Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi busnesau i ddiogelu eu hunain rhag twyll cyn cyfnod prysur yr wŷl

Wrth i gyfnod masnachu prysuraf y flwyddyn agosáu, mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yn cefnogi busnesau gyda chyngor wedi’i deilwra i’w helpu i’w diogelu eu hunain rhag twyll bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 December 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 December 2021
Gweld yr holl ddiweddariadau

Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, rydym ni’n annog busnesau, yn enwedig busnesau bach, i ddefnyddio ein hadnodd Gwytnwch rhag Twyll Bwyd. Dyma adnodd hunanasesu cyflym, rhad ac am ddim sy’n helpu busnesau i ddeall lle y gallai fod angen cefnogaeth a diogelwch pellach arnynt rhag twyll bwyd. 

Yn dilyn asesiad cychwynnol yr adnodd, gall gweithwyr yn yr Uned weithio gyda busnesau i nodi a rhoi awgrymiadau a chyngor yn seiliedig ar anghenion unigol, a hynny er mwyn sicrhau’r lefel uchaf o ddiogelwch rhag twyll bwyd.

Mae cyngor ac awgrymiadau i fusnesau yn cynnwys cefnogaeth fel:

  • Sicrhau bod cyflenwyr i’ch busnes yn gyfreithlon a bod offer ar gael i gydnabod hyn
  • Hyfforddi gweithwyr i gydnabod twyll bwyd a deall sut i roi gwybod amdano
  • Gallu adnabod archebion gan gwmnïau ffug neu rai sydd wedi’u clonio
  • Cwestiynau i’w gofyn er mwyn herio a  pheidio â dibynnu ar ewyllys da neu hanes gwaith blaenorol
  • Cydnabod pan fydd rhywbeth yn rhy dda i fod yn wir

Meddai Steve Smith, Pennaeth Allgymorth ac Atal yn yr Uned: 

“Mae troseddau bwyd yn costio £11.6bn i fusnesau’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Mae’n cael effaith enfawr ar fusnesau, ac efallai na fydd rhai ohonynt byth yn adfer o’r golled ariannol. Wrth i’r Nadolig agosáu, mae busnesau’n brysur yn canolbwyntio ar fasnachu, sef yn aml yr adeg pan fyddant yn fwyaf agored i niwed. 

Mae busnesau wedi wynebu llu o heriau rhyfeddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac maent yn parhau i wneud hynny. Felly yn fwy nag erioed, rydym ni’n annog busnesau i ddefnyddio’r adnodd cyflym ac effeithiol fel y gallwn ni ddechrau sgwrs â nhw am eu hanghenion busnes unigol. 

Ein nod yw sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei ddal gan droseddau bwyd, sy’n golygu y gall busnesau ganolbwyntio ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig iddyn nhw a’u cwsmeriaid yn ystod cyfnod prysur iawn."

Os oes gennych chi gwestiynau pellach ar gyfer Tîm Atal yr Uned, neu os hoffech chi gael cefnogaeth i wella gwytnwch eich busnes rhag twyll , nodwch eich cyfeiriad e-bost ar y diwedd neu cysylltwch â ni yn uniongyrchol drwy NFCU.Prevention@food.gov.uk