£19.2 miliwn ar gyfer prosiect gwyliadwriaeth traws-lywodraethol i ddiogelu iechyd y cyhoedd
Mae tîm y prosiect trawsadrannol – sef y tîm y tu ôl i Raglen Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd (PATH-SAFE) – wedi llwyddo i gael cyllid y Llywodraeth ar gyfer y prosiect drwy ail rownd Cronfa Canlyniadau a Rennir Trysorlys EM.
Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Safonau Bwyd yr Alban (FSS), Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE), ac Asiantaeth yr Amgylchedd i brofi cymhwyso technolegau genomig wrth gadw golwg ar bathogenau a gludir gan fwyd a microbau ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig (DU).
Bydd yr arian yn cefnogi prosiect tair blynedd gyda’r nod o ddatblygu rhwydwaith gwyliadwriaeth cenedlaethol peilot. Bydd yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes dilyniannu DNA a samplu amgylcheddol i wella canfod ac olrhain pathogenau a gludir gan fwyd a phathogenau ymwrthedd gwrthficrobaidd trwy’r system fwyd-amaeth gyfan o’r fferm i’r fforc. Bydd cronfa ddata newydd wrth wraidd y rhwydwaith ‘rhithwir’ hwn a fydd yn caniatáu dadansoddi, storio a rhannu dilyniant pathogenau a ffynonellau data, a gesglir o sawl lleoliad ledled y DU gan y llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus.
Amcangyfrifir bod clefydau a gludir gan fwyd yn y DU yn achosi tua 2.4 miliwn o achosion o salwch y flwyddyn. Amcangyfrifir bod cost y baich hwn ar gymdeithas dros £9 biliwn y flwyddyn. Dyluniwyd y prosiect hwn i helpu i ddiogelu bwyd, amaethyddiaeth a defnyddwyr yn y DU trwy ddefnyddio technoleg flaengar i ddeall sut mae pathogenau ac AMR yn lledaenu. Yn y pen draw, bydd olrhain ffynhonnell y materion hyn yn ein helpu i ddatblygu gwell strategaethau rheoli i leihau salwch a marwolaethau.
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn peri risg mawr i iechyd y cyhoedd, a gallai gwrthfiotigau, nad ydynt yn effeithiol mwyach, achosi 10 miliwn o farwolaethau bob blwyddyn ledled y byd erbyn 2050. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae’r pandemig presennol hyd yma wedi achosi tua thair miliwn o farwolaethau yn fyd-eang.
Mae gwerthiannau gwrthfiotigau yn y DU ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd wedi haneru yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Bydd y prosiect newydd hanfodol hwn yn adeiladu ar y cynnydd hwnnw, ac yn sicrhau bod gwrthfiotigau’n parhau i fod yn effeithiol i bobl ac i anifeiliaid.
Mae AMR yn bandemig distaw sydd eisoes yn fygythiad difrifol i feddygaeth fodern a’n planed, trwy wneud heintiau cyffredin yn anoddach eu trin mewn bodau dynol ac anifeiliaid. Er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiad byd-eang hwn, mae angen i ni wneud gwell defnydd o’n datblygiadau technolegol, a chryfhau ein gallu i gasglu, dadansoddi a rhannu data iechyd o bob agwedd ar fywyd.
Gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed yng nghyfarfodydd G7 eleni, bydd y prosiect newydd hwn yn ein helpu i nodi sut mae pathogenau ac AMR yn lledaenu, a hynny trwy ddadansoddi ffactorau bwyd, yr amgylchedd ac iechyd. Trwy’r dull cydgysylltiedig hwn, byddwn ni’n gallu cymryd camau pendant i achub miloedd o fywydau bob blwyddyn.
Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu’r dull “Un Iechyd”, gan gydnabod bod cysylltiad rhwng iechyd, bwyd a’r amgylchedd, ac y gall AMR yn yr amgylchedd arwain at oblygiadau difrifol i sectorau eraill.
Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i ddeall y rôl gymhleth y mae’r amgylchedd yn ei chwarae wrth ddatblygu, cynnal a chludo ymwrthedd sy’n arwain at ddod i gysylltiad â phobl, anifeiliaid a chnydau. O’r diwedd, gallwn ni ddechrau defnyddio gwybodaeth amgylcheddol er mwyn adeiladu dull “Un Iechyd” go iawn tuag at AMR.
Mae gweithio ar draws diwydiannau a gweithredu agwedd Un Iechyd yn rhan hanfodol o’n dull o ddeall ac olrhain ymwrthedd gwrthfiotig yn well, a sicrhau bod gwrthfiotigau’n parhau i weithio. Bydd ein gwaith gwyliadwriaeth parhaus a sefydledig ar ymwrthedd gwrthfiotigau mewn samplau gan gleifion â heintiau gastroberfeddol yn rhan bwysig o’r fenter ar y cyd hon, a bydd yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws y system.
Mae Cronfa Canlyniadau a Rennir y Llywodraeth (SOF) yn profi dulliau arloesol i ddod â’r sector cyhoeddus ynghyd. Ei nod yw mynd i’r afael â materion trawsbynciol mewn modd sy’n gwella canlyniadau ac yn sicrhau gwerth am arian.