Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Y rhan fwyaf o fusnesau’n colli’r cyfle i hyrwyddo eu sgôr hylendid bwyd ar-lein

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn lansio ymgyrch i annog busnesau i arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar-lein. Daw’r ymgyrch wrth i ymchwil newydd gan yr ASB ddangos mai lleiafrif bach yn unig o fusnesau sy’n arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar-lein, a hynny er gwaetha’r defnydd eang o Facebook, Instagram a gwefannau lle mae modd archebu ar-lein.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 September 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 September 2024

Dangosodd yr ymchwil mai dim ond tua un o bob 10 busnes oedd yn arddangos sgôr hylendid bwyd ar-lein, er gwaethaf barn gyffredin bod arddangos sgôr yn arwain at fwy o gwsmeriaid.

Mae canllawiau ar arddangos ar-lein, delweddau am ddim ac adnoddau eraill ar gael i fusnesau i’w helpu i arddangos eu sgôr hylendid bwyd ar eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol.

‘Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr eisiau i fusnesau sydd â chyfleuster archebu bwyd ar-lein arddangos eu sgôr hylendid bwyd mewn man amlwg er mwyn iddynt ei gweld cyn archebu bwyd. Mae gennym safonau uchel o ran hylendid bwyd yn y DU, ond nid yw llawer o fusnesau’n arddangos eu sgôr ar-lein, gan golli’r cyfle i ddangos i’w cwsmeriaid eu bod yn cymryd hylendid bwyd o ddifrif. 

‘Mae busnesau’n gweithio’n galed i ennill sgôr hylendid dda, felly rydym eisiau ei gwneud hi’n syml iddynt rannu sgoriau ar-lein. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar arddangos sgoriau ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cynnig adnoddau am ddim i helpu busnesau i ychwanegu eu sgôr at eu gwefannau. 

‘Mae arddangos sgôr hylendid ar-lein yn gwneud synnwyr busnes da, ac mae’n codi hyder defnyddwyr os ydynt yn gallu gweld y sgôr hylendid yn glir wrth archebu eu bwyd.’

Jesse Williams, Pennaeth y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r ymchwil ddiweddaraf, a gyhoeddwyd heddiw, yn cynnwys canlyniadau’r arolwg blynyddol ac archwiliad o gyfraddau arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), yn ogystal ag ymchwil ansoddol ar anghenion defnyddwyr mewn perthynas â sgoriau hylendid bwyd wrth archebu bwyd ar-lein. Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:

  • Y llwyfan ar-lein a ddefnyddiwyd fwyaf gan fusnesau oedd Facebook: Cymru (67%), Lloegr (67%) a Gogledd Iwerddon (69%). Roedd gan tua thraean o fusnesau broffil Instagram (Cymru 30%; Lloegr 36%; Gogledd Iwerddon 35%) ac roedd gan tua chwarter wefan â chyfleusterau archebu ar-lein (Cymru 24%; Lloegr 27%; Gogledd Iwerddon 24%).
  • Er gwaethaf defnydd eang o Facebook, Instagram a gwefannau â chyfleusterau archebu bwyd ar-lein, gwelwyd mai dim ond lleiafrif bach o fusnesau oedd yn arddangos sgôr CSHB ar y llwyfannau hyn yn ystod yr archwiliad: 8% yng Nghymru, 10% yn Lloegr a 5% yng Ngogledd Iwerddon.
  • Roedd tua dwy ran o dair o’r busnesau a arolygwyd yn cytuno bod arddangos sgôr hylendid bwyd yn arwain at fwy o gwsmeriaid (Cymru: 65%; Lloegr: 73%; Gogledd Iwerddon: 66%).
  • Roedd cytundeb eang bod busnesau â sgoriau da yn ddeniadol i gwsmeriaid (Cymru: 90%; Lloegr: 96%; Gogledd Iwerddon: 91%) a bod arddangos sgôr yn gwella enw da busnes (Cymru 88%; Lloegr 95%; Gogledd Iwerddon 91%).

Mae pob busnes bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu harolygu ac yn cael sgôr hylendid bwyd gan eu hawdurdod lleol. Nid yw’n orfodol arddangos sgôr hylendid ar-lein, ond anogir busnesau’n gryf i arddangos sgôr ar-lein fel rhan o wefan busnes neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol.