Yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban yn lansio system newydd ar gyfer gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd a Safonau Bwyd yr Alban wedi cyhoeddi system newydd ar gyfer Cynhyrchion Rheoleiddiedig.
Ar 20 Mehefin 2023, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn lansio system newydd i fusnesau wneud ceisiadau am Gynhyrchion Rheoleiddiedig, sef mathau penodol o gynhwysion bwyd a bwyd anifeiliaid y mae angen eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU.
Bydd y system newydd, fwy effeithlon yn helpu busnesau i ddilyn y weithdrefn gywir wrth sicrhau’r awdurdodiad angenrheidiol i werthu bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig. Dyluniwyd y system newydd i’w gwneud yn haws i’r ymgeiswyr ddeall pa wybodaeth sydd ei hangen i gyflwyno cais cyflawn o ansawdd da ar gyfer eu cynnyrch. Bydd y system yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau newydd a busnesau nad ydynt fel arfer yn cydnabod eu hunain fel busnesau bwyd neu fwyd anifeiliaid, fel egin fusnesau (‘start-ups’).
Bydd ymgeiswyr yn cael rhestr wirio o’r hyn sydd ei angen. Bydd ganddynt fwy o amser i uwchlwytho a chwblhau’r cais a’r deunydd ategol, a byddant yn gallu gweld cynnydd eu cais. Byddant hefyd yn cael diweddariadau rheolaidd y gallant ymateb iddynt. Yn ogystal, bydd y system yn cefnogi ceisiadau adnewyddu, ond ni fydd yn effeithio ar geisiadau sydd eisoes ar y gweill ar y system flaenorol.
Dywedodd Sarah Houghton, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Rheoleiddio’r ASB:
Y tu hwnt i’r cynlluniau gwella parhaus ar gyfer y system bresennol, mae’r ASB ac FSS hefyd yn mynd ati i ddilyn rhaglen ddiwygio lawer ehangach yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys archwilio ffyrdd y gallwn symleiddio’r broses reoleiddio, ac mae’r ASB yn datblygu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u bridio’n fanwl. Yn gynharach eleni, gwnaethom gwblhau adolygiad allanol o’r fframwaith rheoleiddio bwydydd newydd i nodi cyfleoedd posib ar gyfer diwygiadau yn y sector hwn sy’n tyfu, a gellir darllen crynodeb gweithredol yma nawr.