Yr ASB yn cyhoeddi ymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwygiad arfaethedig i ddeddfwriaeth pryfed bwytadwy
Bydd cynlluniau a amlinellwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i roi eglurder i'r diwydiant pryfed bwytadwy yn cael eu datblygu yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae’r cynnig yn ymwneud â gwneud newidiadau cyfreithiol angenrheidiol i gyfraith yr UE a ddargedwir fel y gall pryfed bwytadwy y caniatawyd iddynt aros ar farchnad yr UE ar ôl i newidiadau gael eu cymhwyso at y rheoliadau bwydydd newydd yn 2018 barhau i aros ar y farchnad ym Mhrydain Fawr wrth iddynt fynd trwy'r broses awdurdodi bwydydd newydd. Os cytunir arnynt gan y Senedd, bydd y newidiadau cyfreithiol yn dod i rym erbyn 31 Rhagfyr 2022.
Pan ymadawodd y DU â’r UE, ni chafodd y mesurau pontio a osodwyd yn 2018 mewn perthynas â bwydydd newydd, gan gynnwys pryfed bwytadwy, eu diwygio i’w gwneud hi’n ofynnol i fusnesau gyflwyno ceisiadau am awdurdodiad i reoleiddwyr ym Mhrydain Fawr, sy’n angenrheidiol er mwyn i bryfed gael eu cymeradwyo ar gyfer marchnad Prydain Fawr.
Diben yr ymgynghoriad oedd rhoi eglurder i fusnesau sydd wedi’u heffeithio gan yr ansicrwydd o ran pryfed sydd i’w bwyta gan bobl ers diwedd mis Rhagfyr 2020.
Cafwyd ymatebion gan aelodau’r cyhoedd i’r ymgynghoriad, a chan ystod o sefydliadau, gan gynnwys busnesau bwyd a grwpiau sy’n cynrychioli’r diwydiant pryfed bwytadwy a phroteinau amgen. Roedd sylwadau ar fanylion y newid technegol a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad yn gefnogol ar y cyfan.
Bydd y diwygiad hwn yn rhoi eglurder o ran pa gynhyrchion pryfed bwytadwy a gaiff aros ar y farchnad, a pha gamau y mae'n rhaid i fusnesau eu cymryd i allu parhau i farchnata eu cynhyrchion wrth symud ymlaen trwy broses awdurdodi bwydydd newydd Prydain Fawr.
Mae'r ASB yn comisiynu adolygiad allanol o'r ddeddfwriaeth bwydydd newydd er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-weddu orau ag y gall â marchnad Prydain Fawr. Mae’r adolygiad hwn yn cyd-fynd ag amcanion Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygio a Dirymu) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Bydd yr adolygiad yn llywio cynigion ar gyfer rheoleiddio bwydydd newydd yn y dyfodol mewn modd sy’n gosod y defnyddiwr yn gyntaf.
Mae’r ddogfen ymatebion i’r ymgynghoriad i’w gweld ar wefan yr ASB.