Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn cymeradwyo cymhwyster Cymhwysedd Proffesiynol mewn Bwyd Anifeiliaid

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cymeradwyo llwybr cymhwyso newydd ar gyfer y rhai sydd am ddechrau neu ddatblygu eu gyrfa ym maes rheoleiddio bwyd anifeiliaid a rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid.

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 September 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 September 2024

Mae’r ASB, mewn partneriaeth â’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI) yn cymeradwyo’r cymhwyster Cymhwysedd Proffesiynol mewn Bwyd Anifeiliaid sy’n ymdrin â’r gofynion cyfreithiol mewn perthynas â bwyd anifeiliaid ar bob cam, gan gynnwys cynhyrchu cynradd, gweithgynhyrchu a dosbarthu, ochr yn ochr â'r fframwaith ar gyfer y rheoliadau rheolaethau swyddogol sy'n llywodraethu iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd. 

Mae’r cwrs yn para chwe mis ac yn cynnwys cymysgedd o addysgu ar-lein, diwrnodau hyfforddi a diwrnodau asesu. Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer ymgeiswyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. 

Dywedodd Karen McCloskey, Pennaeth Safonau Cyflawni yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 

‘Bydd y cymhwyster galwedigaethol newydd hwn yn helpu i hybu nifer y swyddogion hyfforddedig sydd ar gael i gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid. 

‘Rydym yn chwilio’n barhaus am gyfleoedd i gefnogi llwybrau newydd, hyblyg a chynhwysol at y maes rheoleiddio bwyd a bwyd anifeiliaid, a fydd yn helpu i gynnal cyflenwad o swyddogion a fydd yn gweithio i gadw bwyd a bwyd anifeiliaid yn ddiogel, a gwneud yn siŵr bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. 

‘Hoffwn ddiolch i’r CTSI, ei bartneriaid awdurdod lleol a phawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r cymhwyster hwn, am eu hymroddiad i gynnal safonau proffesiynol uchel yn y sector.’

Dywedodd John Herriman, Prif Weithredwr y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI): 

‘Mae CTSI yn falch ein bod wedi gallu gweithio gyda’r ASB i gyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd a fydd yn caniatáu i bobl ennill cymhwysedd bwyd anifeiliaid drwy gymhwyster annibynnol. Mae’n bleser gallu ychwanegu’r elfen newydd hon o hyblygrwydd i gyflwyno mwy o bobl i’r swyddogaeth reoleiddiol bwysig hon. Rydym yn falch iawn o gyflwyno’r cymhwyster hwn ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr newydd i’r cymhwysedd bwyd anifeiliaid. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r ASB ar gymhwyster cyfatebol mewn cymhwysedd bwyd dros y flwyddyn nesaf.’