Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Strategaeth Fwyd Genedlaethol – Rhan 2

Following the publication of Part Two of the National Food Strategy today, the FSA Chair welcomes the independent review.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 July 2021

Cafodd y Strategaeth Fwyd Genedlaethol dan arweiniad Henry Dimbleby ei chomisiynu gan y llywodraeth i osod gweledigaeth a chynllun ar gyfer gwell system fwyd. Heddiw, mae Ail Ran y Strategaeth Fwyd Genedlaethol wedi'i chyhoeddi.

Croesawoodd yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yr adroddiad gan ddweud:

“Mae adroddiad y Strategaeth Fwyd Genedlaethol yn haeddu cael ei ddarllen yn eang a’i ystyried o ddifri gan bawb sydd â chyfrifoldebau dros unrhyw ran o’n system fwyd. Mae ei naratif cryf yn canolbwyntio ar yr heriau brys sy’n wynebu’r system fwyd, a sut y mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd, ar draws y llywodraeth a’r diwydiant, i greu system sy’n dda i iechyd pobl a’r blaned. 

“Rwy’n croesawu’r adroddiad, gan gynnwys ei argymhellion i ehangu rôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae’r ASB yn rheoleiddiwr annibynnol y gellir ymddiried ynddo i sicrhau bod bwyd yn ddiogel a’i fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth, ond mae’n gosod buddiannau defnyddwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn edrych ymlaen at drafod yr adroddiad gyda’r llywodraeth a phartneriaid eraill, a chydweithio â nhw i greu system fwyd gadarn, iachach a mwy cynaliadwy.”