Rhybudd alergedd brys: Cynhwysion mwstard wedi’u halogi â physgnau
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynghori pobl sydd ag alergedd i bysgnau i osgoi bwyta bwydydd sy’n cynnwys neu a allai gynnwys mwstard, powdr mwstard neu flawd mwstard oherwydd ei bod yn bosib eu bod wedi’u halogi â physgnau.
Mae rhestr lawn o’r cynhyrchion sydd wedi’u galw yn ôl i’w chael yn yr hysbysiad o rybudd diweddaredig.
Mae’r cynhwysion mwstard hyn hefyd i’w cael mewn bwydydd fel dipiau, sawsiau, saladau a brechdanau wedi’u pecynnu ymlaen llaw.
Mae’r ASB yn gweithio ar frys gyda’r awdurdodau lleol perthnasol, busnesau unigol a’r diwydiant i nodi pa gynhyrchion yr effeithiwyd o bosib arnynt.
Rydym wedi olrhain y cynhwysion mwstard halogedig i gynhyrchydd yn yr India o’r enw GT Agro Industries ac wedi nodi un cwmni sydd wedi cyflenwi’r cynhwysion hyn i’w defnyddio mewn bwyd yn y DU. Nid oes unrhyw dystiolaeth hyd yn hyn fod yr achos hwn wedi effeithio ar gyflenwyr eraill.
Wrth i ni geisio nodi’r cynhyrchion unigol a allai fod wedi’u halogi â’r cynhwysion mwstard hyn ac, oherwydd difrifoldeb rhai adweithiau alergaidd i bysgnau, rydym yn cymryd camau rhagofalus fel bod yr wybodaeth ddiweddaraf am y risg bosib ar gael i bobl ag alergedd i bysgnau, ac fel bod modd i’r bobl hynny gymryd camau i gadw eu hunain yn ddiogel. Os yw mwstard yn bresennol mewn bwyd, dylid ei labelu mewn print trwm ar y pecyn oherwydd ei fod yn alergen. Os oes risg y gallai mwstard fod yn bresennol yn anfwriadol mewn bwyd, bydd label ‘gallai gynnwys’ ar gyfer mwstard. Os ydych chi’n bwyta allan, gofynnwch i staff y caffi neu’r bwyty a yw unrhyw rai o’u cynhyrchion yn cynnwys mwstard – yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i fusnesau bwyd ddarparu’r wybodaeth hon i gwsmeriaid.
Pan fyddwn yn darganfod bod cynnyrch unigol wedi’i effeithio, byddwn yn cyhoeddi rhybudd alergedd penodol ar ein gwefan. Mae’r cwmni yn y DU yr effeithiwyd arno, FGS Ingredients Ltd, wedi cynghori ei gwsmeriaid i dynnu nwyddau sy’n cynnwys y cynhwysion mwstard halogedig oddi ar y farchnad.
Rydym wedi gofyn i’r diwydiant adolygu eu systemau cyflenwi bwyd a thynnu unrhyw gynhyrchion a allai fod â chynhwysion mwstard halogedig oddi ar y farchnad.
Dywedodd Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Dylai’r bobl hynny sydd ag alergedd i bysgnau osgoi bwyta cynhyrchion sy’n cynnwys mwstard fel cynhwysyn nes i ni ganfod y cynhyrchion unigol yr effeithir arnynt. Dylai rhieni a gofalwyr plant sydd ag alergedd i bysgnau gymryd gofal i wirio labeli’r bwyd y maen nhw’n ei brynu ac, os ydyn nhw’n bwyta allan, neu’n cael tecawê, dylen nhw ofyn i’r bwyty neu’r caffi am fwydydd a allai gynnwys mwstard.
Cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth, byddwn yn diweddaru defnyddwyr. Fel bob amser, rydym yn annog pobl ag alergedd i gofrestru ar gyfer ein rhybuddion alergedd er mwyn iddyn nhw gael gwybod am hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl.”
Hanes diwygio
Published: 20 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Rhagfyr 2024