Yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhannu ymchwil ar ymddygiadau myfyrwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd mewn ceginau a rennir
Mae myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd cynnal glendid mewn ceginau a rennir, gyda llawer o fyfyrwyr yn peidio â dilyn yr ymddygiadau diogelwch a hylendid bwyd a argymhellir, gan roi eu hunain mewn perygl o ddioddef o wenwyn bwyd.
Mae ein hymchwil yn tynnu sylw at nifer o ymddygiadau sy’n peryglu iechyd myfyrwyr. Mae’n peri pryder bod 54 % o fyfyrwyr yn dal i olchi cyw iâr amrwd, ac nid yw traean ohonynt bob amser yn golchi eu dwylo ar ôl trin cig. Dywedodd bron i 4 o bob 10 myfyriwr eu bod wedi cael bwyd o finiau neu ardal wastraff archfarchnad neu siop. Yn ogystal, dywedodd tua dwy ran o dair (65%) o fyfyrwyr fod eu hoergell yn cynnwys bwyd a oedd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’.
Os nad yw myfyrwyr yn sicr am farciau dyddiad ar ddeunydd pecynnu bwyd, dylent ddarllen ein canllawiau ar ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’. Gallwch ddarllen yr adroddiad ymchwil llawn ar ymddygiadau myfyrwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd mewn ceginau a rennir: Archwilio ymddygiadau myfyrwyr y DU mewn perthynas â bwyd – Canfyddiadau dros dro (Saesneg yn unig).
Yn ôl yr adroddiad, mae 44% o’r ymatebwyr a gymerodd ran yn yr astudiaeth wedi’u hystyried fel rhai sydd â diffyg diogeledd bwyd, sy’n uwch na’r ystadegyn cenedlaethol diweddaraf o’r arolwg Bwyd a Chi 2, sef 18% ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae ein canllawiau ar hylendid bwyd yn cynnwys gwybodaeth sy’n benodol i fyfyrwyr sy’n rhannu ceginau, ac mae’n cynnig arferion gorau mewn perthynas ag oergelloedd a rennir fel rhewi a dadmer eich bwyd. Mae’n bwysig bod myfyrwyr yn mabwysiadu ymddygiadau da mewn perthynas â diogelwch bwyd o’r cychwyn cyntaf. Ewch ati i ddarllen ein canllawiau i fyfyrwyr ar ddiogelwch hylendid bwyd.