Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi’r ymgyrch ‘Codi Ymwybyddiaeth, Atal Ymwrthedd’
Mae heddiw yn nodi diwrnod olaf Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthfiotig y Byd (WAAW) 2021. Nod yr ymgyrch yw cynyddu ymwybyddiaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd byd-eang, ac annog arfer gorau ymhlith y cyhoedd, gweithwyr iechyd a llunwyr polisi.
Ystyr sylwedd gwrthficrobaidd yw unrhyw sylwedd sy’n lladd neu’n atal twf micro-organebau, fel cyffuriau gwrthfiotig a ddefnyddir i drin heintiau bacteriol mewn pobl ac anifeiliaid.
Pan fydd bacteria’n newid ac yn dod o hyd i ffyrdd o oroesi effeithiau sylweddau gwrthficrobaidd, gelwir hyn yn ‘ymwrthedd gwrthficrobaidd’ (AMR). Po fwyaf yw'r defnydd o sylweddau gwrthficrobaidd a gwrthfiotigau, y mwyaf tebygol y bydd bacteria’n gallu ymwrthod.
Mae hyn yn bryder enfawr oherwydd gall arwain at heintiau sy’n anoddach eu trin â chyffuriau ac mae’n peri risg i iechyd y cyhoedd.
Thema WAAW eleni yw ‘Codi Ymwybyddiaeth, Atal Ymwrthedd’, a’i nod yw annog rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd i fod yn hyrwyddwyr Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR).
Yn y cyfamser, mae mynd i’r afael ag AMR yn flaenoriaeth strategol genedlaethol ar gyfer Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) sydd wedi arwain at ddatblygu gweledigaeth 20 mlynedd newydd ar gyfer AMR, a’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol 5 mlynedd, sydd ar waith tan 2024.
Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn cynnwys adran benodol ar bwysigrwydd diogelwch bwyd gwell er mwyn cyfyngu ar halogi bwydydd a lledaenu AMR, gyda phwyslais ar gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer AMR a diogelwch bwyd trwy ymchwil, cadw gwyliadwriaeth a hyrwyddo arfer da ar draws y gadwyn fwyd.
Yn ystod WAAW, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi adroddiadau ar faich genynnau AMR mewn bwydydd parod i'w bwyta penodol, a’r arolwg diweddaraf o AMR mewn E.coli mewn cigoedd a fanwerthir yn y DU.
Yn y cyfamser, mae’r ASB wedi cyhoeddi blog yn adrodd stori rhaglen draws-lywodraethol newydd er mwyn olrhain pathogenau a gludir gan fwyd a microbau ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) ym mhedair gwlad y DU.