Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Prisiau bwyd yn parhau i fod yn bryder mawr ymhlith defnyddwyr, yn ôl mewnwelediadau diweddaraf yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi adroddiad diwedd blwyddyn yr Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr misol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 July 2024

Mae’r adroddiad diwedd blwyddyn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024.

Yn ôl yr adroddiad, pan ofynnwyd i ymatebwyr ym mis Mawrth 2014 pa mor bryderus oedden nhw am restr o bynciau’n ymwneud â bwyd, dyma’r materion a oedd yn peri pryder i’r nifer uchaf o ymatebwyr:

a.   prisiau bwyd – 87% yn bryderus
b.   bwyd wedi’i brosesu’n helaeth (ultra-processed) neu ei or-brosesu – 77% yn bryderus)
c.   tlodi bwyd ac anghydraddoldeb bwyd – 75% yn bryderus)

Mae cyfran yr ymatebwyr sy’n mynegi pryder am y pynciau hyn wedi aros yn weddol sefydlog ers mis Gorffennaf 2023. 

Mae nifer y defnyddwyr a nododd eu bod yn poeni am allu fforddio bwyd yn ystod y mis nesaf wedi gostwng ychydig o 28% ym mis Gorffennaf 2023 i 22% ym mis Chwefror a mis Mawrth 2024. Fodd bynnag, roedd y rheiny a oedd yn poeni am fforddiadwyedd bwyd yn fwy tebygol o nodi eu bod yn cymryd risgiau diogelwch bwyd i arbed arian, fel gostwng tymheredd coginio bwyd neu ddiffodd oergell/rhewgell sy’n cynnwys bwyd. 

Mae’r data diweddaraf hwn yn dangos bod cost prynu bwyd yn dal i boeni’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr. Er y bu ychydig o welliant, mae dros un o bob pump yn nodi eu bod yn poeni am allu fforddio bwyd. Mae’n peri pryder arbennig bod rhai yn dweud eu bod yn troi at arferion diogelwch bwyd peryglus er mwyn arbed arian.
Michelle Patel, Dirprwy Gyfarwyddwr Dadansoddi yn yr ASB:

Mae’r adroddiad llawn ar gael yn adran ymchwil ein gwefan.

Gair am yr Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr

Arolwg tracio misol yr ASB yw’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr, sy’n monitro newidiadau yn ymddygiad ac agweddau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. 

Bob mis, cynhelir yr arolwg gyda thua 2,000 o oedolion (16 oed neu hŷn) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd wedi cofrestru ar gyfer panel arolwg ar-lein YouGov.  

Mae’r Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr yn ategu arolwg ystadegyn swyddogol yr ASB, Bwyd a Chi 2, sy’n casglu data mwy cynhwysfawr bob dwy flynedd, gan fonitro ymddygiad ac agweddau defnyddwyr dros fwy o amser. 

I gael mwy o wybodaeth

I glywed mwy o fanylion am ein hadroddiad diwedd blwyddyn, cofrestrwch ar gyfer ein seminar Cnoi Cil ar 14 Awst.

Bydd yr adroddiad chwarterol nesaf sy’n ymdrin â chanfyddiadau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024 yn cael ei gyhoeddi ar 29 Gorffennaf 2024.