Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi Canllawiau Anifeiliaid Hela Gwyllt wedi’u diweddaru
Mae Canllawiau Anifeiliaid Hela Gwyllt yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi’u diwygio yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a’r angen i roi eglurhad ar reoliadau yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir.
Mae’r ASB wedi cyhoeddi Canllawiau Anifeiliaid Hela Gwyllt diwygiedig ar ôl cael adborth sylweddol yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus ar fersiwn flaenorol y canllawiau. Nid yw’r canllawiau wedi’u diweddaru ers 2015.
Mae’r canllawiau ar gyfer cynhyrchwyr cynradd, helwyr, gweithredwyr busnesau bwyd, manwerthwyr a swyddogion gorfodi ac yn cwmpasu trin, paratoi a chyflenwi anifeiliaid hela gwyllt a helgig gwyllt yn ddiogel. Maent yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cyhoeddodd Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ganllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer yr Alban ym mis Rhagfyr 2021.
Meddai Natalie Sampson, Pennaeth Gwasanaethau Cynghori Milfeddygol a Pholisi Hylendid Cig:
“Mae ein canllawiau diwygiedig yn adeiladu ar sylfaen ein canllawiau blaenorol, gan adlewyrchu’r adborth helaeth a gawsom i’r ymgynghoriad. Mae’n sicrhau ein hymrwymiad i gefnogi arferion gorau o ran gofynion diogelwch a hylendid bwyd sy’n gymwys yn yr amryw sefyllfaoedd lle bo anifeiliaid hela gwyllt (wild game) yn cael eu hela a’u cyflenwi i’w bwyta gan bobl. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gyfrannu at yr adolygiad hwn.”
Bydd y canllawiau’n cael eu hadolygu eto ym mis Gorffennaf 2023.