Yr ASB yn ymgynghori ynghylch cyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ymgynghoriad heddiw ar gyflwyno newidiadau i ofynion oeri cig ac offal Qurbani a gyflenwir gan ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha.
Mae'n well gan rai Mwslimiaid gasglu eu cig ac offal Qurbani cyn gynted â phosib ar ôl lladd yr anifail gan fod hyn yn nodi dechrau'r ŵyl. Mae yna fframwaith cyfreithiol clir ar waith o safbwynt hylendid, sy'n cynnwys y gofynion oeri ar gyfer cig ac offal. Er parchu bod Qurbani yn arfer crefyddol, nid yw casglu’r cig ac offal cyn eu hoeri’n llawn yn cyd-fynd ar hyn o bryd â fframwaith rheoleiddio’r ASB.
Gofynnodd cynrychiolwyr y diwydiant i'r ASB archwilio dulliau amgen o gyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha ac, o bosib, adolygu'r fframwaith deddfwriaethol cyfredol.
Mae dull gweithredu newydd arfaethedig yn adeiladu ar y datganiad ar y cyd gan Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth Qurbani (QPWG SG) a gwaith ymgysylltu parhaus yr ASB â'r grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd hyn yn cynnwys cynhyrchu Asesiad Risg ar gyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol.
Mae’r ASB bellach yn ymgynghori gan geisio safbwyntiau ar y cynigion hyn. Gwahoddir rhanddeiliaid yng Nghymru a Lloegr i ymateb i’r ymgynghoriad deuddeg wythnos.
Bydd yr ASB yn gwerthuso’r ymatebion, ac, yn ddibynnol ar y canlyniad, gallai fod ymgynghoriad pellach i ganolbwyntio ar weithredu. Mae’r dull dau gam hwn yn galluogi ymgysylltu a chyfrannu trylwyr gan randdeiliaid trwy gydol y broses.
Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Mae’n bwysig cydnabod bod Qurbani yn weithred o arwyddocâd crefyddol i'r gymuned Fwslimaidd, a bod rhaid ei pharchu. Dylai cig Qurbani fod ar gael i ddefnyddwyr sy’n dymuno ei baratoi a’i fwyta. Mae’r ymgynghoriad hwn a’n deialog gydag awdurdodau yn y gymuned Fwslimaidd yn ehangu’r drafodaeth er mwyn sicrhau bod yr arfer hwn yn gallu parhau gan hefyd ddarparu’r safonau diogelwch a hylendid bwyd uchaf posib i ddiogelu defnyddwyr.”
I gael gwybod rhagor, ewch i'r canllawiau ymgynghori.