagair, eglurodd y Prif Weithredwr, Emily Miles, fod yr ASB y llynedd wedi cymryd cyfrifoldeb am lawer o’r swyddogaethau dadansoddi risg a gyflawnwyd yn flaenorol gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, gan fynd rhagddynt â 428 o geisiadau byw am gynhyrchion rheoleiddiedig, a darparu asesiadau risg a chyngor ar nifer o bynciau. Eglurodd Emily Miles hefyd:
‘Rydym hefyd wedi symud ymlaen â diwygiadau ac wedi parhau â’n cyfrifoldebau rheoleiddio allweddol, o ddosbarthu gwelyau pysgod cregyn i gynnal arolygiadau hylendid cig, i ymchwilio i’r enghreifftiau mwyaf echrydus o dwyll bwyd. Gwelsom hefyd gynnydd o 21% yn nifer yr hysbysiadau am ddigwyddiadau bwyd yn ystod y cyfnod adrodd.'
Darllenwch yr adroddiad llawn i ddarganfod rhagor am ein gweithgareddau a’n perfformiad yn ystod 2021/22, yn ogystal â’n pwrpas, ein prif swyddogaethau a’n gweledigaeth.
Ein blwyddyn mewn rhifau
Roedd gweithgarwch a pherfformiad ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cynnwys y canlynol.
Hylendid a safonau
- Agweddau'r cyhoedd – dywedodd 75% eu bod yn ymddiried yn yr ASB i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
- Clefydau a gludir gan fwyd – dyma’r achosion a gadarnhawyd gan labordy yn y DU fesul 100,000 o’r boblogaeth yn 2021 (footnote 1): Campylobacter 101.9, Salmonela 8.8, E.coli sy’n cynhyrchu tocsin Shiga 0.89, Listeria monocytogenes 0.28.
- Cyfanswm ein gwariant ar wyddoniaeth ac ymchwil: £16.6 miliwn.
- Roedd 98.9% o weithredwyr busnesau bwyd cig wedi cael sgôr ‘Da’ neu ‘Boddhaol ar y cyfan’ am gydymffurfiaeth.
Cyflawni
- Digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid – 2,336 o ddigwyddiadau bwyd, bwyd anifeiliaid a halogi amgylcheddol.
- Lles anifeiliaid – arolygwyd 1,036,098,739 o anifeiliaid. Roedd 99%+ o ladd-dai’n cydymffurfio â deddfwriaeth lles anifeiliaid.
- Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) – collfarn gyntaf yn dilyn ymchwiliad a arweiniwyd gan yr NFCU.
- Maeth: Gogledd Iwerddon – cynnydd o 63% yn nifer y ryseitiau a ychwanegwyd at MenuCal.
Ein pobl
- Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil – Sgôr mynegai ymgysylltu â gweithwyr o 68%.
Hanes diwygio
Published: 15 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Ionawr 2023