Yr ASB ac FSS yn cyhoeddi canllawiau ar gaffein mewn atchwanegiadau bwyd
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cyhoeddi canllawiau ar gaffein mewn atchwanegiadau i hyrwyddo bwyta a gweithgynhyrchu'n ddiogel atchwanegiadau bwyd sy'n cynnwys lefelau uchel o gaffein.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) yn cynghori defnyddwyr i ystyried faint o gaffein y maent yn ei gael wrth ddefnyddio atchwanegiadau bwyd. Dylid cyfrifo atchwanegiadau sy’n cynnwys caffein ochr yn ochr â ffynonellau eraill o gaffein, fel coffi, te a diodydd egni. Mae hyn oherwydd ei fod yn annhebygol y byddai hyd at 400mg o gaffein y dydd yn achosi effeithiau andwyol mewn oedolion. Argymhellir na ddylai menywod beichiog gael mwy na 200mg y dydd.
Lluniwyd y canllawiau yn dilyn achos yn y DU lle bu farw dyn ar ôl camgyfrifo faint o bowdr caffein yr oedd i fod i’w ddefnyddio. Roedd y dos a gymerodd gyfwerth â hyd at 200 paned o goffi. Cynhaliwyd arolwg hefyd a oedd yn dangos bod llai na hanner y bobl a holwyd yn edrych am gyfarwyddiadau ynghylch dosau ar atchwanegiadau, gydag 20% o’r ymatebwyr yn dweud nad ydynt yn darllen y label. Datgelodd ymchwil i agweddau defnyddwyr tuag at atchwanegiadau hefyd fod gan lawer o ddefnyddwyr wybodaeth gyfyngedig neu ddim gwybodaeth o gwbl am gaffein mewn atchwanegiadau bwyd.
Mae’r ASB ac FSS wedi gweithio gydag adrannau eraill o’r llywodraeth sydd â chylch gwaith ym maes atchwanegiadau i grynhoi’r wybodaeth sydd ar gael i ddefnyddwyr a busnesau ar hyn o bryd a’i chyhoeddi ar food.gov fel ei bod yn haws cael gafael arni.
Gall lefelau uchel iawn o gaffein achosi gorbryder, diffyg cwsg, cynnwrf, crychguriadau’r galon, dolur rhydd ac anesmwythder. Gall hefyd waethygu symptomau seicosis mewn unigolion â chyflwr iechyd meddwl. Gall yr effeithiau hyn fod yn fwy difrifol mewn unigolion sy’n sensitif i gaffein neu sydd â phroblemau iechyd isorweddol, fel clefyd y galon neu bwysedd gwaed uchel.
‘Er bod caffein i’w gael yn naturiol mewn llawer o gynhyrchion bwyd, mae gennym dystiolaeth nad yw pobl yn ymwybodol o’r lefelau uwch o gaffein mewn rhai atchwanegiadau a’r risg y gall hyn ei hachosi. Gall atchwanegiadau caffein pur a chrynodedig iawn fel powdr caffein fod yn hynod o gryf, felly dylech bob amser ddilyn y cyfarwyddiadau ar y label o ran dosau a defnyddio offer mesur priodol i wneud yn siŵr bod y dos yn gywir.
‘Os yw pobl yn profi sgil-effeithiau o gaffein, fel diffyg cwsg a chynnwrf, dylent ystyried faint o gaffein y maent yn ei gael o atchwanegiadau yn ogystal â rhannau eraill o’u deiet. Rydym hefyd yn argymell na ddylai menywod beichiog gael mwy na 200mg y dydd o gaffein (sy’n cyfateb yn fras i ddau fẁg o goffi parod neu un mẁg o goffi hidl). Dylent hefyd wirio’r label i weld a oes rhybudd yn nodi y gallai’r cynnyrch fod yn anaddas.
‘Rydym hefyd yn atgoffa busnesau o’u cyfrifoldeb i ddarparu bwyd diogel a chydymffurfio â gofynion labelu a chyfansoddiad bwyd, fel y bydd gan ddefnyddwyr wybodaeth i’w helpu i wneud dewisiadau gwybodus am yr hyn y maent yn ei fwyta.’
Yn aml, gall lefelau’r caffein sy’n cael ei ychwanegu at atchwanegiadau bwyd, yn enwedig powdr caffein pur, fod yn uwch o lawer na’r lefelau hynny a geir mewn cynhyrchion eraill, fel coffi neu rai diodydd egni.
Mae busnesau sy’n gweithgynhyrchu atchwanegiadau hefyd yn cael eu hatgoffa o’r gofynion o ran labelu a chyfansoddiad, fel gosod rhybuddion ar gynhyrchion sydd â dos uwch o gaffein nad ydynt yn addas i blant na menywod beichiog.
Mae ein cyngor i ddefnyddwyr a chyngor i fusnesau ar gael ar ein gwefan.
Hanes diwygio
Published: 25 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Medi 2024