Yr ASB yn penodi dau fusnes i gyflenwi arolygwyr a milfeddygon ar gyfer arolygu cig yn y dyfodol
Yn dilyn proses gaffael gynhwysfawr, yn ogystal â gwaith ymgysylltu helaeth â’r diwydiant a rhanddeiliaid, mae Eville and Jones a Hallmark Meat Hygiene ill dau wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus i gyflenwi milfeddygon ac arolygwyr cig ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol mewn ffatrïoedd cig.
Bydd Eville and Jones yn cynnal rheolaethau swyddogol yn Lotiau 1 i 3, 5 i 7 a 9, tra bydd Hallmark Meat Hygiene yn arwain consortiwm a fydd yn cynnal rheolaethau swyddogol yn Lot 4 a Lot 8.
Bydd y contractau’n cael eu dyfarnu’n swyddogol ar 4 Tachwedd, a byddant yn sicrhau cyflenwad parhaus o filfeddygon (a elwir yn Filfeddygon Swyddogol) ac Arolygwyr Hylendid Cig (a elwir yn Swyddogion Cynorthwyol). Byddant yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal rheolaethau swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Mae milfeddygon ac arolygwyr hylendid cig yn gweithio gyda’i gilydd mewn lladd-dai i sicrhau lefelau uchel o les anifeiliaid, ac i fonitro prosesu hyd at yr adeg pan fydd cig yn gadael y safle, gan ddechrau ar ei daith i’r defnyddiwr. Mae’r mesurau diogelu hyn yn rhan hanfodol o gadw bwyd y genedl yn ddiogel.
"Rydym wedi cyrraedd cam olaf ein proses gaffael drylwyr, ac mae’n bleser gennyf gyhoeddi canlyniad ymarfer aildendro ar gyfer rheolaethau swyddogol. Dyma gadarnhau mai Eville and Jones a Hallmark Meat Hygiene yw’r cynigwyr a ffefrir.
“Rwyf o’r farn y bydd y canlyniad hwn yn cynyddu ein gwydnwch, ein gallu i ddarparu gwasanaethau, a’r potensial ar gyfer arloesi wrth reoleiddio’r system fwyd, gan ddarparu gwerth am arian ar yr un pryd. Ffactor allweddol wrth benderfynu ar y canlyniad oedd ein dyhead i sicrhau bod busnesau bwyd a rhanddeiliaid yn gallu ymddiried yn llawn ynom i gynnal safonau uchel wrth gynnal rheolaethau swyddogol mewn ffatrïoedd cig.”
Bydd cyfnod segur o ddeg diwrnod cyn i’r ASB ymrwymo i unrhyw gontract gyda’r tendrwyr llwyddiannus, a hynny yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu o dan y contractau newydd o 31 Mawrth 2025.