Y Goruchaf Lys yn gwrthod achos yn erbyn yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae’r Goruchaf Lys wedi gwrthod achos cyfreithiol 7 mlynedd yn erbyn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gan Cleveland Meat Company Limited (CMC) a Chymdeithas y Cyflenwyr Cig Annibynnol (AIMS).
Mae’r Goruchaf Lys wedi gwrthod achos cyfreithiol 7 mlynedd yn erbyn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) gan Cleveland Meat Company Limited (CMC) a Chymdeithas y Cyflenwyr Cig Annibynnol (AIMS).
Yr Anghydfod
Roedd yr achos yn ymwneud ag anghydfod ym mis Medi 2014, lle cafodd tarw ei ladd yn lladd-dy CMC. Cynhaliodd Milfeddyg Swyddogol yr ASB wiriadau ante-mortem cychwynnol ar yr anifail ac ni chanfuwyd dim o’i le. Fodd bynnag, yn ystod yr archwiliad post-mortem, gwelodd Arolygydd Hylendid Cig (MHI) 3 chrawniad yn y carcas a oedd yn awgrymu bod yr anifail yn dioddef o fath o wenwyn gwaed (pyaemia). Datganodd y Milfeddyg Swyddogol felly fod y carcas yn anaddas i'w fwyta gan bobl.
Roedd y cwmni'n anghytuno â'r penderfyniad hwn, ac aeth ati i benodi ei filfeddyg ei hun. Daeth y milfeddyg hwn i gasgliad gwahanol. Honnodd CMC ac AIMS felly y dylai fod hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau Milfeddygon Swyddogol, er mwyn sicrhau amddiffyniad barnwrol effeithiol i fusnesau. Gwnaethant awgrymu y dylai'r Milfeddyg Swyddogol gyflwyno Hysbysiad Cadw Bwyd o dan adran 9 Deddf Diogelwch Bwyd 1990, ond gwrthodwyd hyn.
Yr achos
Gwnaeth CMC gais am adolygiad barnwrol gerbron yr Uchel Lys er mwyn herio honiad yr ASB nad oedd yn ofynnol iddi arfer gweithdrefn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 na darparu hawl apelio fel arall.
Gwrthodwyd y cais gan yr Uchel Lys a’r Llys Apêl cyn i’r apêl gael ei chyflwyno gerbron y Goruchaf Lys. Cyfeiriodd y Goruchaf Lys gwestiynau at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (CJEU) ar hawliau apelio a chydnawsedd adran 9 Deddf Diogelwch Bwyd 1990.
Dyfarniad y Goruchaf Lys
Dyfarnodd y Goruchaf Lys, yng ngoleuni Dyfarniad Llys Cyfiawnder yr UE, fod gweithdrefn adran 9 Deddf Diogelwch Bwyd 1990 wedi’i heithrio rhag cael ei defnyddio fel hawl i apelio yn erbyn penderfyniad Milfeddygon Swyddogol ar farcio iechyd; ac er bod yn rhaid cael hawl i apelio, fod adolygiad barnwrol yn amddiffyniad effeithiol ar gyfer sicrhau iawn cyfreithiol mewn amgylchiadau o'r fath. Canfuwyd nad oedd rhinwedd i’r hawliad ac felly gwrthodwyd yr apêl.
Wrth ddyfarnu ar yr achos, dywedodd y Fonesig Hale a’r Arglwydd Sales:
“Nid oes unrhyw sylfaen gyfreithiol i honiad Cleveland Meat Company Limited bod yr ASB wedi gweithredu’n anghyfreithlon wrth wrthod gweithredu’n unol â gweithdrefn adran 9 mewn perthynas â’r [carcas hwn]; nid oes ychwaith unrhyw sail i’r gŵyn arall fod y Deyrnas Unedig wedi methu â darparu dull priodol o herio penderfyniadau a wneir gan Filfeddyg Swyddogol”.
Dywedodd Simon Tunnicliffe, Cyfarwyddwr Dros Dro Gweithrediadau yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Rydym yn croesawu penderfyniad y Goruchaf Lys i wrthod yr achos hirfaith hwn, sy’n cadarnhau mai Milfeddygon Swyddogol fydd yn penderfynu’n derfynol a yw cig yn addas i’w fwyta gan bobl ai peidio.
"Mae ein Milfeddygon Swyddogol rheng flaen yn chwarae rhan hanfodol wrth wneud penderfyniadau pwysig bob dydd sy'n helpu i ddiogelu defnyddwyr a sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label.
Mae trefniadau ar waith i gefnogi ein Milfeddygon Swyddogol i drafod achosion cymhleth cyn iddynt wneud eu penderfyniad terfynol, os bydd angen.”